Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006, ISBN 0110914422. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 78A(9), 78C(8) i (10), 78E(1) a (6), 78G(5) a (6)[1], 78L(4)[2] a (5) a 78R(1), (2) ac (8) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990")[3] ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[4], a chan yr adrannau hynny fel y'u cymhwysir gan Reoliadau Tir a halogwyd yn ymbelydrd (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006 ("y Rheoliadau Addasu")[5] o ran niwed, i'r graddau y mae niwed i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 10 Rhagfyr 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir yn wahanol —
(b) o ran niwed, i'r graddau y mae i'w briodoli i unrhyw ymbelydredd sy'n perthyn i unrhyw sylwedd, mae gan unrhyw derm a ddiffinnir gan Ddeddf 1990 yr ystyr a roddir iddo gan y Ddeddf honno fel y'i haddasir gan y Rheoliadau Addasu.
Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig
(b) tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu oddi tano; (c) tir y cynhaliwyd unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg —
(ii) gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;
(ch) tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad pan nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;
(ii) y Cyngor Amddiffyn, (iii) pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn, neu (iv) awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad,
sef tir a ddefnyddir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;
(ii) unrhyw gyfrwng neu ddiocsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974[6] (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol), neu (iii) unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),
ar unrhyw adeg;
(ii) sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae "tarau asid gwastraff" yn darau —
(b) a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac (c) sydd, neu a oedd, yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.
(3) Ym mharagraff (1)(ch), mae i "awdurdodiad" a "proses ragnodedig" yr un ystyr ag "authorisation" a "prescribed process" yn Rhan I o Ddeddf 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli'n ganolog neu yn lleol).
(b) unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono, ar ôl iddo ddiddymu neu ildio trwydded safle niwclear.
(6) Ym mharagraff (5) mae i "trwydded safle niwclear", "trwyddedai" a "cyfnod cyfrifoldeb" yr ystyr a roddir i "nuclear site licence", "licensee" a "period of responsibility" gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965[10].
(9) Ym mharagraff (1)(f), mae i "arf cemegol" yr ystyr sydd i "chemical weapon" yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996[13], gan ddiystyru is-adran (2) o'r adran honno.
(b) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991[15] (dosbarthu ansawdd dyfroedd); neu (c) pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac —
(ii) pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiannau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
Cynnwys hysbysiadau adfer
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y "tir halogedig o dan sylw"), yn ddigon manwl i ganiatáu iddo gael ei adnabod naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; (c) dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B(3) i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig; (ch) a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol oherwydd —
(ii) mai'r person yw perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;
(d) manylion y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;
(ii) enw a chyfeiriad pob un person o'r fath, a (iii) y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;
(ff) pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w wneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 78F(6) wedi'u cymhwyso;
(ii) unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;
(h) pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;
(2) Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—
(b) sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail y gellir apelio; ac (c) bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.
Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer
(b) unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad; (c) os mai'r awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac (ch) os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.
(2) Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu oddi tano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
(b) drwy ba ddull y caniateir gwneud cais o'r fath, a'r person y caniateir gwneud y cais iddo; ac (c) drwy ba ddull y bydd swm yr iawndal hwnnw'n cael ei benderfynu,
ac mae'n gwneud darpariaeth bellach ynglŷn ag iawndal o'r fath.
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi pennu, a hynny'n afresymol, y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig;
(b) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad —
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd, a hynny'n afresymol, wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;
(c) bod yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi penderfynu, a hynny'n afresymol, pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;
(e) bod cyflwyno'r hysbysiad wedi mynd yn groes i un o ddarpariaethau adran 78H(1) neu (3) (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;
(ii) p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi dyfarnu, a hynny'n afresymol, y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;
(l) bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);
(ii) is-adran (3) o'r adran honno, y dylai fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59[18] gael eu harfer; neu
(o) y cafwyd rhyw fath o anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.
(2) Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos —
(b) pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu (c) pan gyflwynir yr hysbysiad i'r person hwnnw fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a bod y person hwnnw'n honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.
