Offerynnau Statudol

2007 Rhif 837 (Cy.72)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

At y diben a grybwyllir yn

rheoliad 1(1)(a)

1 Gorffennaf 2007

At bob diben arall

1 Hydref 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(6), 34(1), (2) a (3), 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007 a deuant i rym —

(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth at ddibenion Atodlen 1 i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,

(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;

mae i “corff priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate body” gan adran 30(4) o'r Ddeddf a chan Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007(2).

mae i “P” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2;

mae i “R” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r canlynol yn wir—

(a) bod person (“P”) wedi cydsynio cyn 31 Mawrth 2008 i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil (“y prosiect”) a ddechreuodd cyn 1 Hydref 2007 ond

(b) cyn i'r prosiect ddod i ben, bod P yn colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo, ac

(c) y byddai ymchwil at ddibenion y prosiect o ran P, heblaw am y Rheoliadau hyn, yn anghyfreithlon yn rhinwedd adran 30 o'r Ddeddf.

Ymchwil y caniateir ei gyflawni er bod cyfranogwr yn colli galluedd

3.  Er i P golli galluedd, caniateir i ymchwil at ddibenion y prosiect gael ei gyflawni gan ddefnyddio gwybodaeth neu ddeunydd sy'n ymwneud â P —

(a) os yw'r prosiect yn bodloni'r gofynion a osodir yn Atodlen 1;

(b) os cafwyd yr holl wybodaeth neu'r deunydd sy'n ymwneud â P a ddefnyddir yn yr ymchwil cyn i P golli galluedd;

(c) os yw'r wybodaeth honno neu'r deunydd hwnnw naill ai—

(i) yn ddata o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998, neu

(ii) yn ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA dynol a/neu yn eu cynnwys; ac

(ch) os yw'r person sy'n cynnal y prosiect (“R”) yn cymryd y camau hynny sy'n ymwneud â P a osodir yn Atodlen 2.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Rheoliad 3

ATODLEN 1 Gofynion y mae'n rhaid i'r prosiect eu bodloni

1.  Mae protocol a gymeradwywyd gan gorff priodol ac sy'n cael effaith mewn cysylltiad â'r prosiect yn darparu bod ymchwil yn cael ei gyflawni sy'n ymwneud â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i barhau i gymryd rhan ynddo.

2.  Rhaid bod y corff priodol wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau y bydd gofynion Atodlen 2 yn cael eu bodloni.

Rheoliad 3

ATODLEN 2 Camau y mae'n rhaid i'r person sy'n cynnal y prosiect eu cymryd

1.  Rhaid i R gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw person—

(a) heblaw rhywun sydd yn ei swydd broffesiynol neu er mwyn tâl, yn gofalu am P neu mae ganddo ddiddordeb yn lles P, a

(b) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon.

2.  Os nad yw R yn gallu darganfod pwy yw person o'r fath rhaid i R, yn unol â chanllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod priodol, enwebu person—

(a) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon, ond

(b) nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r prosiect.

3.  Rhaid i R roi i'r person a enwir o dan baragraff 1, neu a enwebir o dan baragraff 2, wybodaeth am y prosiect a rhaid iddo ofyn i'r person hwnnw—

(a) am gyngor a ddylid cyflawni ymchwil o'r fath a arfaethir mewn perthynas â P, a

(b) beth, ym marn y person hwnnw, fyddai dymuniadau a theimladau P yn debygol o fod wrth i ymchwil o'r fath gael ei gyflawni pe bai'r galluedd gan P ynglyn â'r mater.

4.  Pe bai'r person yr ymgynghorir ag ef ar unrhyw adeg yn cynghori R y byddai dymuniadau a theimladau P ym marn y person hwnnw, yn debygol o arwain P i dynnu'n ôl oddi wrth y prosiect pe bai'r galluedd ganddo ynglyn â'r mater, rhaid i R sicrhau bod P yn cael ei dynnu oddi ar y prosiect.

5.  Nid yw'r ffaith bod person yn rhoddai i atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan P, neu os yw'n ddirprwy i P, yn atal y person hwnnw rhag bod yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraffau 1 i 4.

6.  Rhaid i R sicrhau na wneir dim byd i P yn ystod yr ymchwil a fyddai'n groes i—

(a) penderfyniad ymlaen llaw gan P sydd yn effeithiol, neu

(b) unrhyw ffurf arall ar ddatganiad a wnaed gan P ac na chafodd ei dynnu'n ôl wedyn,

y mae R yn ymwybodol ohonynt.

7.  Rhaid tybio bod buddiannau P yn gorbwyso rhai gwyddoniaeth a chymdeithas.

8.  Os bydd P yn dangos (mewn unrhyw fodd) ei fod yn dymuno bod yr ymchwil ynglyn ag ef yn dod i ben, rhaid dod ag ef i ben yn ddi-oed.

9.  Rhaid dod â'r ymchwil i ben yn ddi-oed os bydd gan R ar unrhyw adeg sail resymol dros gredu nad yw un neu fwy o'r gofynion a osodir yn Atodlen 1 bellach yn cael ei fodloni neu eu bodloni ac nad oes bellach unrhyw drefniadau rhesymol ar waith i sicrhau bod gofynion yr Atodlen hon yn cael eu bodloni ynglyn â P.

10.  Rhaid i R gynnal yr ymchwil yn unol â'r ddarpariaeth a wnaed yn y protocol y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1 ar gyfer ymchwil i gael ei gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo.

(1)

2005 p.9. Enwir adran 64(1) oherwydd yr ystyr a roddir ynddi i “prescribed”. Back [1]

(2)

O.S. 2007/833 (Cy.71). Back [2]