Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110914767. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 [1] a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[2] fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2007. (2) Ym mharagraff 3(1)(b) o atodlen 1, yn lle'r geiriau "other than" hyd at ddiwedd y paragraff hwnnw, rhodder "in relation to which section 47(2)(b), (ba) or (c) applies were taken into account". (3) Ym mharagraff 2(12) o atodlen 2, yn lle "1.004" rhodder "1.001". (4) Yn lle atodlen 4 rhodder yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Rhagfyr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 ("Rheoliadau 1992"). O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol ("Deddf 1988") mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992— – trwy newid geiriad paragraff 3(1) o Atodlen 1 (Rheolau ar gyfer Cyfrifo Cyfraniadau Ardrethu Annomestig) bod y didyniad o 90% y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw yn cyfeirio yn unig at ryddhad ardrethu disgresiynol a roddir gan awdurdodau bilio mewn perthynas â hereditamentau y mae adran 47(2)(b), (ba) neu (c) yn gymwys iddynt. O ganlyniad ni fydd yna ddidyniad mewn perthynas â rhyddhad disgresiynol ardrethi a roddir gan yr awdurdod bilio i drethdalwyr sy'n meddiannu hereditamentau y mae adran 43(4B) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddynt (hereditamentau sy'n cael rhyddhad gorfodol ardrethi busnesau bychain); – trwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle'r un presennol (Rhagdybiaethau parthed swm gros); a – trwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigyrau Poblogaeth Oedolion). Notes: [1] 1988 p. 41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back [2] OS 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289), 2003/3211 (Cy.304), 2004/3232 (Cy.280) a 2005/3345 (Cy.259).back
ISBN 0 11 091476 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 December 2006 |