Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006, ISBN 0110914503. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9 a 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006. (2) Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) yn achos penderfyniad i ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr "relevant person" yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;
Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.
(ii) pan fo'r asiantaeth o'r farn nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o'r Rheoliadau Asiantaethau.
(b) yn benderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu[7].
Cyfansoddi panelau 4. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 11, gyfansoddi panel i adolygu'r penderfyniad cymhwysol. (2) Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y rhestr ganolog") a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o bersonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel. (3) Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys—
(b) personau eraill y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas i fod yn aelodau gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau â phrofiad personol o fabwysiadu.
Aelodaeth o'r Panelau
(b) gan ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu.
(3) Pan fo'r panel yn credu fod hynny'n briodol, caiff ei gynghori gan
(b) Unrhyw berson arall y mae'r panel yn ystyried fod ganddo arbenigedd perthnasol o ran y penderfyniad sy'n cael ei ystyried.
(4) Pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu'n benderfyniad i ddatgelu, mae'n rhaid i'r panel gynnwys o leiaf ddau berson sy'n dod o fewn rheoliad 4(3)(a).
(b) yn achos panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd, penodi un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw swydd y cadeirydd yn wag.
(6) Rhaid peidio â phenodi person i banel—
(b) os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud, yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd neu os yw neu os yw wedi bod yn aelod o'r awdurdod hwnnw; (c) os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn un o gyflogeion neu ymddiriedolwyr yr asiantaeth honno, neu os yw wedi bod yn un ohonynt yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud; (ch) os yw'r person hwnnw yn berthynas i berson sy'n dod o dan is-baragraff (a), (b) neu (c); (d) os yw'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda'r person hwnnw o fewn y ddwy flynedd diwethaf; (dd) os oedd y person hwnnw wedi'i gymeradwyo fel darpar fabwysiadydd o fewn y ddwy flynedd diwethaf gan yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol; neu (e) os yw'r person hwnnw yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(b) mae person ("person A") yn perthyn i berson arall ("person B") os yw person A—
(ii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B; neu (iii) yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person y person y mae person B yn briod ag ef neu hi neu y mae person B wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef neu hi;
Cyfarfodydd y panelau
(b) cyflwyno argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.
(3) Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i ddarparu unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac (c) caiff y panel sicrhau'r cyngor cyfreithiol y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.
Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad i ddatgelu
(b) caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i roi unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac (c) caiff y panel sicrhau cyngor cyfreithiol o'r fath neu gyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr ganolog y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos; ac (ch) rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson mabwysiedig ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig, rhaid i les y plentyn hwnnw fod yn bwysicach na dim. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.
Gweinyddu'r Panelau
(b) o dan amodau diogelwch priodol .
Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol 12. —(1) Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud. (2) Yn achos penderfyniad ar addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unig a gaiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw. Penodi panel a chynnal adolygiad 13. Ar ôl cael cais sydd wedi'i wneud yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(b) anfon o fewn 5 niwrnod gwaith gydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r cais at y ceisydd a'i hysbysu o'r camau a gymerwyd o dan is-baragraff (a); (c) penodi panel o fewn 25 niwrnod gwaith yn unol â rheoliad 4 a phennu dyddiad, amser a lleoliad i'r panel gyfarfod at ddibenion cyfarfod adolygu; (ch) Ar ôl cymryd y camau a ragnodwyd yn is-baragraff (c), a heb fod yn llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer adolygu, hysbysu'n ysgrifenedig y ceisydd a'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol—
(ii) o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod adolygu;
(2) Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Ar ôl rheoliad 13 (Cofnod o sylwadau) mewnosoder y rheoliad canlynol—
13A (1) Mae'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (adolygu penderfyniadau'n annibynnol) —
(b) datgelu gwybodaeth i geisydd am berson pan fo'r person wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd os yw'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw —
(b) hysbysu'r person perthnasol y caiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith, gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol.
(3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y person perthnasol wedi gwneud cais am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd yr asiantaeth yr hysbysiad hwnnw, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —
(b) copi o'r hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2); (c) cofnod o unrhyw sylwadau a gafwyd gan yr asiantaeth o dan adran 61(3) o'r Ddeddf; ac (ch) unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gan y panel.
(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio â chymryd unrhyw gamau yn unol â'i benderfyniad gwreiddiol—
(b) os na fydd y person wedi gwneud cais am adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 20 niwrnod gwaith, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried unrhyw argymhelliad gan y panel adolygu annibynnol wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol.
(b) ystyr "diwrnod gwaith" yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr "bank holiday" yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.
(7) Yn y rheoliad hwn "y person perthnasol"—
(b) yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b) neu (c), yw'r person y mae'r wybodaeth a ddiogelir yn ymwneud ag ef."
Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod Penodedig (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Deddf"). Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn gwneud darpariaeth i banel annibynnol adolygu mewn dau fath o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 nad yw'n bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn neu benderfyniad ar ôl adolygiad nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn. Mae penderfyniad o'r fath wedi'i bennu yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn fel penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Mae'r penderfyniadau hyn wedi'u pennu mewn rheoliad 13A newydd o'r Rheoliadau hynny fel penderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth panelau, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a gwaith cadw cofnodion y panelau sy'n cael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol. Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan geisir penderfyniad cymhwysol gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2. Notes: [1] 2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31).back [2] Deddf Safonau Gofal 2000, p.14.back [3] Mae Rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol, mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd pan fo'r person hwnnw wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth.back [7] Gweler rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn.back [8] O.S. 2005/2689 (Cy. 189).back
ISBN 0 11 091450 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 5 December 2006 |