Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914716. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael. Mae'r Offeryn Statudol hwn yn cael ei argraffu yn lle'r OS sy'n dwyn yr un teitl, a oedd wedi cael ei gyhoeddi yn anghywir fel SI 2006/3009 (Cy.283), ac mae'n cael ei ddarparu am ddim i dderbynnwyr yr Offeryn Statudol hwnnw.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran y gofyniad i gael asesiad o effaith ar yr amgylchedd o brosiectau sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd, drwy arfer y pwerau hynny, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[3] ac sy'n arferadwy bellach o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[4], a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2006. (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at y rheoliad hwnnw yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 ("Rheoliadau 1999")[5]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau 1999 2. Diwygir Rheoliadau 1999 yn unol â rheoliadau 3 i 19 o'r Rheoliadau hyn. Diwygio rheoliad 2 3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(c) yn y diffiniad o "environmental information", ar ôl "further information" mewnosoder "and any other information";
(b) where the local planning authority maintains a website for the purpose of advertisement of applications, by publication of the notice on the website;".
Diwygio rheoliad 4
(4A) Where a direction is given under sub-paragraph (4), the Secretary of State must—
(b) make available to the public the information considered in making the direction and the reasons for making the direction; (c) consider whether another form of assessment would be appropriate; and (d) take such steps as are considered appropriate to bring the information obtained under the other form of assessment to the attention of the public.".
Diwygio rheoliad 7
Diwygio rheoliad 8
Diwygio rheoliad 9
Diwygio rheoliad 13
(b) dileer "and" ar ddiwedd paragraff (2)(b) a'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (2)(c) ac, ar ôl paragraff (2)(c), mewnosoder—
Diwygio rheoliad 14
Diwygio rheoliad 19
(c) ym mharagraffau (3)(d) i (g) a (j) a (4), ar ôl "further information" mewnosoder "or any other information"; (ch) ym mharagraff (5)—
(ii) yn lle "three" rhodder "two";
(d) ym mharagraff (6), ar ôl "further information" mewnosoder "or any other information";
(ii) ar ôl "further information" mewnosoder "or any other information"; ac
(e) ym mharagraffau (8) a (9), ar ôl "further information" mewnosoder "or any other information,".
Diwygio rheoliad 20
(b) ym mharagraff (1)(c)(ii), ar ôl "on which the decision is based" mewnosoder "including, if relevant, information about the participation of the public"; ac (c) dileer y gair "and" ar ddiwedd paragraff (1)(c)(ii) a'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (1)(c)(iii) ac, ar ôl paragraff (1)(c)(iii), mewnosoder—
Diwygio rheoliad 22
(b) ym mharagraff (12)(b), ar ôl "any further information," mewnosoder "any other information";
(ii) yn lle "in a local newspaper circulating in the locality in which the land is situated" rhodder "by local advertisement", ac (iii) yn is-baragraffau (c), (d) ac (e), ar ôl "further information" mewnosoder "and any other information";
(d) ym mharagraff (17), yn lle "in a named newspaper" rhodder "by local advertisement".
Diwygio rheoliad 27
(b) ym mharagraff (6)(b), ar ôl "on which the decision is based" mewnosoder "including, if relevant, information about the participation of the public".
Diwygio rheoliad 28
(b) dileer "and" ar ddiwedd paragraff (2)(a) a'r atalnod llawn ar ddiwedd paragraff (2)(b) ac, ar ddiwedd paragraff (2)(b), mewnosoder—
(ii) the main reasons and considerations on which the decision was based including, if relevant, information about the participation of the public, and (iii) a description of the main measures to avoid, reduce and, if possible, offset any major adverse effects that have been identified.".
Diwygio Atodlen 1
Diwygio Atodlen 2
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293) ("Rheoliadau 1999") drwy weithredu erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 26 Mai 2003 (OJ L 156, 25.6.2003, t.17 a honno'n ddogfen y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel "y Gyfarwyddeb") i'r graddau y mae'n effeithio ar gyfranogiad cyhoeddus yn y broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau ac apelau sy'n ymwneud â datblygu y mae'n ofynnol asesu ei effeithiau amgylcheddol. Mae'r Gyfarwyddeb yn darparu i'r cyhoedd gael cyfranogi yn y broses o lunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd ac yn diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (OJ L 175, 5.7.1985, t.40) (fel y'i diwygiwyd gan 97/11/EC (OJ L 73, 14.3.1997, t.5) a Chyfarwyddeb y Cyngor 96/61/EC (OJ L 257, 10.10.1996)) ynghylch cyfranogiad cyhoeddus a mynediad at gyfiawnder. Mae rheoliad 3 yn diwygio'r diffiniadau presennol o "consultation bodies", "environmental information" ac "exempt development" yn rheoliad 2 o Reoliadau 1999 ac yn mewnosod diffiniadau newydd o "by local advertisement", "any other information" ac "any particular person" yn y rheoliad hwnnw. Mae rheoliad 4 yn diwygio'r gofynion o ran cyhoeddusrwydd ynglyn â phwer Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan reoliad 4(4) o Reoliadau 1999 i gyfarwyddo nad yw achos eithriadol ("exceptional case") i fod yn ddarostyngedig i asesiad amgylcheddol. Mae rheoliadau 5 i 9 yn mewnosod darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i hysbysu'r personau a'r cymdeithasau amgylcheddol sy'n debygol o gael eu heffeithio gan gais, neu sydd â diddordeb ynddo. Mae rheoliadau 8(a), 10(ch)(ii) a 13 yn gostwng nifer copïau'r datganiad amgylcheddol y mae angen eu darparu o dri i ddau. Mae rheoliadau 10, 11, 14 a 15 yn estyn y gofynion o ran gwybodaeth sy'n ychwanegol at unrhyw wybodaeth arall a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datganiad amgylcheddol. Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 1999 (dyletswyddau i hysbysu'r cyhoedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o'r penderfyniadau terfynol) drwy ei gwneud yn ofynnol bod hysbysu ehangach o benderfyniadau a gwybodaeth yn cael ei ddarparu ynglyn â hawliau i herio'r penderfyniad. Mae rheoliad 14 yn gwneud mân newidiadau o ran datblygiad nas awdurdodwyd. Mae rheoliadau 15 a 16 yn ymwneud â phrosiectau sy'n debygol o gael effeithiau trawsffiniol. Mae rheoliadau 17 ac 18 yn gwneud mân newidiadau i Atodlenni 1 a 2 yn Rheoliadau 1999, yn eu trefn. Mae rheoliad 19 yn gwneud mân ddiwygiad canlyniadol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) drwy ddiweddaru diffiniad sy'n gysylltiedig ag asesiad effaith amgylcheddol sydd yn erthygl 1 o'r Gorchymyn hwnnw. Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at "yr Ysgrifennydd Gwladol" neu at "the Secretary of State" i'w darllen fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â rheoliad 2(6) o Reoliadau 1999. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer Rheoliadau 1999 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Notes: [1] O.S. 2000/2812, erthygl 2 ac Atodlen 1, paragraff 2.back [2] 1972 p.68. Cafodd pwerau galluogi adran 2(2) eu hestyn yn rhinwedd diwygio adran 1(2) gan adran 1 o Ddeddf Ardal Economaidd Ewropeaidd 1993 (p.51).back [3] 1990 p.8. Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 15.back [4] Gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672), fel y'i hamrywiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 ac Atodlen 3 iddo (O.S. 2000/253) (Cy.5).back [5] O.S. 1999/293, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2867.back
ISBN 0 11091471 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 18 December 2006 |