Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006, ISBN 0110914570. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd bellach ynddo ef[2]. Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Tachwedd 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant. Cyfyngu ar ddefnyddio, gwerthu neu fewnforio deunyddiau ac eitemau plastig 3. —(1) Ni chaiff neb —
(b) gwerthu at ddibenion trin bwyd; neu (c) mewnforio o unrhyw fan ac eithrio Gwladwriaeth AEE at ddibenion trin bwyd,
ddeunydd neu eitem plastig sy'n methu â bodloni'r safon ofynnol.
(b) os nad yw'n bodloni'r safonau gofynnol a osodir yn rheoliad 6, 7, 8, 9 neu 10.
Cyfyngu ar ddefnyddio monomerau wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig
(b) nad yw wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS (os oes un) ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn o Adrannau A neu B o Atodiad II; ac (c) nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer y monomer hwnnw a osodir neu y cyfeirir ato yng ngholofn 4 o'r adrannau hynny.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i ddefnyddio monomer wrth weithgynhyrchu unrhyw —
(b) resinau epocsi; (c) adlynion a hyrwyddwyr adlyniad; neu (ch) inciau argraffu.
(4) Rhaid peidio â chymryd bod paragraff (1) yn gwahardd gweithgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gydag unrhyw sylwedd, os yw'r sylwedd dan sylw yn gymysgedd sy'n cwympo o fewn paragraff 3(c) (sy'n ymwneud â chymysgeddau o sylweddau a awdurdodir) o Atodiad II a'i fod o ansawdd technegol da.
(b) yn oligomer neu'n sylwedd macrofoleciwlar synthetig neu'n gymysgedd ohonynt sy'n cwympo o fewn paragraff 3(b) o'r Atodiad hwnnw,
a'i fod o ansawdd technegol da.
(ii) nas defnyddir yn unol ag unrhyw gyfyngiadau a manylebion ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw a osodir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 4 o Adran A neu B o'r Atodiad hwnnw; neu
(b) unrhyw ychwanegyn bwyd a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 89/107 neu unrhyw gyflasyn a awdurdodir gan Gyfarwyddeb 88/388 sy'n ymfudo i fwyd —
(ii) pan fo'r bwyd o fath ag y mae defnyddio ychwanegyn neu gyflasyn bwyd o'r fath ynddo yn y modd hwnnw wedi ei awdurdodi, mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfynau a osodir yng Nghyfarwyddeb 89/107 neu yng Nghyfarwyddeb 88/388 yn ôl y priodoldeb, neu yn Atodiad III, pa un bynnag sydd isaf.
(3) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir bod tramgwydd wedi ei gyflawni oherwydd gweithgynhyrchu deunydd neu eitem plastig gydag unrhyw ychwanegyn a ddynodir yn Adran A neu B o Atodiad III nad yw o ansawdd technegol da, mae'n amddiffyniad i'r cyhuddedig brofi bod pob ychwanegyn o'r fath yn bresennol yn y deunydd plastig gorffenedig fel amhuredd, fel adwaith rhyngol neu fel cynnyrch dadelfeniad.
(b) y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimedr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cynnwys—
(ii) dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall nas gellir ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfri'r berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cysylltiad â'r arwynebedd hwnnw.
(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem plastig a weithgynhyrchir o unrhyw fonomer y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 o Adran A neu B o Atodiad II yn gallu trosglwyddo cyfansoddion y monomer hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gysylltiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gysylltiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(3) yn gymwys iddo.
(b) y chweched ran o nifer y miligramau a fynegir yng ngholofn 4 ym mhob decimedr sgwâr o arwynebedd y deunydd neu'r eitem plastig os yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cynnwys—
(ii) dalen, ffilm neu ddeunydd neu eitem plastig arall nas gellir ei lenwi neu nad yw'n ymarferol amcangyfri'r berthynas rhwng arwynebedd y deunydd neu'r eitem dan sylw a swmp y bwyd sydd mewn cysylltiad â'r arwynebedd hwnnw.
(2) Ni fernir bod deunydd neu eitem a weithgynhyrchir gan gynnwys ychwanegyn y mynegir ar ei gyfer derfyn ymfudiad mewn mg/kg yng ngholofn 4 o Ran 1 neu Ran 2 o Atodlen 2 yn gallu trosglwyddo cyfansoddion yr ychwanegyn hwnnw i fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig ddod i gysylltiad ag ef mewn sympiau sy'n mynd dros ben y terfyn priodol ym mharagraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw ddod i gysylltiad ag ef yw bwyd y mae rheoliad 9(3) yn gymwys iddo.
