Offerynnau Statudol

2007 Rhif 842 (Cy.74)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

6 Ebrill 2007

Go to Explanatory Note

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(3).

Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(4).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.

RHAN 1 RHAGYMADRODD

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2007.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, gan gynnwys pan gludir hwy neu pan fyddant mewn marchnad;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;

“deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol” (“previous cattle tagging legislation”) yw—

(a)

Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(5);

(b)

Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(6);

(c)

Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion Adnabod, Marcio a Bridio) 1990(7);

(ch)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984(8); a

(d)

Gorchymyn Twbercwlosis (yr Alban) 1984(9);

ystyr “dilys” (“valid”), o ran pasbort gwartheg, yw pasbort gwartheg a gafodd ei gwblhau'n gywir a'i lofnodi yn y lle priodol yn gywir gan bob ceidwad i'r anifail a bod Rhif adnabod a disgrifiad o'r anifail yn y pasbort yn cyfateb i dagiau clust yr anifail;

ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;

ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yw—

(a)

pasbort gwartheg a ddyroddwyd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(b)

pasbort gwartheg a ddyroddwyd o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(10); ac

(c)

dogfen symud a ddyroddwyd o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(11) neu'r mesur cyfatebol yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No. 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(12));

(2) Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—

(a) y Rheoliadau hyn,

(b) Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(13)); neu

(ch) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(14)),

fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

(2)

O. S. 2005/2766. Back [2]

(3)

O. S. 2003/1246. Back [3]

(4)

1973 p. 51. Back [4]

(5)

O. S. 1998/871. Back [5]

(6)

O. S. 1995/12. Back [6]

(7)

O. S. 1990/1867. Back [7]

(8)

O. S. 1984/1943. Back [8]

(9)

O. S. 1984/2036. Back [9]

(10)

O. S. 1996/1686. Back [10]

(11)

O. S. 2000/3339 (Cy.217), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/273 (Cy.29). Back [11]

(12)

OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1. Back [12]

(13)

OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 65. Back [13]

(14)

OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18. Back [14]