Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110914783. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 47(8) a 62 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989[2] mewnosoder ar y diwedd —
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
(ii) mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—
From 1 April 2007 occupiers of —
(b) certain hereditaments with a rateable value of more than £2,000 but not more than £5,000 are entitled to rate relief at 25% of the full rates bill; (c) post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of not more than £9,000 are entitled to rate relief at 100% of the full rates bill; a (d) post offices (and hereditaments which include a post office) with a rateable value of more than £9,000 but not more than £12,000 are entitled to rate relief at 50% of the full rates bill.
In the cases of (a), (b) and (d) above billing authorities have discretion to provide relief in respect of all or part of the remaining 50% or 75% as the case may be.".
(4) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2—
(ii) mae trydydd paragraff wedi'i ychwanegu—
O 1 Ebrill 2007 ymlaen bydd gan feddianwyr—
(b) hereditamentau penodol ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £5,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 25% o'r bil ardrethi llawn; (c) swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o nid mwy na £9,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 100% o'r bil ardrethi llawn; (ch) swyddfeydd post (a hereditamentau sy'n cynnwys swyddfa bost) ac iddynt werth ardrethol o fwy na £9,000 ond nid mwy na £12,000 yr hawl i ryddhad ardrethi o 50% o'r bil ardrethi llawn.
Yn achosion (a), (b) ac (ch) uchod mae gan awdurdodau bilio y disgresiwn i ddarparu rhyddhad o ran y cyfan neu ran o'r 50% neu'r 75% gweddilliol yn ôl y digwydd.".
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw fater gael ei gynnwys mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynir o ran unrhyw swm sy'n daladwy o ran unrhyw ddiwrnod cyn 1 Ebrill 2007. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r rheoliadau canlynol o ganlyniad i ddirymu, oddi ar 1 Ebrill 2007, y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig a chyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989 drwy ddileu'r angen i awdurdodau bilio (cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol) i anfon hysbysiad 12 mis i dalwyr ardrethi os yw effaith dyfodiad i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (a dirymiad canlyniadol y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru a dilead disgresiwn awdurdodau bilio i ddarparu rhyddhad ardrethi o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran aneddiadau gwledig) yw y byddai'n ofynnol i dalwyr ardrethi dalu swm taladwy mwy. Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu (Cymru) 1993 drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio osod nodyn yn yr hysbysiadau sy'n galw am dalu ardrethi annomestig ynghylch effaith cyflwyno'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Notes: [1] 1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back [2] O.S. 1989/1059, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/616.back [3] 2003 c.26. Daw adran 63 i rym ar 1 Ebrill 2007.back [4] O.S. 1993/252, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/284, 1996/311, 1996/1880, 1997/356, 1998/155, 2000/794 (Cy.30), 2003/414 (Cy.59) a 2005/256 (Cy.22).back
ISBN 0 11 091478 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 22 December 2006 |