Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006, ISBN 0110914775. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(4B)(b), 44(9) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2007. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn—
(b) strwythurau fel cytiau neu adeiladau eraill o ran eu natur (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio ddim ond i gadw cyfarpar sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac (c) unrhyw gyfarpar atodol a feddiennir yn unig at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 1 o Ddeddf Telegraffiaeth Radio 1949[2], a dim ond ar gyfer hynny, neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 159 o Ddeddf Cyfathrebu 2003[3];
(b) sy'n gwt ar y traeth neu'n swyddfa bost, (c) y mae un neu fwy o baragraffau (a) i (c) o adran 47(2) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo, (ch) sy'n hereditament a eithrir fel a ddiffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988, (d) sy'n hereditament y Goron fel a ddiffinnir yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988, neu (dd) sydd yn, neu fod rhan ohono yn, adeilad neu ran hunangynhwysol o adeilad fel a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o adran 66(2B) o Ddeddf 1988;
Mwyafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi
(b) mae'r heraditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl.
5.
At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, o ran hereditamentau â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, yr amod i'w fodloni yw bod yr hereditament, neu fod rhan o hereditament, yn cael ei ddefnyddio fel swyddfa bost.
(b) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £2,000 ond heb fod yn fwy na £5,000 a bod yr amodau yn erthygl 4 wedi'u bodloni, yw 1.333; (c) os £9,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 500,000; (ch) os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy nag £9,000 ond heb fod yn fwy nag £12,000 a bod yr amod yn erthygl 5 wedi'i fodloni, yw 2.
Dirymu ac arbedion
(b) Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002[6].
(2) Mae'r gorchmynion a bennir ym mharagraff (1) i barhau mewn grym fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007 ac mae'n gymwys i Gymru. Mae'n darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru yn sgil dod i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae'r adran honno'n gwneud diwygiadau i adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") (fel bod y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig yng Nghymru'n dod i ben ond yn cael ei arbed gan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny). Mae erthygl 2 yn diffinio hereditamentau sy'n cael eu heithrio o'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mwyafswm gwerth ardrethol o £12,000 ar gyfer hereditamentau a allai fod yn gymwys i ryddhad. Mae erthyglau 4 a 5 yn rhagnodi amodau cymhwystra. Mae erthygl 6 yn rhagnodi'r swm o E yn y fformiwla a geir yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988. Mae'r fformiwla honno'n darparu'r mecanwaith ar gyfer cyfrifo'r swm o ardrethi sy'n daladwy o ran hereditamentau penodol. Effaith erthyglau 4 a 6 yw (a) rhoi rhyddhad ardrethi gorfodol o 50% i hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o £2,000 neu lai nad ydynt yn hereditamentau a eithrir fel a ddiffinnir yn erthygl 2 ac sy'n cael eu meddiannu'n gyfangwbl; a (b) rhoi rhyddhad ardrethi gorfodol o 25% i hereditamentau sydd â gwerth ardrethol o fwy nag £2,000 ond o ddim mwy na £5,000 nad ydynt yn hereditamentau a eithrir fel a ddiffinnir yn erthygl 2 ac sy'n cael eu meddiannu'n gyfangwbl. Effaith erthyglau 5 a 6 yw rhoi rhyddhad gorfodol o 100% i swyddfeydd post â gwerth ardrethol o £9,000 neu lai, a rhoi rhyddhad gorfodol o 50% i swyddfeydd post â gwerth ardrethol o fwy nag £9,000 ond o ddim mwy nag £12,000. Notes: [1] 1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1999 yn Atodlen 1.back [6] O.S. 2002/331 (Cy.44).back
ISBN 0 11 091477 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 December 2006 |