(b) wedi ei ddynodi gan Rif PM/REF, Rhif CAS ac enw yng ngholofnau 1, 2 a 3 yn eu trefn o Atodiad IV; ac (c) yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r manylebion a osodir yng ngholofn 4 o'r Atodiad hwnnw.
Y safonau gofynnol ar gyfer terfynau ymfudiad cyflawn
(ii) eitem y gellir ei lenwi a'i bod yn anymarferol yn ei achos i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd, neu (iii) sy'n gap, yn gasged, yn gaead neu'n ddyfais gyffelyb ar gyfer selio,
y terfyn priodol yw terfyn ymfudiad cyflawn o 60 o filigramau o gyfansoddion yn cael eu rhyddhau am bob cilogram o fwyd.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn ni fernir bod deunydd neu eitem plastig yn methu â bodloni'r safon ofynnol o dan baragraff (1) os mai'r unig fwyd y gall y deunydd neu'r eitem ddod i gysylltiad ag ef yw bwyd—
(b) pan na fo "X" wedi ei gosod yn unman yn y grwp o golofnau dan y pennawd "Efelychwyr i'w defnyddio" gyferbyn â'r bwyd hwnnw.
(4) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu erthygl plastig yn cydymffurfio â'r rheoliad hwn, mae'r amddiffyniadau sydd ar gael ym mharagraff 6(2) a 7(2) o Atodlen 2 ar gael fel a bennir yn y paragraffau hynny.
(b) mewn unrhyw achos pan fo gofyn sefydlu i ba raddau y mae finyl clorid, fel y'i dynodir yn Adran A o Atodiad II, yn gallu gwneud y fath drosglwyddiad, drwy'r dull y cyfeirir ato yn rheoliad 7(2) o Reoliadau 2005.
(2) Yn Atodlenni 2 a 3, mae cyfeiriadau at ymfudiad neu ryddhad sylweddau i'w dehongli fel cyfeiriadau at drosglwyddo cyfansoddion i'r efelychwr sy'n cynrychioli'r bwyd neu, yn ôl y digwydd, i fwyd y gall ddod i gysylltiad ag ef.
(b) sydd yn darparu, o ran sylweddau sy'n ddarostyngedig i gyfyngiad ar sympiau yn ymfudo i fwyd, gwybodaeth a geir o ddata arbrofol neu o gyfrifiadau damcaniaethol sy'n ymwneud â —
(ii) lle bo hynny'n briodol, meini prawf purdeb yn unol â'r Cyfarwyddebau purdeb.
(2) Wrth sefydlu pa fathau o fwyd y caiff deunydd neu eitem ddod i gysylltiad â hwy, rhaid cymryd, hyd oni phrofir i'r gwrthwyneb, at ddibenion y Rheoliadau hyn, os dangosir manylion o ran y deunydd neu'r eitem hwnnw yn unol â pharagraff (1)(a), bod y manylion hynny yn gywir, ac onid yw'r manylion yn mynegi hynny, nad oes unrhyw gyfyngiadau ar yr amodau a fwriedir parthed y cysylltiad hwnnw.
(b) mae paragraffau (2) i (5) yn ddarostyngedig i Erthygl 1(3) (eithriad yn ymwneud â chynwysyddion storio a phiblinellau penodol); (c) at ddibenion Erthygl 6(4) yr awdurdod cymwys yw'r awdurdod a ddynodir yn rheoliad 14.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 6(1), (2) (darpariaethau trosiannol) a (4) ( gofynion labelu), ni chaiff neb —
(b) defnyddio ar gyfer trin bwyd wrth gynnal busnes, (c) gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu (ch) gwerthu at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem yn groes i Erthygl 3 neu Erthygl 4 (gwaharddiadau yn ymwneud â BFDGE a NOGE yn eu trefn).
(b) gwerthu at ddibenion trin bwyd, neu (c) mewnforio at ddibenion trin bwyd
unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi cael ei weithgynhyrchu mewn modd sy'n groes i ofynion Erthygl 2. Gorfodi 14. Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —
(b) y rheoliadau hyn.
