Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006, ISBN 0110914686. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003[1], ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn — Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2006 a daw i rym ar 8 Rhagfyr 2006. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn —
mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu'r cofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu'r cofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
(b) treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), 6(1) a 7(1) o'r Atodlen; ac (c) treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 9 i 20 o'r Atodlen.
(2) Pan gynhelir, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas ag—
(b) treuliau o fath a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 7(1) o'r Atodlen;
mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.
(b) £95.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y gwasanaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen; (c) £1,173.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen; ac (ch) £235.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran y treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen.
Dirymu Erthygl 3 Gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post 1. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth pan fydd yn cynnal etholiad Cynulliad ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio o ran personau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post). (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £2,600.00. (3) Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £1,362.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu o £349.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003. (5) Pan fo person mewn etholiad cyffredin yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng o £291.00 ar gyfer pob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri. Gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol 2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol pan fydd yn cynnal etholiad rhanbarthol ac yn cyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny. (2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol am y gwasanaethau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,362.00. Talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio 3. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad am y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnir o ran person sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) o ran y swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £158.00. (3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Pan geir mewn lle pleidleisio fwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 o ran un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw. (5) O ran swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £9.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys. (6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £41.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003. Talu clercod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio 4. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad o ran talu clercod pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £95 fesul clerc pledeisio. (3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £24.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003. Talu personau mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post etc 5. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post ac â'r cyfrif ac ag unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £11,200.00. (3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £10,080.00 pan geir pleidleisio mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol ac eithrio etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys iddo. (5) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 o bleidleiswyr, neu am ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post o £62.40 pan geir pleidleisio, mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad, mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £524.00 ar gyfer pob tro y caiff pleidleisiau eu hailgyfrif o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 2003. (7) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu o £1,512.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 15(1) neu (2) o Orchymyn 2003. Talu personau mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion etholiad rhanbarthol 6. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol o ran talu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad. (2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a bennir yn is-baragraff (1) yw £1,212.00. Taliadau o ran hyfforddiant 7. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu swyddog canlyniadau etholaeth o ran treuliau a dynnir wrth hyfforddi swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio i gyflawni dyletswyddau ar ddiwrnod pleidleisio mewn etholiad Cynulliad. (2) Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul swyddog llywyddu sy'n cael hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r swyddog llywyddu a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio. (3) Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraff (2) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul etholaeth Cynulliad mewn cysylltiad â pharatoi deunyddiau hyfforddi yw £140.00. (4) Yn ychwanegol at y treuliau y gellir eu hadennill o dan is-baragraffau (2) a (3) yr uchafswm y gellir ei adennill fesul cyflwyniad hyfforddi a roddir i swyddogion llywyddu a chlercod pleidleisio gan swyddog canlyniadau etholaeth neu rywun a enwebir gan swyddog canlyniadau etholaeth yw £112.00. (5) Yn ychwanegol at dreuliau y gellir eu hadennill o dan baragraffau (2), (3) and (4) yr uchafswm y gellir ei adennill, fesul sesiwn hyfforddi, o gostau swyddogion canlyniadau etholaeth yw £196.00. (6) Yr uchafswm y gellir ei adennill fesul clerc pleidleisio sy'n derbyn hyfforddiant yw £45.00 a gellir ei adennill heb ystyried ai'r clerc pleidleisio a gafodd yr hyfforddiant a gyflawnodd y dyletswyddau ar y diwrnod pleidleisio. Cyffredinol 8. Mae treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9 i 20 yn dreuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill mewn cysylltiad â hwy. Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos 9. Mewn etholiad Cynulliad treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos —
(b) unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 18 o Orchymyn 2003; (c) unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio;ac (ch) unrhyw gynorthwyydd clerigol neu gynorthwyydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol.
Argraffu etc y papurau pleidleisio
(b) y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
Treuliau darparu papur ac offer ysgrifennu etc (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003 (O.S. 2003/284) ("Gorchymyn 2003") mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill taliadau o ran gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw ar gyfer y cyfryw etholiad neu mewn cysylltiad ag ef yn dibynnu ar y canlynol, sef —
(b) bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau wedi'u tynnu'n briodol; ac (c) bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan erthygl 21(1) a (2) o Orchymyn 2003 ac mae'n dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 (O.S. 2002/3053) (Cy.288) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2003 (O.S.2003/3117) (Cy.295). Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r cyfryw wasanaethau a threuliau y cyfeirir atynt uchod. Notes: [1] Diwygiwyd O.S. 2003/284 gan O.S. 2006/884; fodd bynnag nid yw'r diwygiadau'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [3] O.S. 2002/3053 (Cy.288).back [4] O.S. 2003/3117 (Cy. 295).back
ISBN 0 11 091468 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 15 December 2006 |