Offerynnau Statudol
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
30 Ionawr 2007
Yn dod i rym
9 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad i asesu'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar yr amgylchedd ac ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 9 Chwefror 2007.
2. Diwygir Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002(3) fel a ganlyn.
3.—(1) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle'r diffiniad o “Gwladwriaeth AEE” rhodder “ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein”;
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb EIA” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC”(4);
(c) ar ddiwedd y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” ychwaneger “fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i selio arnynt”.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwgiwyd o dro i dro.
4. Yn rheoliad 3—
(a) ar ôl “rhag” ym mharagraff (3) yn lle “y” mewnosoder “rheoliadau 4 i 26 o'r”; a
(b) ar ôl paragraff (4) ychwaneger—
“(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3) rhaid iddo—
(a) ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai'n ofynnol, petai rheoliadau 4 i 26 o'r Rheoliadau hyn i'w cymhwyso i'r prosiect, cyn gwneud penderfyniad sgrinio o dan rheoliad 5(4) neu benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd o dan reoliad 13(1); a
(b) cymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—
(i) yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth wneud y cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a
(ii) yr wybodaeth a ddaeth o unrhyw asesiad o'r prosiect a wnaed o dan is-baragraff (a).”.
5. Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—
(a) y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(5); neu
(b) y'i rhwystrir rhag ei ddatgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.
(4) Pan nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr rheoliad 2(2) o'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, mae paragraff 3 i'w gymhwyso fel petai'n gorff cyhoeddus o'r fath.”.
6. Yn rheoliad 9(3)(b)—
(a) ar ôl “cyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol mewnosoder “ac ar wefan briodol”;
(b) yn is-baragraff (ii) ar ôl “cyhoeddi'r hysbysiad” hepgorer “a”;
(c) ar ôl is-baragraff (iii) ychwaneger—
“(iv) yn datgan fod rhaid i unrhyw ganiatâd a roddir fod yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir yn rheoliad 13(11) ac i unrhyw amodau ychwanegol a wêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda; a
(v) yn datgan, pan fo'n berthnasol, â pha rai eraill o Wladwriaethau'r AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb EIA a'r cyhoedd sydd â buddiant mewn unrhyw gyfryw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorir â hwy ynglŷn â'r cais.”.
7. Yn rheoliad 10(3), ar ôl “gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn ardal y tir perthnasol” mewnosoder “ac ar wefan briodol”.
8. Yn rheoliad 11 —
(a) ym mharagraff (2), yn lle “wybodaeth amgylcheddol ychwanegol”, rhodder “wybodaeth bellach y mae'n ei hystyried yn berthnasol i'r cais”;
(b) ar ôl paragraff (6) ychwaneger—
“(7) Pan fo Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd datblygu ac wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb EIA, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y fath gamau ag y mae'n eu hystyried yn briodol i ddwyn unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth EEA honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw i sylw'r cyhoedd.”.
9. Yn rheoliad 13 —
(a) ym mharagraff (12)(a), yn lle “o'i benderfyniad ynghyd â'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn sy'n sail i'r penderfyniad”, rhodder—
“(i) o'r penderfyniad;
(ii) o'r rhesymau a'r ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt; a
(iii) o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais.”
(b) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (ii), hepgorer “a”;
(c) ym mharagraff (12)(c), ar ddiwedd is-baragraff (iii), ychwaneger—
“(iv) o grynodeb o unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyhoedd sydd â buddiant ar y cais; a
(v) o wybodaeth ynghylch yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
30 Ionawr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2127) (“y prif Reoliadau”).
Maent yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2003/35/EC (OJ Rhif L156, 25.6.2003, t.17) sy'n darparu i'r cyhoedd gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau amgylcheddol penodol, sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ Rhif L175, 5.7.85, t.40, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, OJ Rhif L73, 14.3.97, t.5) (“y Gyfarwyddeb EIA”) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, i'r graddau y mae honno yn effeithio ar asesiadau effeithiau amgylcheddol ar dir heb ei drin ac ardaloedd lled-naturiol.
Maent hefyd yn cynnwys diwygiadau i adlewyrchu newid yn y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth amgylcheddol.
Mae rheoliad 3 yn diweddaru dehongliadau yn y prif Reoliadau.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth arfer ei bŵer i roi cyfarwyddyd fod prosiect penodol wedi'i eithrio rhag rheoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, i ystyried a fyddai unrhyw asesiad o'r prosiect yn briodol, ac eithrio asesiad o'r math a fyddai yn digwydd o dan reoliadau 4 i 26 o'r prif Reoliadau, ac i roi gwybodaeth benodol yn ymwneud ag arfer y pŵer gerbron y cyhoedd.
Mae rheoliad 5 yn diweddaru'r cyfeiriad yn y prif Reoliadau at Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 1992 (O.S. 1992/3240 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1447), sydd bellach wedi'u dirymu. Mae'n darparu nad yw'n ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i ymgeisydd am ganiatâd unrhyw wybodaeth y caiff wrthod ei datgelu o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (O.S. 2004/3391) neu y'i rhwystrir rhag ei datgelu gan y Rheoliadau hynny.
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi hysbysiad o gais am ganiatâd ar wefan briodol, ac yn ei gwneud yn ofynnol cynnwys gwybodaeth ychwanegol benodol yn yr hysbysiad.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi unrhyw hysbysiad o wybodaeth amgylcheddol ychwanegol ar wefan briodol.
Mae rheoliad 8 yn diwygio'r gofynion yn y prif Reoliadau sy'n ymwneud â phrosiectau yng Nghymru a ddichon effeithio ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaethau AEE eraill a vice versa.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth ychwanegol benodol wrth roi hysbysiad o benderfyniad i roi neu i wrthod caniatâd.
Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.S. 2001/2555 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â'r gofyniad am asesiad o'r effaith ar yr amgylchedd gan brosiectau sy'n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd) ac O.S. 2000/248 (mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt). Back [1]
1972 p. 68. Ymestynwyd pwerau galluogi adran 2(2) o'r Ddeddf hon yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf yr Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (c. 51). Back [2]
O.S. 2002/2127 (Cy. 214). Back [3]
OJ Rhif L156, 25.06.03, t. 17. Back [4]
O.S. 2004/3391. Back [5]