Tramgwyddau a Chosbau
(b) sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith; (c) sydd yn mynd yn groes i reoliad 13(6) neu 17(3) neu, heb esgus rhesymol, yn methu mewn modd arall â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi Rheoliad 1895/2005 neu'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn amdano; neu (ch) sydd wrth honni cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllir yn is-baragraff (c), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn perthnasol, yn euog o dramgwydd.
(2) Mae person a gollfernir am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—
(ii) o'i gollfarnu'n ddiannod i gyfnod mewn carchar nad yw'n hwy na chwe mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau;
(b) yn achos unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na lefel pump ar y raddfa safonol neu'r ddau.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel gofyniad i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno petai'n gwneud hynny.
(b) unrhyw berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,
bernir bod y person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol neu, yn ôl y digwydd, y bartneriaeth Albanaidd, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i'r gosb a all ddilyn.
(b) nas mewnforiodd i'r Deyrnas Unedig,
wedi sefydlu'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (1) os yw yn bodloni gofynion paragraff (3) a (4).
(b) naill ai —
(ii) ei bod yn rhesymol yng nghyflawnder yr amgylchiadau iddo ddibynnu ar wiriadau a wnaed gan y person a roddodd yr wybodaeth iddo gyda'r deunydd neu'r eitem plastig neu gyda'r deunydd neu'r eitem dan sylw; ac
(c) nad oedd yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm i amau ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(4) Mae person yn bodloni gofynion y paragraff hwn os mai gwerthu yw'r tramgwydd ac os yw'n profi —
(b) nad oedd y gwerthiant sy'n ffurfio'r tramgwydd yn werthiant o dan ei enw neu ei farc; ac (c) nad oedd yn gwybod ac na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl iddo wybod ar yr adeg y cyflawnwyd y tramgwydd y byddai ei weithred neu ei ddiffyg gweithred yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn.
(5) Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan y rheoliad hwn (1) mewn unrhyw achos yn cynnwys honni bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu person arall, neu ddibyniad ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir —
(b) pan fo wedi ymddangos gerbron y llys eisoes mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn mis i'w ymddangosiad cyntaf,
wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd sy'n rhoi iddo'r fath wybodaeth ag sydd yn ei feddiant sy'n dynodi neu'n cynorthwyo i ddynodi'r person arall hwnnw.
(ii) bwydydd wedi'u seilio ar rawn ac wedi'u prosesu neu bwydydd babi ar gyfer babanod a phlant bach fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC[20], a
(b) y selir ei chaead drwy gyfrwng gasged PVC sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio ac iddo'r Rhif PM/REF 88640 yn Adran A o Atodiad III,
mae'n amddiffyniad i brofi'r materion a nodir ym mharagraff (2)
(b) yr oedd dyddiad llenwi neu ddangosiad mewn cod o'r dyddiad hwnnw yn bresennol ar y jar neu ar ei chaead adeg y gwerthu; ac (c) yr oedd y labelu neu'r marcio â'r manylion a grybwyllir yn is-baragraff (c) adeg y gwerthu yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud â hirbarhad yn Erthygl 2.1(a) o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor[21].
(3) Ni chaiff neb, heb esgus rhesymol, fethu â chydymffurfio â gofyniad a wnaed gan yr awdurdod gorfodi i ddatgelu'r dyddiad a arwyddoceir gan y dangosiad mewn cod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c).
(b) eitem neu ddeunydd plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Ionawr 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(15) o Reoliadau 1998; (c) eitem neu ddeunydd plastig a roddwyd i gylchredeg yn rhydd yn y Gymuned Ewropeaidd cyn 30 Tachwedd 2002, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(16) o Reoliadau 1998; (ch) eitem neu ddeunydd plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2004, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(a) o Reoliadau 1998; (d) eitem neu ddeunydd plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2003, yr amddiffyniad yn rheol 10(21)(b) o Reoliadau 1998; (dd) eitem neu ddeunydd plastig sy'n cynnwys azodicarbonamide ac a dducpwyd i gysylltiad â bwyd cyn 2 Awst 2005, yr amddiffyniad yn rheoliad 10(23) o Reoliadau 1998; neu (e) eitem neu ddeunydd plastig a weithgynhyrchwyd yn neu a fewnforiwyd i'r Gymuned Ewropeaidd cyn 1 Mawrth 2006, yr amddiffyniad yn rheol 10(25) o Reoliadau 1998.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn heblaw am dramgwydd a grybwyllir yn rheoliad 17(1), mae'n amddiffyniad i brofi—
(b) na fyddai'r mater sy'n destun y tramgwydd honedig yn dramgwydd fel arall o dan y Rheoliadau hyn os nad oedd y diwygiadau i'r Gyfarwyddeb a wnaed gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC wedi'u gweithredu yng Nghymru pan ddigwyddodd y mater.
