Offerynnau Statudol
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL
CYFLOGAU AMAETHYDDOL
Wedi'i wneud
14 Chwefror 2007
Yn dod i rym
1 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;
(b) yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac
(c) yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu un pwyllgor cyflogau amaethyddol ar gyfer cyfuniad o'r holl siroedd yng Nghymru drwy wneud y diwygiadau angenrheidiol i Orchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974.
1948 p. 47. Diwygiwyd adran 2(1) o Ddeddf 1948 gan adran 149 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (c. 38). Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 2(1) o Ddeddf 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Back [1]
O.S. 1974/515, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1981/179 ac O.S. 1989/1173. Back [2]