Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006, ISBN 0110914805. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef yr awdurdod priffyrdd ar gyfer traffordd yr M4 yng Nghymru, yn gwneud y Cynllun hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16 a 19 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwer galluogi arall[2]:— 1. Mae'r darnau o'r ffordd arbennig bresennol a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r cynllun hwn ac a ddangosir â llinellau du trwm ar y plan a adneuwyd i ddod yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Cynllun hwn i rym. 2. Yn y Cynllun hwn:— (1) Mesurir pob mesur pellter ar hyd llwybr y briffordd berthnasol; (2) ystyr "cefnffordd" ("trunk road") yw'r ffordd arbennig a grybwyllir yn erthygl 1 a'r Atodlen i'r Cynllun hwn; (3) ystyr "y plan a adneuwyd" ("the deposited plan") yw'r plan a rifwyd HA16/1 NAFW 3, a elwir "Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006", a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau ac a adneuwyd yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd. 3. Daw'r Cynllun hwn i rym ar 21 Rhagfyr 2006 a'i enw fydd Cynllun Traffordd yr M4 (Slipffyrdd Cyffordd 30 (Pen-twyn)) (Peri bod Ffordd yn dod yn Gefnffordd) 2006. Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau S C SHOULER Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru 18 Rhagfyr 2006 Y darnau o ffordd arbennig sydd i ddod yn gefnffordd o dan y Cynllun hwn yw:—
(ii) y slipffordd ymuno tua'r dwyrain sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r dwyrain wrth Gyffordd 30, sef pellter o 370 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 2 iddi ar y plan a adneuwyd. (iii) y slipffordd ymadael tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30 hyd at ei chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30, sef pellter o 380 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 3 iddi ar y plan a adneuwyd. (iv) y slipffordd ymuno tua'r gorllewin sy'n ymestyn o'i chyffordd â'r A4232 wrth Gyffordd 30 i'w chyffordd â phrif gerbytffordd y draffordd tua'r gorllewin wrth Gyffordd 30, sef pellter o 270 metr ac y rhoddwyd y cyfeirnod 4 iddi ar y plan a adneuwyd.
Notes: [1] 1980 t.66back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, mae'r pwerau hyn wedi'u rhoi bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.back
ISBN 0 11 091480 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 22 December 2006 |