Gweithdrefnau pan fo sampl i gael ei ddadansoddi
(b) marcio pob rhan neu bob cynhwysydd; (c) cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhoi un rhan i'r perchennog a'i hysbysu yn ysgrifenedig y bydd y sampl yn cael ei dadansoddi; (ch) cyflwyno un rhan i gael ei dadansoddi yn unol ag adran 30 o'r Ddeddf; a (d) cadw un rhan i'w gyflwyno yn y dyfodol o dan reoliad 19.
Ail ddadansoddiad gan Fferyllydd y Llywodraeth
(b) bod yr erlyniad yn bwriadu rhoi canlyniad y dadansoddiad a grybwyllir uchod fel tystiolaeth,
mae paragraffau (2) i (7) yn gymwys.
(b) rhaid iddo os gofyn yr erlynydd (a bod hwnnw'n berson heblaw'r swyddog awdurdodedig) iddo; (c) rhaid iddo os gorchmyn y llys hynny; neu (ch) rhaid iddo (yn ddarostyngedig i baragraff (6)) os gofyn y diffynnydd iddo,
anfon y rhan sydd wedi ei gadw o'r sampl i Fferyllydd y Llywodraeth i gael ei ddadansoddi. Cais i gynnwys ychwanegyn yn rhestr y Gymuned o ychwanegion awdurdodedig 21. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn dymuno gwneud cais i gael cynnwys ychwanegyn cymwys yn rhestr y Gymuned y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb. (2) Rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1), gyda data sy'n ei gefnogi, gael ei wneud i EFSA cyn 1 Ionawr 2007. (3) Os bydd EFSA, yn ystod archwiliad o'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn galw am wybodaeth atodol, gellir parhau i ddefnyddio'r ychwanegyn cymwys, os caniateir ei ddefnyddio fel arall dan gyfraith Cymru a Lloegr, hyd nes bydd EFSA wedi dyroddi barn, cyhyd â bod yr wybodaeth atodol wedi cael ei chyflwyno o fewn y terfynau amser a bennir gan EFSA. (4) At ddibenion y rheoliad hwn, ychwanegyn cymwys yw un y caniateir ei ddefnyddio mewn mwy nag un Aelod-wladwriaeth cyn 1 Ionawr 2007. Cymhwyso darpariaethau'r Ddeddf 22. Mae'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(b) adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol); (c) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
Diwygiad i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990
(3) Yn rheoliad 8—
(b) yn lle paragraff (4) rhodder y paragraff canlynol—
(4) Yn rheoliad 9—
(b) yn is-baragraff (b) o baragraff (3), yn lle'r ymadrodd "o'r Rhan honno fel y'i darllenir gyda Rhan II o'r Atodlen honno." rhodder "o'r Adrannau hynny fel y'u darllenir gyda'r rhagarweiniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.". (c) ym mharagraff (5), yn lle'r ymadrodd “Atodlenni 3 a 4 rhodder "Atodlenni 2 a 3".
Dirymiadau
(b) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2000[26]; (c) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002[27]; (ch) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002[28]; (d) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2004[29]; (dd) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005[30]; (e) rheoliad 15 o Reoliadau 2005.
1. In Sections A and B of Annexes II and III (for the purposes of this Schedule referred together as "the Annexes")—
(b) the CAS number of any substance is its CAS (Chemical Abstracts Service) Registry Number; (c) the name of any substance is its chemical name, and to the extent that there is any inconsistency between the CAS number and the name, the name must take precedence over the CAS number; and (d) references to specific migration are to be taken to mean specific migration as measured in accordance with Schedules 2 and 3.
2.
If a substance appearing in the Annexes as an individual compound also falls within a generic term which appears therein, any restriction applying to that substance must be that indicated for the individual compound and the entry applying to the generic term must be treated as varied to such extent as is necessary.
