Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914481. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 25(7), 104(1), a (4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraffau 4(1)(a) o Atodlen 4, 7(1)(a) a (4) o Atodlen 5, a 10(1)(a) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno a phob pŵer arall sy'n ei alluogi i wneud hynny, drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006 a byddant yn dod i rym ar 16 Tachwedd 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio 2. Mae Rheoliad 3 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991[2] (Cymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol o lety diogel mewn cartref plant) wedi'i ddirymu.[a] Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 14 Tachwedd 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991[4] drwy ddirymu rheoliad 3 o'r Rheoliadau hynny i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru. Mae'r rheoliad hwn yn darparu nad yw llety mewn cartref plant yng Nghymru i'w ddefnyddio fel llety diogel oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer defnydd o'r fath. Trosglwyddwyd y swyddogaeth o gymeradwyo llety diogel i blant, sy'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999[5]. Notes: [1] p.41. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad, Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf 1989 yn Atodlen 1 iddo.back [5] Trosglwyddwyd y swyddogaeth gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, fersiwn Gymraeg, rheoliad 2 dylid dileu ail baragraff, sy’n dechrau â "Mae’r pwerau’n arferadwy gan yr…" Page 2, Welsh language version, regulation 2: the second paragraph, beginning "Maer’r pwerau’n arferadwy gan yr…", should be deleted; back
ISBN 0 11 091448 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 28 November 2006 |