Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006, ISBN 0110914732. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 128(4) a 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1]. Enwi a Dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 2003. Dod i rym 2. Yn ddarostyngedig i Erthygl 3, daw adran 63 o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2007. Arbedion 3. Mae adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[2], fel maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, i barhau i weithredu mewn perthynas â Chymru fel pe nas gwnaethpwyd y diwygiadau i'r adrannau hynny gan adran 63 o'r Ddeddf. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Rhagfyr 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i rym ar 1 Ebrill 2007. Mae'r adran hon yn diddymu'r rhyddhad ardrethi gorfodol a disgresiynol yn y cynllun rhyddhad ardrethi gwledig (a sefydlwyd gan ddarpariaethau yn adrannau 42A(1), 43(6B) a 47(3A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ar gyfer Cymru drwy ddiwygio'r darpariaethau presennol fel mai i Loegr yn unig y maent yn gymwys. Mae Erthygl 3 yn gwneud arbedion fel bod yr adrannau nas diwygiwyd o Ddeddf 1988 yn parhau i weithredu, mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn hynny, fel pe na bai adran 63 o Ddeddf 2003 wedi cael ei dwyn i rym. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf sy'n gymwys o ran Cymru wedi'u dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Notes: [1] 2003 p.26.back
ISBN 0 11 091473 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 20 December 2006 |