Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914619. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar âl iddo ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolyddion ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (3), (4), (5) a (9) o'r Ddeddf honno[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Tachwedd 2006. (2) Mae Rheoliad 3 yn gymwys o ran Cymru mewn perthynas â chwestiwn perthnasol. (3) Ym mharagraff 2 uchod, ystyr "cwestiwn perthnasol" yw cwestiwn o dan Reoliadau Addysg (Mân Dreuliau) 1997[3] parthed a oes gan rieni disgybl a gynorthwyir hawl i grant gwisg ysgol o dan Ran II, neu i grant teithio o dan Ran III, o'r Rheoliadau hyn ac—
(b) nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) (Diwygio) (Cymru) 2005
(b) ym mharagraff (3), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—
(b) £43 pan fo'r incwm hwnnw uwchlaw £12,470 ond nad yw uwchlaw £13,431.".
(3) Yn rheoliad 4 —
(b) ym mharagraff (4), rhodder—
(ii) "£12,304" yn lle "£12,016".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Mân Dreuliau) 1997 ("Rheoliadau 1997") ymhellach. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys ynghylch cwestiynau o beidio â chasglu sy'n codi ym mlwyddyn ysgol 2006/07 ac nas penderfynwyd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym arno. Cwestiwn perthnasol yw cwestiwn sy'n ymwneud â hawl rhiant o dan Reoliadau 1997 i gael grant mewn perthynas â mân dreuliau cysylltiedig ag addysg plentyn a gynorthwyir mewn ysgol annibynnol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 2 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant gwisg ysgol ac yn cynyddu swm grant o'r fath sy'n daladwy ar gyfer gwariant ar ddillad sy'n codi yn y flwyddyn ysgol 2006/07. Mae £83 (yn hytrach nag £81 fel cynt) yn daladwy pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,470 (yn hytrach na £12,182) ac mae £43 (yn hytrach na £42) yn daladwy pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r ffigwr hwnnw ond nad yw uwchlaw £13,431 (yn hytrach na £13,116). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prawf moddion ariannol (a osodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 1997) ar gyfer pennu hawl i grant teithio ac yn cynyddu swm y grant sy'n daladwy ar gyfer gwariant teithio ysgol mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2006/07. Pan nad yw'r incwm perthnasol uwchlaw £12,483 (yn hytrach na £12,195), bydd unrhyw grant teithio yn swm cyfatebol i'r gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo. Pan fo'r incwm perthnasol uwchlaw'r swm hwnnw, swm y grant teithio fydd y swm, os bydd un, y bydd y gwariant teithio ysgol y mae'n berthnasol iddo uwchlaw'r swm (wedi ei dalgrynnu i lawr i'r lluosrif agosaf o £3) sy'n cyfateb i un rhan o ddeuddeg o'r rhan o'r incwm perthnasol sydd uwchlaw £12,304 (yn hytrach na £12, 016). Notes: [1] 1997 p. 59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).back [2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a'r cofnod o ran Deddf Addysg (Ysgolion) 1997 yn Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/1969. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1585, O.S. 1999/1505, O.S. 2000/1939 (Cy. 137), O.S. 2001/2708 (Cy. 227), O.S. 2002/1880 (Cy. 189), O.S. 2003/1779 (Cy.193), O.S. 2004/1807 (Cy.195) ac O.S. 2005/2837 (Cy. 201).back [4] O.S. 2005/2837 (Cy. 201).back
ISBN 0 11 091461 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 4 December 2006 |