Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110914546. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005[3]. Diwygio Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau 3. Mae Rheoliad 2(1) wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (a) — (ch)—
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Comisiwn 1973/2004" mewnosoder ", fel y diwygiwyd y Rheoliad Comisiwn hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 1250/2006"[5]; (c) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor" mewnosoder ", fel y diwygiwyd y Rheoliad Cyngor hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 953/2006"[6]; (ch) ar ddiwedd y diffiniad o "Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004" mewnosoder "fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005"[7].
Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
(5) Mae'r amgylchiad cyntaf yn codi —
(b) pan fyddo'r gorchudd glas wedi methu ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac (c) pan fyddo'r ffermwr wedi gadael y gorchudd glas a fethodd i ganiatáu aildyfiant naturiol.
(6) Mae'r ail amgylchiad yn codi pan fyddo'r ffermwr—
(b) wedi cynaeafu'r cnwd hwnnw ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a chyn dechrau'r tymor gorchudd glas; ac (c) wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(7) Mae'r trydydd amgylchiad yn codi—
(b) pan fyddo'r cnwd wedi methu gyda'r canlyniad nad oedd yn gallu dwyn cynhaeaf cyn dechrau'r tymor gorchudd glas ac na fyddo wedi bod yn rhesymol bosibl i'r ffermwr atal y methiant hwnnw; ac (c) pan fo'r ffermwr wedi caniatáu aildyfiant naturiol ar ôl y cynhaeaf.
(8) Rhaid i ffermwr, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle caniataodd aildyfiant naturiol fel y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (5) i (7), gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon sy'n ymwneud ag opsiwn yr aildyfiant naturiol.
(b) cymysgedd perthnasol o hadau.
(10) Rhaid i'r ffermwr hwnnw, mewn perthynas â'r cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas hwnnw wedi'i sefydlu, gydymffurfio â'r amodau a nodir yn y Rhan hon o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud—
(b) pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt.".
(3) Ym mharagraff 9 yn lle'r Rhif "15" , rhodder y Rhif "17".
(3) Yn y paragraff hwn —
(b) yn ddarostyngedig i'r system arolygu o dan Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/1991.".
(6) Ym mharagraff 13, mae is-baragraff (4) wedi'i ddileu.
16. —(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 17, rhaid i ffermwr beidio â thaenu plaleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol. (2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Gorffennaf caiff ffermwr daenu plaleiddiaid, ond nid plaleiddiaid sy'n fioleiddiaid, at ddibenion paratoi ar gyfer hau. (3) Yn y paragraff hwn —
(b) ystyr "plaleiddiaid" ("pesticides") yw unrhyw sylwedd, paratoad neu organedd a baratowyd neu a ddefnyddiwyd i ddifa unrhyw bla.
Taenu chwynleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
(ii) wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5 o Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986[10] neu o dan reoliadau 5, 7, 8 neu 11 o Reoliadau Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion 2005[11] ac y mae dull ei daenu'n cydymffurfio â'r gymeradwyaeth honno; a
(b) os bydd y gwaith o'i daenu —
(ii) yn cael ei wneud cyn amnewid gorchudd glas yn unol â pharagraff 13(1); neu (iii) yn cael ei wneud drwy sbot-chwynnu neu drwy ddefnyddio wic; neu (iv) yn cael ei wneud er mwyn creu llain o dir nad oes rhaid i ffermwr sefydlu gorchudd glas arno yn rhinwedd paragraff 7(2), neu i gadw'r llain honno'n foel.
(2) Ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y cyfnod neilltir cyfredol, caiff ffermwr daenu chwynleiddiad ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/45, Cy.4) ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru i weinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L. 270, 21.10.2003, t.1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L. 141, 30.4.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L. 345, 20.11.2004, t.1) ynglŷn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl ar gyfer ffermwyr ("y Cynllun"). Daeth y Cynllun i rym ar 1 Ionawr 2005. Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ran y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo o dan y Cynllun hwn, fel a ganlyn —
(ii) maent yn ychwanegu darpariaeth sy'n caniatáu i ffermwyr drin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar neu ar ôl 1 Mai, ac sy'n dir organig, at ddibenion rheoli chwyn (rheoliad 5(5)); (iii) maent yn dileu'r cyfyngiad ar bori ar ôl y cyfnod neilltuo pan fo'r gorchudd glas wedi'i amnewid (rheoliad 5(6)); (iv) maent yn ychwanegu dau baragraff newydd sy'n gwahardd defnyddio plaleiddiaid a chwynleiddiaid ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir (rheoliad 5(8)).
Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [4] O.J. Rhif L236, 31.08.2006, t. 20.back [5] O.J. Rhif L227 19.08.2006, t.23.back [6] O.J. Rhif L175, 29.06.2006, t.1.back [7] O.S. 2005/3367 (Cy.264).back [8] O.J. Rhif L198, 22.7.1991, t. 1 — 15.back [9] O.J. Rhif L137, 25.5.2006, t. 9 — 14.back
ISBN 0 11 091454 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 30 November 2006 |