Offerynnau Statudol
CŵN, CYMRU
RHEOLI CŵN
Wedi'u gwneud
6 Mawrth 2007
Yn dod i rym
15 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y person priodol o ran Cymru fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(4) a (5), 56(1), (3), (4) a (5) a 67(1) o'r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw naill ai prif awdurdod (“primary authority”) neu awdurdod eilaidd (“secondary authority”) fel y'i diffinnir yn adran 58 (“primary and secondary authorities”) o'r Ddeddf;
mae i “awdurdod mynediad” a “tir mynediad” yr ystyr a roddir i “access authority” ac “access land” yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr “tir yr effeithir arno” (“affected land”) yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cŵn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cŵn.
3. Cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—
(a) ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—
(i) sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—
(aa) drwy ei ddisgrifio, a
(bb) pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;
(ii) sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;
(iii) sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;
(iv) sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);
(v) sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;
(b) pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.
4. Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—
(a) i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;
(b) pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—
(i) i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;
(ii) i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a
(iii) i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.
5. Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—
(a) peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;
(b) cyhoeddi ar ei wefan—
(i) hysbysiad sy'n datgan—
(aa) fod y gorchymyn wedi'i wneud,
(bb) yn lle y gellir cael copïau ohono;
(ii) copi o'r gorchymyn,
(iii) copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;
(c) anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.
6. Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cŵn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).
7.—(1) At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.
(2) Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cŵn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(3) Caiff gorchymyn rheoli cŵn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.
8. Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cŵn—
(a) wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd “tramgwydd”); a
(b) ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
9. Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.
10. Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cŵn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948(4), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn ([X](5)) [X](6)
Mae [X] (7), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](8).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](9).
3—(1) Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2](10) ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario, neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b) bydd gosod y baw ci mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn symud ymaith digonol oddi ar y tir;
(c) ni fydd bod yn anymwybodol o'r bawa (p'un ai oherwydd peidio â bod yn y cyffiniau ai peidio), na bod heb declyn i symud y baw ci ymaith neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â symud y baw ci ymaith;
(ch) mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](11)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](12)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](13)
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cŵn ar Dennyn ([X](14)) [X](15)
Mae [X] (16), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](17).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](18).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](19), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau](20),oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](21)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](22)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](23)
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd” yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd ([X](24)) [X](25)
Mae [X](26) a elwir yn y Gorchymyn hwn “yr awdurdod”) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](27).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](28).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](29), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno (30), oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b) ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “swyddog awdurdodedig o Awdurdod” yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](31)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](32)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](33)
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Gwahardd Cŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Gwahardd Cŵn [X](34) [X](35)
Mae [X](36), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](37).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](38).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](39) os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b) sydd yn fyddar, mewn perthynas â chi wedi'i hyfforddi gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(c) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno; a
(b) mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](40)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](41)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](42)
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig)” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gŵn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gŵn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cŵn (Uchafswm Penodedig) [X](43) [X](44)
Mae [X] (45), drwy hyn yn gŵneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](46).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](47).
3 Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gŵn y caiff person fynd â hwy arno yw [X](48).
4—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](49), os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.
5 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](50)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](51)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](52)
Rheoliadau 7 ac 8
1 Bydd gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
2 Pan fo'r disgrifiad o'r tramgwydd yn cael ei ddiwygio, rhaid gwneud y diwygiad drwy dynnu allan yr erthygl gyfan sy'n gosod y tramgwydd, a bydd yr erthygl a roddir i mewn yn ei lle yn gosod i lawr y tramgwydd fel y byddai'n ofynnol ei ddatgan petai yn cael ei gynnwys mewn gorchymyn rheoli cŵn sy'n cael ei wneud o'r newydd.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn 702 (W.59)(53) (Diwygio) [X](54)
Mae [X](55), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](56).
2 Diwygir [XXXX](57) fel a ganlyn:
[mewnosoder y diwygiadau](58).
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) (“Deddf 2005”) yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cŵn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (“awdurdodau”). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—
(a) tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10); a
(b) tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cŵn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—
(a) y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdodau pan maent yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion rheoli cŵn (rheoliadau 3 i 6);
(b) y tramgwyddau y gellir darparu ar eu cyfer mewn gorchymyn rheoli cŵn (rheoliad 7(1) a pharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5);
(c) y cosbau uchaf y gellir eu darparu mewn gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas â'r tramgwyddau a ragnodir (rheoliad 7(2));
(ch) cynnwys a ffurf gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchmynion sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) (rheoliadau 8(a) a 9 a pharagraff 2 o bob un o Atodlenni 1 i 5 ac Atodlen 6); a
(d) y dyddiad cynharaf y bydd gorchymyn (gan gynnwys gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) yn dod i rym arno (rheoliad 10).
Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf
2000 p. 37; am “access authority” gweler adran 1(2) ac am “access land” gweler adran 1(1). Back [2]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [5]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [6]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [7]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [8]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [9]
Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys. Back [10]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [11]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [12]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [13]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [14]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [15]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [16]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [17]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [18]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [19]
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn. Back [20]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [21]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [22]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [23]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [24]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [25]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [26]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [27]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [28]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [29]
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn. Back [30]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [31]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [32]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [33]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [34]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [35]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [36]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [37]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [38]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [39]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [40]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [41]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [42]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [43]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [44]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [45]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [46]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [47]
Mewnosoder yr uchafswm. Back [48]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [49]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [50]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [51]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [52]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio. Back [53]
Mewnosoder flwyddyn gwneud y Gorchymyn diwygio. Back [54]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [55]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [56]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio. Back [57]
Er enghraifft: “Yn lle [Paragraff X o] Erthygl [X] rhodder [y paragraff / yr Erthygl] a ganlyn:...”, “ar ôl y geiriau [X] mewnosoder y geiriau a ganlyn: “ yn lle “[X]”, rhodder y geiriau “[X]””, etc.]. Back [58]