Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006, ISBN 0110914643. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 125B(3) a (4) o Ddeddf Tai 1996[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran tai annedd yng Nghymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at—
(b) landlord, yn gyfeiriadau at awdurdod tai lleol sydd wedi dewis gweithredu trefn tenantiaethau rhagarweiniol; ac (c) penderfyniad, yn gyfeiriadau at benderfyniad i estyn cyfnod treialu.
Hawl i gael adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar
(b) yn achos adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar, amser a lle'r adolygiad.
Personau sy'n cael cynnal adolygiadau
(b) i alw personau i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad; ac (c) i ofyn cwestiynau i unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad.
(3) Mae unrhyw gynrychiolydd y tenant i gael yr un hawliau a phwerau â'r rhai sydd gan y tenant o dan y Rheoliadau hyn.
(b) llunio, gyda golwg ar ddull cynnal yr adolygiad, unrhyw gyfarwyddiadau y bydd y person hwnnw yn barnu eu bod yn briodol, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys unrhyw esboniad sy'n cael ei gynnig am yr absenoldeb.
Gohirio gwrandawiad (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Pennod 1 o Ran 5 o Ddeddf Tai 1996 yn sefydlu trefn tenantiaethau rhagarweiniol y caiff awdurdodau tai lleol ddewis ei gweithredu. Pan fo trefn o'r fath yn weithredol, mae'r denantiaeth yn "denantiaeth ragarweiniol" tan ddiwedd y cyfnod treialu, sef cyfnod o flwyddyn. Mae adran 179 o Ddeddf Tai 2004 yn diwygio'r Bennod honno i ganiatáu i awdurdodau tai lleol sydd wedi dewis gweithredu trefn tenantiaethau rhagarweiniol i estyn y cyfnod treialu mewn achosion unigol am gyfnod o chwe mis. Os bydd landlord yn dymuno estyn tenantiaeth ragarweiniol, rhaid iddo gyflwyno i'r tenant hysbysiad estyn sy'n nodi'r rhesymau dros benderfyniad y landlord ac sy'n dweud wrth y tenant am yr hawl i wneud cais am adolygiad o benderfyniad y landlord ac am y cyfnod amser y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath ynddo. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn mewn adolygiad o'r fath. Mae rheoliad 2 yn darparu bod hawl gan y tenant i wneud cais am wrandawiad llafar ac yn nodi sut mae'r hawl honno i'w harfer. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord roi hysbysiad i'r tenant am yr adolygiad. Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i'r adolygiad gael ei gynnal gan berson nad oedd ganddo ran yn y penderfyniad gwreiddiol. Os yw'r person sy'n cynnal yr adolygiad a'r person a wnaeth y penderfyniad i estyn y cyfnod treialu ill dau'n swyddogion i'r landlord, rhaid i'r person sy'n cynnal yr adolygiad fod yn uwch ei swydd yn sefydliad y landlord na'r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol. Mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ynglŷn â sylwadau ysgrifenedig yn yr adolygiad. Mae rheoliadau 6 i 9 yn nodi'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn yn ystod adolygiad ar ffurf gwrandawiad llafar. Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Rheoleiddio a Buddsoddi Tai Cymdeithasol,Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920 825111); e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 1996 p.52; mewnosodwyd adran 125B gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (2004 p.34). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ran 5 o Ddeddf Tai 1996, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672) (y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn) ac adran 267 o Ddeddf Tai 2004.back
ISBN 0 11091464 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 8 December 2006 |