Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, ISBN 0110914562. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 55(4), 56(3), 57(7), (9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —
(2) Os yw'n ofynnol, o dan y Rheoliadau hyn, i rywbeth gael ei wneud gan gyfeirio at gyfnod o amser sy'n cael ei gyfrif o ddyddiad penodol, mae'r cyfnod hwnnw'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.
(b) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
9.
Rhaid i gopi o'r adroddiad o arolygiad a'r cynllun gwaith fod ar gael i'w archwilio yn swyddfa gofrestredig neu ym mhrif swyddfa'r darparydd gwasanaeth neu'r darparydd perthnasol a gafodd ei archwilio, a rhaid ei gyhoeddi ar unrhyw wefan ar y rhyngrwyd sydd gan y darparydd hwnnw. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adrannau 55 — 57 o Ddeddf Addysg 2005 yn darparu ar gyfer arolygiad o'r gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau cysylltiedig yng Nghymru gan y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn) Mae'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd yn cael eu darparu gan nifer o gwmnïau cyfyngedig â gwarantau, sy'n gweithredu ar y cyd fel Gyrfa Cymru. Mae darpariaethau Deddf 2005 yn cymryd lle'r darpariaethau a geid gynt yn Neddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r gofynion parthed arolygiad yn cael eu tynhau a'u gwneud yn fwy cyfatebol i'r rheini sy'n gymwys i ysgolion. Mae adrannau 55 — 57 yn darparu fframwaith, gan adael y manylion i gael eu rhagnodi mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny. Mae Rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae Rheoliad 3 yn delio ag arolygiadau cyntaf. Rhaid i ddarparydd gwasanaeth gyrfaoedd a gwasanaethau eraill na chafodd ei arolygu o'r blaen gael ei arolygu o fewn cyfnod o chwe mlynedd o'r dyddiad pryd y daeth gyntaf yn ddarparydd. Mae Rheoliad 4 yn darparu fod darparwyr presennol i gael eu harolygu bob chwe blynedd. Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i adroddiad o arolygiad gael ei baratoi o fewn deg a thrigain o ddiwrnodau gwaith o ddyddiad cwblhau'r arolygiad. Mae Rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i gynllun gwaith (fel a ddisgrifir yn y rheoliad hwnnw) gael ei baratoi yn dilyn arolygiad. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cynllun gwaith gael ei baratoi o fewn cyfnod o hanner cant o ddiwrnodau gwaith o'r dyddiad y derbyniodd y darparydd gopi o'r adroddiad o'r arolygiad. Mae Rheoliadau 8 a 9 yn darparu ar gyfer anfon copïau o adroddiadau a chynlluniau gwaith i bersonau dynodedig, ac ar gyfer eu cyhoeddi yn swyddfeydd y darparydd ac ar y rhyngrwyd. Notes: [1] 2005 p.18. Daw adrannau 55-57 i rym ar 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130 (C.45). Ar gyfer "prescribed" a "regulations", gweler adran 55(8).back [4] Gweler adran 73 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, p.21.back [5] 1998 p.30. Diwygiwyd adran 35 gan baragraff 77 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a mewnosodwyd adran 35A gan adran 81 o'r Ddeddf honno. Diddymir y ddwy adran gan Ddeddf 2005, Atodlen 19, Rhan 1, sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2007: O.S. 2006/1338 (Cy.130) (C.45).back
ISBN 0 11 091456 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 30 November 2006 |