Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006, ISBN 0110914457. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 107(4)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006[1]: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Cychwyn) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Cychwyn Rhan 6 o'r Ddeddf 2. Daw Rhan 6 (hawliau tramwy) o'r Ddeddf i rym ar 16 Tachwedd 2006. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 15 Tachwedd 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym Ran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2005 ("y Ddeddf"), sydd wedi'i ffurfio o adrannau 66 i 72 o'r Ddeddf. Mae adrannau 66 i 71 o'r Ddeddf yn diwygio'r gyfraith o ran hawliau tramwy a cherbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adran 66 yn cyfyngu ar greu hawliau tramwy i gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adran 67 yn terfynu rhai hawliau tramwy cyhoeddus sy'n bodoli ond sydd heb eu cofnodi ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol. Mae adrannau 68 a 69 yn diwygio Deddf Priffyrdd 1980 (p. 66). Mae adran 68 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhagdybio bod cilffordd gyfyngedig wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau priodol ar ôl 20 mlynedd o ddefnydd gan gerbydau (megis beiciau pedal) nas gyrrir yn fecanyddol. Mae adran 69 yn ymwneud â chyflwyniadau rhagdybiedig a cheisiadau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69), ac yn egluro, pan godir amheuaeth ynglŷn â hawl sydd gan y cyhoedd i ddefnyddio ffordd drwy gais am addasu'r map a'r datganiad diffiniol, bod y dyddiad y codir amheuaeth ynghylch hawl sydd gan y cyhoedd i'w drin fel y dyddiad y caiff y cais ei wneud. Mae adran 70 yn gwneud darpariaeth atodol ac mae adran 71 yn ddarpariaeth ddehongli. Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus a baratoir ac y cedwir golwg arno gan yr awdurdod tirfesur ar gyfer yr ardal honno (sef y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfa'r cyngor ar bob adeg resymol. Mae adran 72 yn mewnosod yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p. 27) ("Deddf 1984") adrannau newydd, sef 22BB a 22BC, sy'n rhoi i awdurdod Parc Cenedlaethol bŵer i wneud gorchmynion rheoleiddio traffig a gorchmynion eraill sy'n ymwneud â thraffig o dan Ddeddf 1984 mewn perthynas â ffyrdd yn y Parc Cenedlaethol sydd naill ai'n gilffyrdd ar agar i bob math o draffig, yn llwybrau troed neu'n llwybrau ceffylau neu'n gerbytffyrdd anseliedig. Mae'r adrannau newydd yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud rheoliadau i addasu'r ffordd y cymhwysir Deddf 1984 mewn perthynas â gorchmynion penodol sy'n cael eu gwneud gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol o dan yr adrannau newydd. Nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu arfer y pwer hwn ar hyn o bryd. Gellir cael esboniad manylach ar y darpariaethau yn y Nodiadau Esboniadol ar gyfer y Ddeddf, sydd ar gael o'r Llyfrfa, Blwch Post 29, Norwich NR3 1GN (neu ar lein yn www.opsi.gov.uk). Gwnaed o dan y Ddeddf gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn y mae i rai o'u darpariaethau effaith yng Nghymru —
Notes: [1] 2006 p. 16.back
ISBN 0 11 091445 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 November 2006 |