(b) natural or synthetic macromolecular substances used in the manufacture of modified macromolecules, if the monomers required to synthesise them are not so identified; and (c) substances used to modify existing natural or synthetic macromolecular substances.
(2) Salts (including double salts and acid salts) of aluminium, ammonium, calcium, iron, magnesium, potassium and sodium of authorised acids, phenols or alcohols are not included in the lists in the Annexes even if they are authorised and intentionally used; however names containing "…acid(s), salts" do appear in the lists if the corresponding free acid(s) is or are not mentioned.
(b) substances referred to in note 38 of Annex VI.
4.
In the case of substances listed in Section B of Annex III, the specific migration limits specified in column 4 has effect where the verification of compliance is carried out in Simulant D or in test media of substitute tests as prescribed in Directive 82/711/EEC and 85/572/EEC. General Provisions 1. When the results of the migration tests specified in this Schedule and, where appropriate Schedule 3, are analytically determined, the specific gravity of any simulants used is assumed to be 1, so that milligrams of any substance released per litre of simulant will correspond numerically to milligrams of that substance released per kilogram of that simulant. 2. Where any migration test specified in this Schedule and, where appropriate, Schedule 3 is carried out on any sample taken from any plastic material or article and the quantities of food or simulant placed in contact with the sample differ from those employed in the actual conditions under which the plastic material or article is used or is to be used, the results obtained should be corrected by applying the formula M = (( m.a2/a1.q).1000) where —
(b) m is the mass in the mg of substance released by the sample as determined by the migration test; (c) a1 is the surface area in square decimetres of the sample in contact with the food or simulant during the migration test; (d) a2 is the surface area in square decimetres of the plastic material or article in actual conditions of use; and (e) q is the quantity in grams of food in contact with the plastic material or article in actual conditions of use.
3.
—(1) Subject to sub-paragraph (2), any testing of migration from any plastic material or article must be carried out on that plastic material or article.
(b) if rectified olive oil or any of its substitutes had been used as a simulant and— (c) a sample of the plastic material or article had been weighed before and after contact with the simulant; (d) the simulant absorbed by the sample had been extracted and determined quantitatively; (e) the quantity of simulant so found had been subtracted from the weight of the sample measured after contact with the simulant; and (f) the difference between the initial and corrected final weights had been determined to represent the overall migration of the sample examined,
there would have been no such excess so determined.
(b) the second and third samples are to be subjected to the same conditions of temperature but the period of contact had been two and three times that specified and overall migration had been determined in each case (M2 and M3).
(3) Where a modified test has been carried out in accordance with sub-paragraph (2), provided that either M1 or M3 — M2 did not exceed that overall migration limit, the plastic material or article subject to that test is deemed to be in compliant with that limit.
(b) 12mg/kg or, as the case may be, 2 milligrams per square decimetre in migration tests using other simulants referred to in Schedule 3.
1. Subject to paragraphs 2, 3 and 4 of this Part, migration tests for the determination of specific and overall migration must be carried out using the food simulants specified in Parts 2, 3 and, where appropriate 4, and under conventional migration test conditions as specified in Part 5. 2. Subject to paragraphs 3 and 4 of this Part, substitute tests which use test media under the conventional substitute test conditions as specified in Part 6 must be carried out if the migration test using the fatty food simulants specified in Part 3 is not feasible for technical reasons connected with the method of analysis. 3. Subject to paragraph 4 of this Part, alternative tests as specified in Part 7 may be used instead of the migration test with fatty food simulants specified in Part 3 but the results of such alternative tests may not be used to determine compliance with a migration limit unless the conditions specified in Part 7 are fulfilled. 4. In migration testing it is permissible to—
(b) omit the migration, the substitute or the alternative tests where —
(ii) the conditions for non-compulsory testing set out in Article 8.2 or 8.3 of the Directive are met.
1. Subject to Parts 3, 4, 5 and 7, the simulants to be used in migration testing are specified in the Table to this paragraph (referred to in this Part as "the Table").
2. For the purposes of this Schedule a reference to an abbreviation in column 1 of the Table means a reference to the simulant in column 1 of that Table opposite that abbreviation. 3. The characteristics of rectified olive oil referred to in the Table are —
(b) Refractive index at 25°C = 1.4665 to 1.4679 (c) Acidity (expressed as % of oleic acid) = 0.5% maximum (d) Peroxide number (expressed as oxygen milli-equivalents per kg of oil) = 10 maximum
4.
