Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914635. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 a 23(f) ac (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2006. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Tachwedd 2006. Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 2. —(1) Mae Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4). (2) Ym mharagraff (2) o erthygl 6 (sy'n pennu tan ba ddyddiad y bydd diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol yn aros yn gymeradwy), yn lle "30 June 2005" rhodder "28 February 2007". (3) Yn lle'r tabl yn Atodlen 1 (sy'n rhestru'r diheintyddion a gymeradwywyd), rhodder y tabl yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn. (4) Yn lle'r tabl yn Atodlen 2 (sy'n rhestru'r diheintyddion sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol), rhodder y tabl yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn. Dirymu 3. Mae Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005[3] wedi'i ddirymu. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 28 Tachwedd 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978 ("Gorchymyn 1978"), O.S. 1978/32. Mae'n rhoi yn lle'r tablau yn Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn 1978 y tablau a nodir yn Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn hwn. Mae Atodlen 1 yn rhestru diheintyddion a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae Atodlen 2 yn rhestru diheintyddion nad ydynt bellach yn gymeradwy, ond sy'n ddarostyngedig i drefniadau trosiannol a gellir parhau i'w defnyddio fel diheintyddion a gymeradwywyd tan 28 Chwefror 2007. Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o'r Gorchymyn hwn ar ffurf drafft yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 22 Mehefin 1998, a honno'n Gyfarwyddeb a osododd weithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol[5]. Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/583) (Cy.49). Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael diffiniad o "the Ministers". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044.back [2] O.S. 1978/32 , ac O.S. 2005/583 (Cy.49) yw'r diwygiad perthnasol diweddaraf i'r rhestrau o ddiheintyddion a gymeradwywyd.back [3] O.S. 2005/583 (Cy.49).back [5] OJ Rhif L 204, 21.7.98, t.37, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 20 Gorffennaf 1998 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 98/34/EC, sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L 217, 5.8.98, t.18).back
ISBN 0 11 091463 5
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 December 2006 |