Offerynnau Statudol

2007 Rhif 398 (Cy.44)

COMISIYNYDD POBL HYN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2007

Yn dod i rym

16 Chwefror 2007

Go to Explanatory Note

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1), (3) a (5), 10(1), (4), (5) a (9), 14(1), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraffau 8 a 22 o Atodlen 1 iddi.

RHAN I Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006(1);

ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

ystyr “trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban” (“arrangements in relation to advocacy, complaints or whistle-blowing”) yw trefniadau sy'n dod o fewn is-adrannau (4), (5) a (6) o adran 5 o'r Ddeddf yn ôl y digwydd;

(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —

(a) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b) mewn rheoliad at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c) mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

RHAN II Adolygiad o'r Trefniadau

Cyngor a chymorth a ragnodir

3.  Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 5(4)(b) o'r Ddeddf —

(a) rhoi cyngor a chymorth i bobl hŷn berthnasol yng Nghymru, er mwyn eu galluogi a'u cynorthwyo i fynegi eu barn a'u dymuniadau ar lafar neu drwy ddefnyddio unrhyw ddull arall o gyfathrebu, a

(b) rhoi cyngor (gan gynnwys gwybodaeth) i bobl hŷn berthnasol ynghylch eu hawliau a'u lles.

Rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig

4.—(1) Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion —

(a) adolygu trefniadau mewn perthynas ag eiriolaeth, cwynion neu chwythu'r chwiban,

(b) asesu effaith methiant unrhyw berson i wneud trefniadau o'r fath yn unol ag adran 5(3) o'r Ddeddf, ac

(c) penderfynu a gydymffurfiwyd ag argymhelliad a wnaed mewn adroddiad yn dilyn adolygiad o'r cyfryw drefniadau.

(2) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

(a) o ran darparu gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, darparwyr neu gyn-ddarparwyr gwasanaethau o'r fath, cyflogeion neu gyn-gyflogeion darparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath, personau sy'n gweithio neu a fu'n gweithio i ddarparwyr neu gyn-ddarparwyr o'r fath yn wirfoddol, ac aelodau a chyflogeion a chyn-aelodau a chyn-gyflogeion y Cynulliad;

(b) aelodau (gan gynnwys aelodau etholedig), cyfarwyddwyr, gweithredwyr, swyddogion a chyflogeion person perthnasol, cyn-aelodau, cyn-gyfarwyddwyr, cyn-weithredwyr, cyn-swyddogion a chyn-gyflogeion person perthnasol a phersonau sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i berson perthnasol yn wirfoddol;

(c) derbynnydd neu reolwr eiddo person sydd neu sydd wedi bod yn berson perthnasol neu berson sy'n darparu neu sydd wedi darparu'r gwasanaethau a ddisgrifir yn is-baragraff (a), ei ddatodwr neu ei ddatodwr dros dro neu ei ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn ôl y digwydd.

(3) At ddibenion is-baragraffau (2)(b) ac (c) ystyr “person perthnasol” yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu ar ei gyfer neu berson sy'n darparu'r cyfryw wasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant â'r person hwnnw.