The fatty food simulants referred to in the Table are—
(b) sunflower oil, the characteristics of which are — (c) Iodine value (Wijs) = 120 to 145 (d) Refractive index at 20°C = 1.474 to 1.476 (e) Saponification number = 188 to 193 (f) Relative density at 20°C = 0.918 to 0.925 (g) Unsaponifiable matter = 0.5% to 1.5% . (h) a synthetic mixture of triglycerides the composition of which is as set out in the following tables Fatty acid distribution
Purity
Typical absorption spectrum (thickness of layer: d = 1 cm; Reference: water at 35°C)
5.
Where a fatty food simulant specified in paragraph 4 is used in migration testing and the result of that test shows that a plastic material or article does not comply with any migration limit specified in regulation 9 or the Annexes, verification that the plastic material or article does not comply with the specified migration must be carried out by testing that material or article using olive oil if such testing is technically feasible, and if such testing is not technically feasible the plastic material or article is deemed not to comply with the specified migration limit. Testing, reduction factors and definition of food types 1. The testing of plastic materials and articles must be carried out under the test conditions specified in Part 5 using a simulant or simulants selected in accordance with this Part and taking a new test specimen of the plastic material or article for each simulant used. 2. —(1) Where a test is carried out on a plastic material or article intended to come into contact with more than one food or group of foods and a reduction factor is specified for one or more of those foods or groups of foods which is not equivalent to the reduction factor specified for one or more of the other foods or groups of foods with which the plastic material or article is intended to come into contact—
(b) the plastic material or article is treated as being capable of transferring its constituents to food with which it may come into contact in excess of a migration limit specified in regulation 9 or the Annexes if, following application of those specified reduction factors, one or more of the results show that the material or article does not comply with that specified migration limit.
(2) For the purpose of this paragraph —
(b) a reduction factor is specified for a food or group of foods where, in the Table to Part 4 —
(ii) "X" is placed in a column headed by a specified simulant opposite that food or group of foods followed by an oblique stroke and a reduction factor;
(c) a reduction factor is applied to a test result by dividing the result by that reduction factor.
3.
Food types are defined in Table 1 below as follows—
Selection of simulants for testing materials and articles intended for contact with all food types 4. The simulants to be used in testing a plastic material or article which is intended for contact with all food types are simulant B, simulant C and simulant D which, at the test conditions specified in Part 5, are considered to be more severe. Selection of simulants for testing materials and articles which are already in contact with a known food 5. The simulant or simulants to be used in testing a plastic material or article which is already in contact with a known food are —
(ii) for the purposes of that Part, a simulant is, or simulants are, specified in relation to that specific food or specific group of foods,
the simulant or simulants so specified;
(ii) within a specific group of foods described in the Table to Part 4 of this Schedule,
the simulant or simulants in column 2 of Table 2 opposite the description of food in column 1 of that Table which corresponds most closely to the known food.
Selection of simulants for testing materials and articles which are accompanied by a specific indication
(b) where the indication states that the plastic material or article should not be used with any food or group of foods described in column 2 of Table to Part 4, a simulant other than the simulant or simulants which, for the purposes of Part 4, is or are specified in relation to that food or group of foods.
8.
A specific indication referred to in paragraph 7 is expressed in accordance with this paragraph if it is expressed—
(b) at the retail stage, by using an indication which refers to only a few foods or groups of foods described in the Table to Part 4. Table 2:Simulants to be selected for testing food contact materials in special cases
1. For the purposes of this Schedule a simulant is specified in relation to a specific food or a specific group of foods where "X" is placed in the column headed by that simulant opposite that specific food or specific group of foods in the Table to this Part, and the Table is read in conjunction with the notes to it and with paragraphs 2 to 5. 2. For the purposes of this Part —
(b) a reduction factor is specified in relation to a specific food or group of foods where, in the Table —
(ii) "X" is placed in a column headed by a specified simulant opposite that food or group of foods allowed by an oblique stroke and a reduction factor.
3.
Where a reduction factor is specified in the Table in relation to a specific food or a specific group of foods, that reduction factor is applied to the result of any migration test using the simulant specified in relation to that food or group of foods by dividing the result of the test by the reduction factor.
(b) if the pH value of the foodstuff is 4.5 or less, simulant B must be used.
5.
