Offerynnau Statudol

2007 Rhif 203 (Cy.17)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

30 Ionawr 2007

Yn dod i rym

9 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ac ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.

Diwygio'r Rheoliadau

2.  Diwygir Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002(3) fel a ganlyn.

Dehongli

3.—(1) Yn rheoliad 2(1)—

(a) yn lle'r diffiniad o “Gwladwriaeth AEE” rhodder “ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein”;

(b) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb EIA” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC”(4);

(c) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i selio arnynt”.

(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwgiwyd o dro i dro.

Cymhwyso'r Rheoliadau

4.  Yn rheoliad 3—

(a) ar ôl “rhag” ym mharagraff (3) yn lle “y” mewnosoder “rheoliadau 4 i 26 o'r”; a

(b) ar ôl paragraff (4) ychwaneger—

(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3) rhaid iddo—

(a) ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai'n ofynnol, petai rheoliadau 4 i 26 o'r Rheoliadau hyn i'w cymhwyso i'r prosiect, cyn gwneud penderfyniad sgrinio o dan rheoliad 5(4) neu benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd o dan reoliad 13(1); a

(b) cymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—

(i) yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth wneud y cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a

(ii) yr wybodaeth a ddaeth o unrhyw asesiad o'r prosiect a wnaed o dan is-baragraff (a)..

Darparu gwybodaeth

5.  Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—

(a) y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(5); neu

(b) y'i rhwystrir rhag ei ddatgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.

(4) Pan nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff 3 i'w gymhwyso fel petai'n gorff cyhoeddus o'r fath..

Y cais am ganiatâd

6.  Yn rheoliad 9(3)(b)—

(a) ar ôl “cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol mewnosoder “ac ar wefan briodol”;

(b) yn is-baragraff (ii) ar ôl “cyhoeddi'r hysbysiad” hepgorer “a”;

(c) ar ôl is-baragraff (iii) ychwaneger—

(iv) yn datgan fod rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir fod yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 13(11) ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda; a

(v) yn datgan, pan fo'n berthnasol, â pha rai eraill o Wladwriaethau'r AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd sydd â buddiant mewn unrhyw gyfryw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â'r cais..

Gwybodaeth ychwanegol

7.  Yn rheoliad 10(3), ar ôl “gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol” mewnosoder “ac ar wefan briodol”.

Gwladwriaethau AEE Eraill

8.  Yn rheoliad 11 —

(a) ym mharagraff (2), yn lle “wybodaeth amgylcheddol ychwanegol”, rhodder “wybodaeth bellach y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r cais”;

(b) ar ôl paragraff (6) ychwaneger—

(7) Pan fo Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd datblygu ac wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb EIA, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth EEA honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw i sylw'r cyhoedd..

Y penderfyniad ar ganiatâd

9.  Yn rheoliad 13 —

(a) ym mharagraff (12)(a), yn lle “o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad”, rhodder—

(i) o'r penderfyniad;

(ii) o'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a

(iii) o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais.

(b) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (ii), hepgorer “a”;

(c) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (iii), ychwaneger—

(iv) o grynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais; a

(v) o wybodaeth ynghylch yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007

(1)

O.S. 2001/2555 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd) ac O.S. 2000/248 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt). Back [1]

(2)

1972 p. 68. Ymestynwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (c. 51). Back [2]

(3)

O.S. 2002/2127 (Cy. 214). Back [3]

(4)

OJ Rhif L156, 25.06.03, t. 17. Back [4]

(5)

O.S. 2004/3391. Back [5]