Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914740. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10(3), (4)(b) a (5) a 93(1)(b) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2007. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 2. Ar ôl rheoliad 3A (datganiadau dylunio a mynediad) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[3], mewnosoder—
(1) Any application to a local planning authority for listed building consent must, subject to paragraph (3), be accompanied by a statement ("an access statement") explaining how issues relating to access to the building have been dealt with. (2) Subject to paragraph (3), an access statement must explain—
(ii) how policies relating to access in the development plan[4] have been taken into account,
(b) how the policy or approach adopted as to access takes account of—
(ii) the particular physical features of the building that justify its designation as a listed building, and (iii) the building's setting,
(c) how any specific issues which might affect access to the building have been addressed; and
(3) Paragraphs (1) and (2) do not apply in relation to an application for listed building consent to carry out works affecting only the interior of a building.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("Rheoliadau 1990") yn gwneud darpariaeth o ran ceisiadau i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 3B newydd i Reoliadau 1990. Mae erthygl 3B newydd yn gymwys o ran Cymru ac mae'n darparu o ran y gofyniad i ddatganiadau mynediad fynd gyda cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig. Mae'r ddarpariaeth newydd o ganlyniad i adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a fewnosododd y gofyniad "datganiadau mynediad" yn Neddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. Notes: [1] 1990 p.9. Diwygiwyd adran 10 gan adran 42(6) i (8) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler adran 91(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Gweler y cofnod ar gyfer Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn Atodlen 1 i Orchymyn 1999 fel y'i diwygiwyd gan adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.back [3] O.S. 1990/1519, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back [4] Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr "development plan" a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (C.118).back
ISBN 0 11 091474 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 20 December 2006 |