Where a food is listed in the Table under both a specific and a general heading, the simulant relating to the specific heading is the simulant which falls to be used for the migration test.
General criteria 1. Subject to paragraphs 2, 4, 6 and 7 below and to paragraph 4.4 of Chapter II of the Annex to Directive 82/711, when carrying out migration tests the time and temperature used must be the time and temperature selected from column 2 of the Table to this Part which correspond to the worst foreseeable conditions of contact specified in column 1 of that Table for the plastic material or article being tested and to any labelling information on maximum temperature for use. 2. Where the plastic material or article being tested is intended for a food contact application covered by a combination of two or more times and temperatures specified in column 2 of the Table to this Part, the migration test must be carried out by subjecting the test specimen successively to all the applicable worst foreseeable conditions appropriate to the sample, using the same portion of food simulant. 3. For the purposes of this Part the worst foreseeable conditions of contact are those which are recognised to be the most severe on the basis of scientific evidence. Volatile migrants 4. When carrying out a test of the specific migration of volatile substances any test using a simulant must be performed in a manner which recognises the loss of volatile migrants which may occur in the worst foreseeable conditions of use. Special cases 5. When carrying out a migration test of a plastic material or article which is intended for use in a microwave oven, if the appropriate time and temperature is selected from the table to this Part, either a conventional oven or a microwave oven may be used. 6. Where the carrying out of a migration test under contact conditions specified in the Table to this Part causes any physical or other change in the test specimen which does not occur under the worst foreseeable conditions of use of the plastic material or article being tested the migration test must be carried out in the worst foreseeable conditions of use in which such physical or other change does not occur. 7. Where, in actual use, the plastic material or article being tested is intended to be used for periods of less than 15 minutes at any temperature of not less than 70oC and not more than 100oC and such use is indicated by appropriate labelling or instructions no test other than for 2 hours at 70oC must be carried out on the plastic material or article unless the plastic material or article is also intended to be used for storage at room temperature in which case no test other than for 10 days test at 40oC must be carried out. 8. The Table to this Part is read with the notes to it.
1. Subject to paragraphs 2, 4 and 5, all the test media specified in the Table to this Part must be used in the substitute fat test for overall or specific migration under the test conditions corresponding to the test conditions for simulant D. 2. Test conditions other than those specified in the Table to this Part may be used in the substitute fat test if the assumptions underlying the test conditions specified in that Table and, where the plastic material or article being tested is a polymer, the existing experience of that type of polymer are taken into account. 3. For each test—
(b) the rules prescribed for simulant D in Parts 3, 4 and 5 of this Schedule must be applied for each test medium; (c) subject to paragraph 4, compliance with a migration limit must be determined by selecting the highest value using all the test methods.
4.
Where carrying out a migration test causes any physical or other change in the test specimen which does not occur under the worst foreseeable conditions of use of the plastic material or article the result of that test must not be used to ascertain compliance with a migration limit.
1. Subject to paragraph 2 of this Part the conditions which must be fulfilled to allow the result of either test specified in paragraph 3 to be used as an alternative to the result of a migration test carried out under Part 3 are that—
(b) the migration occurring in either test specified in paragraph 3 does not, after application of the appropriate reduction factor, exceed the appropriate migration limit.
2.
The condition in sub-paragraph (a) of paragraph 1 does not have to be fulfilled if it can be shown on the basis of the result of scientific experiment that the values obtained in either of the tests specified in paragraph 3 are equal to or greater than those obtained in any of the migration tests specified in Part 3.
