Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 833 (Cy.71)

GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Mawrth 2007

Yn dod i rym

At y diben a grybwyllir yn

Rheoliad 1(1)(a)

1 Gorffennaf 2007

At bob diben arall

1 Hydref 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(4), 30(6) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 a deuant i rym—

(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,

(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cyrff Priodol

2.  At ddibenion adrannau 30, 31 a 32 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y corff priodol o ran prosiect ymchwil yw pwyllgor—

(a) a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo; a

(b) a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”)(p.9) ac maent yn diffinio 'corff priodol' at ddibenion adrannau 30 i 32 o'r Ddeddf honno. Mae adran 30(1) o'r Ddeddf honno'n darparu bod ymchwil penodol a gaiff ei wneud i berson neu mewn perthynas â pherson sydd heb alluedd yn anghyfreithlon oni chaiff ei wneud yn rhan o brosiect a gymeradwywyd gan gorff priodol a'i fod yn bodloni gofynion pellach a bennir yn y Ddeddf.

Mae rheoliad 1 yn darparu byd y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran gwneud ymchwil yng Nghymru. Mae'n ychwanegol yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau am gymeradwyaeth i ymchwil gael ei wneud a phenderfynu arno o dan y Ddeddf ac i ddod i rym ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.

Mae rheoliad 2 yn diffinio corff priodol fel pwyllgor a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol, mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo ac a gydnabyddir i'r diben hwnnw gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.