(3) Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg neu'r camgymeriad yn un o sylwedd.
(b) ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac (c) a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno —
(ii) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol, (iii) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad o apêl yn berson priodol, ac (iv) unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(b) i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn is-baragraff (a)(ii), (iii) neu (iv); ac
(3) Os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig; ac ymdrinnir â'r apêl wedyn fel un y rhoddwyd y gorau iddi o'r dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw'n dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.
(b) peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.
(2) Cyn penderfynu ar apêl, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu fel a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) neu (b) os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu'r awdurdod gorfodi am gael gwrandawiad mewn perthynas â'r apêl.
(b) yr awdurdod gorfodi; ac (c) unrhyw berson (heblaw'r awdurdod gorfodi) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad o apêl iddo.
(4) Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad; a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath a hynny'n afresymol.
(b) caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; a (c) caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael eu gwrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.
(2) Pan wrandewir ar yr apelydd neu ar unrhyw berson arall, yn unol â pharagraff (1), bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael gwrandawiad hefyd.
(b) enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer; (c) disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac (ch) y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.
(3) Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion adran 78R(8) yn lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—
(b) os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.
Dirymu 1. Y teuluoedd a'r grwpiau o sylweddau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(i) yw'r canlynol—
(b) cyfansoddion organoffosfforws; (c) cyfansoddion organotin; (ch) sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo; (d) mercwri a'i gyfansoddion; (dd) cadmiwm a'i gyfansoddion; (e) olew mwynol a hydrocarbonau eraill; (f) syanidau.
2.
Y ffurfiadau creigiau sy'n berthnasol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii) yw'r canlynol—
(b) Sialc Cretasaidd Uchaf; (c) Tywodfeini Cretasaidd Isaf; (ch) Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf; (d) Calchfeini Jurasig Canol; (dd) Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf; (e) Grwp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig; (f) Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf; (ff) Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf; (g) Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf; (ng) Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf; (h) Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.
Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon—
Y cyfnod ar gyfer gwneud cais
(b) pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 12, deuddeng mis ar ôl dyddiad y penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau i'r apêl; neu (c) chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.
Dull gwneud cais
(b) disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; a (c) datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4, a chan ddangos sut y cyfrifwyd pob swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.
Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer
(b) dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau; (c) colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac —
(ii) nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw, a (iii) sy'n golled neu'n ddifrod o fath y mae iawndal am aflonyddu, neu am unrhyw fater arall nad yw wedi'i seilio'n uniongyrchol ar werth y buddiant hwnnw, yn daladwy mewn cysylltiad â hwy ar gaffael gorfodol;
(ch) difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a
Y sail ar gyfer asesu'r iawndal
(b) ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G(5) gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
(b) pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac (c) ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.
(3) Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.
(b) fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.
Hysbysiadau Adfer 1. —(1) Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod gorfodi —
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; (c) y niwed sylweddol, y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd; (ch) y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw; (d) defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw; (dd) yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; a (e) dyddiad yr hysbysiad.
Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
Mynegiad adfer
(b) materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl
(b) y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd; (c) unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac (ch) unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.
Hysbysu adferiad honedig
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac (c) unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27[26] neu trwy gamau gorfodi (o fewn ystyr adran 78YB(2C)[27]), tuag at adfer unrhyw niwed sylweddol, niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.
15.
—(1) Pan fydd yr awdurdod gorfodi yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw —
(b) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1; ac (c) unrhyw gamau y mae'r awdurdod gorfodi yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59[28], mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, ac mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)[29]) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.
16.