(b) other tests using media having a very strong extraction power under very severe test conditions where, on the basis of scientific evidence, it is generally recognised that the results using these tests are equal to or higher than those obtained in a test using simulant D.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 fel y'i newidiwyd ("Rheoliadau 1998") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac yn ail-ddeddfu darpariaethau penodol a geir yn Rheoliadau hynny, neu'n eu hail ddeddfu gyda newidiadau. Rhestrir y prif Gyfarwyddebau sy'n parhau i gael eu gweithredu gan y Rheoliadau hyn ym mharagraff 5 isod. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu'r defnydd o ddeilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ("Rheoliad 1895/2005"). 2. Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2 —
(b) yn gwahardd defnyddio monomerau ac ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau ac eithrio yn unol ag amodau penodedig (rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn achos monomerau a rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn achos ychwanegion); (c) yn pennu'r safonau gofynnol sy'n ymwneud â galluogrwydd monomer neu ychwanegyn i gyflwyno ei gyfansoddion i fwyd (rheoliad 6 ar gyfer monomerau a rheoliad 7 ar gyfer ychwanegion); (ch) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â chynhyrchion a geir drwy eplesu bacterol (rheoliad 8 ); (d) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â therfynau ymfudiad cyflawn allan o ddeunyddiau neu eitemau plastig i mewn i fwyd (rheoliad 9); (dd) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn ag ymfudiad aminau aromatig sylfaenol o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 10); (e) yn pennu'r dulliau o benderfynu ar allu deunydd neu eitem plastig i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd, ac i ganfod presenoldeb unrhyw gyfansoddion o'r fath mewn bwyd (rheoliad 11 ac Atodlenni 2 a 3); (f) yn darparu bod rhaid, cyn y cam manwerthu, i wybodaeth ysgrifenedig benodol, gan gynnwys datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol, fynd gyda deunyddiau ac eitemau plastig (rheoliad 12); (ff) darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28), sy'n cynnwys darpariaethau Cymunedol ynglŷn â'r deilliadau epocsi a elwir BADGE, BFDGE a NOGE (rheoliad 13).
3.
Mae'r Rheoliadau yn Rhan 3 —
(b) yn pennu'r tramgwyddau y gellir eu cyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac yn gosod uchafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 15); (c) yn darparu amddiffyniadau cyffredinol eu natur, megis arfer diwydrwydd dyladwy, i dramgwyddau o dan reoliad 15 (rheoliad 16); (ch) yn darparu amddiffyniad trosiannol o ran gwerthu jariau sy'n cynnwys bwydydd babanod a phlant bach ac sydd â gasged PVC wedi'i selio sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio (rheoliad 17); (d) yn darparu amddiffyniadau trosiannol o ran deunyddiau neu eitemau plastig sydd eisoes wedi cael eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg cyn bod newid yn y gyfraith a fyddai fel arall wedi gwneud eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg yn anghyfreithlon (rheoliad 18); (dd) yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan anfonir sampl i gael ei dadansoddi (rheoliad 19); (e) yn darparu ar gyfer cael dadansoddi sampl gyfeiriadol gan Labordy Fferyllydd y Llywodraeth (rheoliad 20);
4.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn a'r terfyn amser y mae'n rhaid cadw ato pan fo person yn dymuno gwneud cais i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop am awdurdodiad i ychwanegyn newydd (rheoliad 21).
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif . L372, 31.12.1985, t.14); (c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18) ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).
6.
Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26.back [5] OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10.back [6] OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14.back [7] OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61.back [8] OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.back [9] OJ Rhif L178, 28.7.97, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/46, (OJ Rhif L114, 21.4.2004, t.15.back [10] OJ Rhif L226, 22.9.95, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47, (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24).back [11] OJ Rhif L339, 30.12.96, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95, (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71).back [12] OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18.back [13] OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8.back [14] OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35.back [15] OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.back [16] O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2001/1236 (Cy.70), O.S. 2002/2834 (Cy.272) O.S. 2003/302 (Cy.44), O.S. 2005/182 (Cy.15) ac O.S. 2005/1649 (Cy.130).back [17] O.S. 2005/1647 (Cy.128).back [18] Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC (OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4).back [19] OJ Rhif L175, 4.7.1991, t.35, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/14/EC (OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.37)back [20] OJ Rhif L49, 28.2.1996, t.17, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/13/EC (OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.33)back [21] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/89/EC (OJ Rhif L308, 25.11.2003, t.15).back [23] OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon o'r blaen gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t..8)back [24] OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35.back [25] O.S. 2006/2983 (W.273)[a] .back [26] O.S. 2001/1263 (Cy.70).back [27] O.S. 2002/2834 (Cy.272).back [28] O.S. 2003/302 (Cy.44).back [29] O.S. 2005/182 (Cy.15).back [30] O.S. 2005/1649 (Cy.130).back [32] OJ No. L338, 13.11.2004, p.4..back
[a] Amended by Correction Slip. Page 22, fersiwn Gymraeg, troednodyn (4): dylai darllen fel "O.S. 2006/2982 (W.273)." Page 22, Welsh language version, footnote (4): should read, “O.S. 2006/2982 (W.273).” back
ISBN 0 11091457 0
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 December 2006 |