Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914791. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 61(1), 62 a 69 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2007. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 2. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[3] wedi'i ddiwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn. Diwygiadau sy'n ymwneud â datganiadau mynediad 3. —(1) Ar ôl erthygl 4C (datganiadau dylunio a mynediad) rhodder—
(1) This article applies to an application for planning permission which is not an application for planning permission for—
(b) development of an existing dwelling-house, or development within the curtilage of such a dwelling-house for any purpose incidental to the enjoyment of the dwelling-house as such; or (c) a material change in the use of land or buildings provided that the new use:
(ii) does not involve the provision of services to the public or to a section of the public, with or without payment.
(2) For the purposes of paragraph (1)(c)(ii) "the provision of services" includes the provision of any goods or facilities.
(b) how any specific issues which might affect access to the development have been addressed; and (c) how features which ensure access to the development will be maintained."
(2) In paragraph (4)(a) of article 25 (register of applications), after "thereto" insert "and of any accompanying access statement provided in accordance with article 4D". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) ("Gorchymyn 1995") yn pennu'r gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio, apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a materion cysylltiedig i'r graddau nad ydynt wedi'u gosod i lawr yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 neu mewn deddfwriaeth berthynol. Mae'r Gorchymyn hwn yn mewnosod erthygl 4D yng Ngorchymyn 1995. Mae erthygl 4D newydd yn gymwys o ran Cymru ac mae'n darparu ar gyfer datganiadau mynediad y mae'n ofynnol eu bod yn mynd gyda cheisiadau penodol am ganiatâd cynllunio. Notes: [1] 1990 p.8. Amnewidiwyd adran 62 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 42(1). Gweler adran 336(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddedf 1990 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Gweler y cofnod ar gyfer Deddf 1990 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, fel yr amrywiwyd ef gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5) ac Atodlen 3 iddo ac fel y diwygiwyd ef gan adran 118(3) o Ddeddf 2004.back [3] O.S. 1995/419. Gwnaethpwyd diwygiadau perthnasol gan O.S. 1997/2971 a 2004/3156 (Cy.273).back [4] Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr "development plan" a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (p.118).back
ISBN 0 11 091479 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 22 December 2006 |