Offerynnau Statudol

2007 Rhif 947 (Cy.81)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

20 Mawrth 2007

Yn dod i rym

29 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 157(1), 160(1), 168 a 210(7)(1) o Ddeddf Addysg 2002 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.

Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

2.—(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(2) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), mewnosoder y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor —

(3) Yn rheoliad 3(ch), ychwaneger y canlynol ar ôl y gair “perchennog” —

(4) Ar ddiwedd paragraff 2(2)(b) o'r Atodlen, mewnosoder y canlynol —

(5) Ar ddiwedd paragraff 2 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —

(5) At ddibenion y paragraff hwn, pan fo'r perchennog yn gorfforaeth sydd yn gwmni cyfyngedig trwy gyfrannau (yn ystyr Deddf Cwmnïau 1985), nid yw person i gael ei drin fel aelod o'r gorfforaeth oni bai ei fod yn dal o leiaf 5% o gyfalaf cyfrannau'r cwmni.

(6) Ar ôl paragraff 5 o'r Atodlen, mewnosoder y paragraff canlynol —

5A.  Nifer y disgyblion yn yr ysgol sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(7) Yn lle paragraff 7(ch) o'r Atodlen, rhodder —

(8) Ar ddiwedd paragraff 10(c) o'r Atodlen, mewnosoder —

(9) Yn lle paragraff 10(ch) o'r Atodlen, rhodder —

(10) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder y paragraff canlynol —

14.  Pan fo newid wedi digwydd yn aelodaeth unrhyw gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu gorff o bersonau a enwir fel perchennog yn y gofrestr, mewn perthynas ag unrhyw aelod newydd a gaiff ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen hon, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.

Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003

3.—(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003(7) fel a ganlyn.

(2) Yn Rheoliad 2, yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y canlynol —

ystyr “tystysgrif cofnod troseddol briodol” (“appropriate criminal record certificate”), mewn perthynas â pherson a gyflogir mewn ysgol, yw —

(i)

pan fo'r person yn dal yn yr ysgol swydd a grybwyllir yn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu

(ii)

pan na fo'r person yn dal swydd o'r fath, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997;

ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno.; ac

ystyr “yr unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw—

(i)

yr unigolyn sydd â rheolaeth gyflawn dros redeg yr ysgol o ddydd i ddydd; neu

(ii)

pan fo'r rheolaeth honno wedi'i rhannu rhwng dau neu fwy o unigolion, yr un ohonynt sydd wedi'i enwebu gan y perchennog fel yr unigolyn cyfrifol.

(3) Ym mharagraff 3(6) o'r Atodlen, ar ôl y gair “Cyntaf” mewnosoder “ysgrifenedig”.

(4) Yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff 4 o'r Atodlen, rhodder —

(a) yn achos perchennog sy'n unigolyn, os yw'r perchennog wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;

(aa) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, bod yr unigolyn cyfrifol wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;

(b) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, os yw'r perchennog yn sicrhau fod yna dystysgrif cofnod troseddol briodol ar gael mewn perthynas â phob aelod o'r gorfforaeth, y ffyrm neu'r corff, os yw'r ddau amod a ganlyn yn gymwys:

(i) bod yr aelod yn cael ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (aelodau sy'n dal llai na 5% o gyfalaf cyfrannau cwmni i gael eu diystyru); a

(ii) bod yr aelod yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wneir yn briodol am dystysgrif o'r fath;

(bb) cyn penodi unrhyw aelod o staff i weithio yn yr ysgol, pan fo'r darpar aelod o staff yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto, fod y perchennog yn sicrhau —

(i) fod yr unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol; a

(ii) fod yr unigolyn yn peri bod y dystysgrif ar gael i'r perchennog;.

(5) Ar ddiwedd paragraff 4 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —

(dd) mae unrhyw wladolyn tramor sy'n gweithio yn yr ysgol neu at ei dibenion yn ddarostyngedig i'r gwiriadau a osodir yng nghanllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Addysg (Cylchlythyr 34/02).

(6) Ym mharagraff 6 o'r Atodlen —

(i) yn is-baragraff (3)(a), ar ôl “crynodeb o'r adroddiad”, mewnosoder “a baratowyd gan y corff hwnnw”; a

(ii) ar ddiwedd is-baragraph (5), mewnosoder “ac eithrio nad oes angen anfon adroddiad at riant sydd wedi cytuno fel arall â'r ysgol”.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“y rheoliadau gwybodaeth”) ac i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol 2003 (“y rheoliadau safonau”).

Caiff y rheoliadau gwybodaeth eu diwygio er mwyn eglurhau'r gofynion a osodir ar berchnogion ysgolion annibynnol ynglŷn â gwneud gwiriadau cofnodion troseddol a gwiriadau cysylltiedig gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ynghylch personau sy'n gweithio mewn ysgol annibynnol. Mae'r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth bellach gael ei darparu ynglŷn ag aelodau corff corfforaethol sydd yn berchennog ysgol annibynnol, ac ynglŷn â'r nifer o blant yr edrychir ar eu hôl sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol o'r fath.

Caiff y rheoliadau safonau hefyd eu diwygio er mwyn eglurhau gofynion ynglyn â gwiriadau cofnodion troseddol ac er mwyn pennu'r tystysgrifau cofnodion troseddol hynny y mae'n rhaid rhoi copi ohonynt i'r Cynulliad, sef yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru.

(1)

2002 p. 32. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 212(1) o Ddeddf Addysg 2002. Back [1]

(2)

O.S. 2003/3230 (Cy. 310). Back [2]

(3)

O.S. 2002/233. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 2006/748 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 2006/2181. Back [3]

(4)

1997 p. 50. Mewnosodwyd adrannau 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15). Back [4]

(5)

Mewnosodwyd adrann 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005. Back [5]

(6)

Mewnosodwyd Adran 113 gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005. Back [6]

(7)

O.S. 2003/3234 (Cy. 314), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929. Back [7]