Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110914384. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993 2. Datgenir bod glo caled, glo lled-galed, trydan, nwy, gloeau stêm isel eu hanweddolrwydd a'r tanwyddau a ddisgrifir yn Atodlen 1 yn danwyddau awdurdodedig at ddibenion Rhan III o Ddeddf Aer Glân 1993. Dirymiadau ac arbedion 3. —(1) Mae'r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u dirymu. (2) Bydd unrhyw danwydd a weithgynhyrchwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac a oedd yn danwydd awdurdodedig adeg ei weithgynhyrchu, yn parhau i fod yn danwydd awdurdodedig er bod y Rheoliadau a restrir yn Atodlen 2 wedi'u dirymu. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 14 Tachwedd 2006 1. Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, County Durham—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
2.
Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, North East Lincolnshire —
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C; (c) yn frics glo ar siâp gobennydd gydag un llinell wedi'i hindentio ar un ochr a dwy linell wedi'u hindentio ar yr ochr arall ac sy'n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
3.
Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire —
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp clustog heb eu marcio ac sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
4.
Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
5.
Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio; (c) sy'n foncyffion tân, rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, a chyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
6.
Brics glo Bord na Móna Firepak (sy'n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special) a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Gweriniaeth Iwerddon—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
7.
Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited ar Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.9 y cant o sylffwr pan fyddant yn sych.
8.
Bryant and May Firelogs a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio; (c) y mae iddynt drawstoriadau cwadrant o ryw 80 milimetr o radiws, ac sy'n rhyw 265 milimetr o hyd gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl, ac sy'n pwyso rhyw 1.15 cilogram; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
9.
Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 110°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
10.
Coalite a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, yn ymyl Chesterfield, Derbyshire ac yn Grimethorpe, South Yorkshire drwy ddefnyddio proses carboneiddio tymheredd isel.
(b) Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire a'i werthu fel "Sunbrite" neu "Monckton Boiler Beans"; (c) Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland a'i werthu fel "Redcar Coke Nuts (Doubles)"; a (ch) Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf a'i werthu fel "Cwm Coke Doubles".
12.
Cosycoke (sy'n cael ei farchnata hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus) a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire ac Aimcor Supercoke (sydd hefyd yn cael ei farchnata fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, sydd ym mhob achos—
(b) wedi'i weithgynhyrchu o'r cyfansoddion hynny drwy eu cyfuno; (c) o hapsiapiau heb eu marcio; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
13.
Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd wedi eu marcio â'r llythyren "T" ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
14.
Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
15.
Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt B.V., Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, Yr Iseldiroedd—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio; (c) sy'n foncyffion tân rhyw 320 milimetr eu hyd, 90 milimetr eu huchder a 85 milimetr eu lled, yn pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
16.
Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio mewn dau faint sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
17.
Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft mbH yn Hückelhoven, Yr Almaen—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C; (c) sy'n frics glo ariannaidd siâp clustog â'r llythrennau "S" a "J" wedi'u marcio arnynt ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac (ch) sy'n cynnwys rhyw 1.2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
18.
Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 330°C; (c) sy'n siâp ofoid â thair llinell ar un ochr a'r ochr arall yn llyfn ac sy'n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 0.8 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
19.
Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sydd, fel brics glo gorffenedig, yn cynnwys nid llai na 9 y cant ac nid mwy na 15 y cant o fater anweddol o'r cyfanswm pwysau pan fyddant yn sych; (ch) sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; a (d) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
20.
Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
21.
Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd wedi'u marcio â dwy linell gyfochrog sydd wedi'u hindentio ac yn rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
22.
Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r golosg petrolewm drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm; (c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio ac sy'n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
23.
Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 150°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
24.
Long Beach Lump nuts (a elwir fel arall yn LBL nuts), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys triniaeth wres a chwistrellu stêm; (c) o hapsiapiau heb eu marcio; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
25.
Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 250°C; (c) sy'n frics siâp clustog wedi'u marcio â'r llythyren "M" ac sy'n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
26.
Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso naill ai 55 neu 80 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
27.
Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
28.
Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp ofoid â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
29.
Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, East Riding of Yorkshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys gwasgu'r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar ryw 40°C i 50°C; (c) sy'n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy'n gorgyffwrdd yn yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor yn yr wyneb isaf, ac sy'n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
30.
Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, yn ymyl Barnsley, South Yorkshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu hallwthio; (c) sy'n frics glo chweochrog heb eu marcio ac sy'n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
31.
Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp ofoidau heb eu marcio ac sy'n pwyso 40 gram ar gyfartaledd fesul bricsen; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
32.
Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, County Durham—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys eu cyfuno a'u sgrinio; (c) sy'n hapsiapiau heb eu marcio; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.95 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
33.
Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 240°C; (c) sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
34.
Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
35.
Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sy'n siâp ofoid heb eu marcio ac sy'n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
36.
Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 300°C; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd sydd wedi'u marcio ag un llinell wedi'i hindentio yn rhedeg yn hydredol ar hyd pob wyneb yn gorwedd 10 milimetr oddi wrth y llinell gyfatebol, neu heb eu marcio, ac sydd yn y naill achos a'r llall yn pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 2 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
37.
Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu; (c) sy'n frics glo siâp gobennydd heb eu marcio ac sy'n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac (d) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
38.
Boncyffion tân ZIP Cracklelog, boncyffion tân ZIP Crackle-log a boncyffion tân ZIP Crackling Log, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio; (c) sy'n foncyffion tân, rhyw 235 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
39.
ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan B.V., Macroweg 4, 5804 CL Venray, Yr Iseldiroedd—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio; (c) sy'n foncyffion tân, rhyw 265 milimetr eu hyd a 80 milimetr eu dyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
40.
ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk B.V., Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, Yr Iseldiroedd—
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio; (c) sy'n foncyffion tân rhyw 255 milimetr eu hyd a 75 milimetr eu diamedr, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol, ac sy'n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd fesul boncyff tân; ac (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy na 0.1 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.
Y rheoliadau a ddirymwyd:—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 ("Deddf 1993") yn darparu, pan fo simnai naill ai—
(b) yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol,
fod meddiannydd yr adeilad, neu (yn ôl y digwydd) y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau yn euog o dramgwydd os yw'r simnai mewn ardal rheoli mwg ac yn gollwng mwg. Er hynny, mae'n amddiffyniad os gellir profi yr achoswyd y gollyngiad honedig drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig a dim byd arall. Notes: [1] 1993 p.11.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 091438 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 27 November 2006 |