Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 580 (Cy.52)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007

Wedi'i wneud

27 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 4 a 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007, a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992(3).

Diwygio

2.  Diwygir Gorchymyn 1992 yn unol â'r canlynol.

Atodlen 1

3.—(1) Yn Rhan I (Prentisiaid) o Atodlen 1 (Diffiniad o fyfyrwyr, etc.) i Orchymyn 1992, ym mharagraff 1 diwygier y canlynol—

(a) Yn is-baragraff (1)(b), yn lle “National Council for Vocational Qualifications” rhodder “National Assembly for Wales or the Qualifications and Curriculum Authority”;

(b) Dileer is-baragraff (1)(c)(i); ac

(c) Yn is-baragraff (1)(c)(ii), yn lle “no more than £160 per week” rhodder “employed at a salary or in receipt of an allowance or both, which are, in total no more than £195 per week”.

(2) Yn Rhan II (Myfyrwyr) o Atodlen 1 i Orchymyn 1992 ym mharagraff 2(a), yn lle “Central Bureau for Educational Visits and Exchanges” rhodder “British Council”.

Atodlen 2

4.  Yn Rhan I (Sefydliadau ar gyfer myfyrwyr) o Atodlen 2 (Sefydliadau addysgol rhagnodedig) i Orchymyn 1992—

(1) Ym mharagraff 1, yn lle is-baragraff (d) rhodder “institutions within the higher education sector, as defined in section 91(5) of the Further and Higher Education Act 1992(4)”.

(2) Ym mharagraff 2, o dan y diffiniad o “further education”, yn lle “the Education Act 1944” rhodder “section 2 of the Education Act 1996(5)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran I o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, gostyngir y swm sy'n daladwy o ran y dreth gyngor os yw person sy'n preswylio mewn annedd yn teilyngu cael ei ddiystyru at ddibenion disgownt. Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn darparu i ddosbarthau o bersonau gymhwyso at ddibenion disgownt. Mae Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992 (“Gorchymyn 1992”) yn gwneud darpariaeth bellach ynglyn â rhai o'r dosbarthau hynny.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhannau I a II o Atodlen 1 i Orchymyn 1992 o ran prentisiad a myfyrwyr. Mae Erthygl 4 yn diwygio Rhan I o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwnnw o ran sefydliadau ar gyfer myfyrwyr.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y paragraffau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer y Ddeddf hon yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Back [2]

(3)

O.S. 1992/548, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1994/543; O.S. 1995/619; O.S. 1996/636; O.S. 1996/971; O.S. 1996/3143; O.S. 1997/656; O.S. 1998/291; O.S. 2003/673 (Cy. 83) and O.S. 2004/2921 (Cy. 260). Back [3]

(5)

1996 p.56. Mewnosodwyd adran 2(2A) a (2B) gan adran 110(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21). Amnewidiwyd adran 2(1) gan adran 156(2) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mewnosodwyd adran 2(6A) gan adran 177(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd adran 2(2A), (2B), (3) a (4) gan adran 177(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 7 iddi, paragraff 33 o Atodlen 21 iddi, ac Atodlen 22 iddi. Back [5]