Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, ISBN 0110914821. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —
Darparu gweithdrefn apelio
(b) codi ar unrhyw berson yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd felly unrhyw ffi (heb fod yn fwy na £100) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu.
Diwygio
(b) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Y Preseli) 1994[4]; (c) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Bryniau Clwyd) 1994[5]; (ch) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Maesyfed) 1993[6]; (d) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Ynys Môn) 1993[7]; (dd) Erthygl 5(b) o Orchymyn Dynodi Ardaloedd sy'n Sensitif yn Amgylcheddol (Penrhyn Llŷn) 1987[8]; (e) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Coetir Llydanddail) (Cymru) 1994[9]; (f) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Lleiniau Arfordirol) (Cymru) 1994[10]; (ff) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Gwelltiroedd Cyfoethog eu Rhywogaethau) (Cymru) 1994[11]; (g) Rheoliad 10(5) o Reoliadau Cynefinoedd (Ymylon Dŵr) (Cymru) 1994[12]; (ng) Paragraff 14(6) o Gynllun Premiwm Coetir Fferm 1997[13]; (h) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1988[14]; (i) Paragraff 14(3) o'r Cynllun Coetir Fferm 1992[15]; (j) Y geiriau "Cynllun Tir Mynydd " yn yr Atodlen i Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001[16]).
Dirymiadau 1. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 dyddiedig 11 Gorffennaf 2006 yn gosod darpariaethau cyffredinol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a'r Gronfa Gydlyniant ac yn diddymu Rheoliad (EC) 1260/1999. 2. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gefnogi datblygiad gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD). 3. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1290/2005 dyddiedig 21 Mehefin 2005 ar gyllido'r polisi amaethyddol cyffredin. 4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr. 5. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr. 6. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 dyddiedig 29 Medi 2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) Rhif 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001. 7. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer cefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac yn diwygio a diddymu Rheoliadau penodol. 8. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 dyddiedig 29 Hydref 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1782/2004 parthed y cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a'r defnydd o dir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu defnyddiau crai. 9. Rheoliad y Cyngor (EEC) 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gydnaws â gofynion diogelu'r amgylchedd a chynhaliaeth cefn gwlad. 10. Rheoliad y Comisiwn (EC) 817/2004 dyddiedig 29 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sefydlu gweithdrefn apelio i ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadau mewn cysylltiad â chyllido elfennau penodol o'r polisi amaethyddol cyffredin a chynlluniau sy'n gysylltiedig ag ef. Mae rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau dehongli ac, yn benodol, mae'n gosod y ddeddfwriaeth Gymunedol berthnasol y dichon y gweithdrefnau apelau fod yn gymwys iddynt. Mae rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad i sefydlu un neu fwy o weithdrefnau apelau. Mae'n darparu y caiff unrhyw weithdrefn apelau a sefydlir yn y modd hwn fod ar ffurf cyflwyniadau llafar neu ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad iddynt wneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar sut y dylid penderfynu'n derfynol ar y mater; ac y caiff y Cynulliad dalu taliadau a lwfansau i unrhyw berson o'r fath a benodir ac i godi ffi (heb fod yn uwch na £100), o ran costau'r weithdrefn. Mae rheoliad 4 a 5, yn eu tro, yn diwygio a dirymu deddfwriaeth gynharach, er mwyn galluogi i'r drefn apelau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn gael ei hymestyn i faterion oedd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth honno. Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono gan Adran Amgylchedd. Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S 2005/2766.back [16] O.S. 2001/2537 (Cy.212).back [17] O.S. 2004/2919 (Cy.258).back
ISBN 0 11 091482 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 8 January 2007 |