Pan fydd yr awdurdod gorfodi, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod 2 o Ran 3 o Ddeddf Adnoddau Dwr 1991 (troseddau llygru), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—
(b) lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac (c) y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn disodli Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2197 (Cy.157)) ("Rheoliadau 2001") ac, yn ogystal â gwneud darpariaeth debyg i'r un a wnaed yn Rheoliadau 2001, yn gwneud, o ran Cymru, ddarpariaeth sy'n hafal i'r un a wnaed o ran Lloegr ym mharagraff 50 o Atodlen 10 i Reoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ac mae'n nodi darpariaethau pellach ynghylch adnabod ac adfer tir halogedig o dan Ran 2A o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990"). Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer disgrifiad ychwanegol o dir halogedig y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig: sef tir sy'n dir halogedig o ganlyniad i sylweddau ymbelydrol yn y tir hwnnw, arno neu oddi tano. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu darpariaethau sy'n gysylltiedig ag apelau i lys ynadon yn erbyn hysbysiadau adfer, o ganlyniad i ddiwygiadau i adran 78L o Ddeddf 1990 a wnaed gan adran 104 o Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16). Mae rheoliadau 2 a 3 ac Atodlen 1 yn nodi'r categorïau hynny o safleoedd (a elwir yn "safleoedd arbennig") y mae Asiantaeth yr Amgylchedd i fod yn awdurdod gorfodi ar eu cyfer. Awdurdodau lleol yw'r awdurdod gorfodi o ran unrhyw safle o fath arall. Mae rheoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cynnwys "hysbysiadau adfer" ac ar gyfer cyflwyno copïau ohonynt: sef hysbysiadau a gyflwynir gan awdurdod lleol neu gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn nodi beth sydd i'w wneud o ran adfer, ac o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu. Mae rheoliad 6 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth o ran yr iawndal sydd i'w dalu'n unol ag adran 78G(5) o Ddeddf 1990 i berson sy'n rhoi, neu sy'n uno ag eraill i roi, hawliau mynediad etc sy'n ofynnol i alluogi person i gydymffurfio â hysbysiad adfer. Mae rheoliadau 7 i 12 yn gwneud darpariaeth o ran apelau yn erbyn hysbysiadau adfer, gan gynnwys seiliau apelio a'r weithdrefn i'w dilyn. Mae rheoliad 13 ac Atodlen 3 yn rhagnodi manylion materion y mae'n ofynnol o dan adran 78R o Ddeddf 1990 eu gosod ar gofrestr a gedwir gan awdurdodau lleol neu, yn achos safleoedd arbennig, gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae Rheoliad 14 yn dirymu Rheoliadau 2001. Notes: [1] Mae adran 78G(6) yn darparu y caiff rheoliadau a wnaed o dan is-adran 78G(5) wneud y cyfryw ddarpariaeth o ran iawndal ag y caniateir ei gwneud gan reoliadau yn rhinwedd adran 35A(4) o Ddeddf 1990 o ran iawndal o dan yr adran honno.back [2] Diwygiwyd is-adran (4) o adran 78L gan Ddeddf Cymdogaethau ac Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adrannau 104 a 107, a Rhan 10 o Atodlen 5.back [3] 1990 p.43. Mewnosodwyd adrannau 78A i 78YC gan adran 57 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25). Gweler y diffiniad o "prescribed" ac o "regulations" yn adran 78A(9).back [4] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo.back [5] O.S. 2006/2988 (Cy.277).back [16] Diwygiwyd adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan I, paragraffau 2 a 6.back [17] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back [18] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back [20] O.S. 2001/2197 (Cy.157).back [23] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.43), adrannau 70 ac 84, Atodlen 15, paragraff 1 ac Atodlen 19, Rhan 3.back [24] Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65), adran 193 ac Atodlen 33, paragraff 5.back [25] Mewosodwyd is-adran (2B) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back [26] Diwygiwyd adran 27 gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 60.back [27] Mewnosodwyd is-adran (2C) o adran 78YB, o ran Cymru a Lloegr, gan O.S. 2000/1973, rheoliad 39 ac Atodlen 10, Rhan 1, paragraffau 2 a 6.back [28] Diwygiwyd adran 59, o ran Cymru a Lloegr, gan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16), adran 43(2).back [29] Diwygiwyd is-adran (3) o adran 30 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), adrannau 22(3) a 66(8) ac Atodlen 9, paragraff 17(3) ac Atodlen 18.back
ISBN 0 11 091442 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 November 2006 |