Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 011091452X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 71 a 104(3) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], ac wedi ymgynghori â'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 98/34/EC[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 24 Ionawr 2007. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio'r Rheoliadau 2. —(1) Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) 1992 yn cael eu diwygio fel a ganlyn: (2) Yn lle rheoliad 2(c), rhodder —
(3) Yn lle rheoliad 2(e), rhodder —
(4) Yn rheoliad 3(3), yn lle'r geiriau "30 million standard axles" rhodder "125 million standard axles".
(6) Yn y Tabl i reoliad 4(3)—
(7) Yn rheoliad 7, yn lle'r geiriau "paragraphs 1.5,1.6.1 and 1.6.2", rhodder "paragraphs S1.6 and S1.7". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio (o ran Cymru) Rheoliadau Gwaith Stryd (Adfer) 1992 (O.S. 1992/1689) (“Rheoliadau 1992). Mae Rheoliadau 1992 yn rhagnodi gofynion ar gyfer manylebion deunyddiau sydd i gael eu defnyddio a safonau crefftwaith y mae ymgymerwyr i gadw atynt wrth adfer strydoedd gan gyfeirio at God Ymarfer a ddyroddwyd yn 1992. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cymeradwyo dyroddi Cod Ymarfer newydd o'r enw "Manyleb ar gyfer Adfer Agorfeydd mewn Priffyrdd" (y "Cod newydd"). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 i adlewyrchu'r ffaith fod paragraffau wedi cael Rhif au newydd, a phenawdau wedi cael enwau newydd, yn y Cod newydd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dilyn y Cod newydd drwy ddarparu fod y Cod yn gymwys i bob ffordd sy'n cario 125 o filiynau o echelau safonol. Ar wahân i hyn, mae'r Cod yn cyflwyno amryw o ofynion newydd, yn ymwneud yn enwedig â'r defnydd o ddeunyddiau penodol ar gyfer adfer y briffordd ac yn cyflwyno categori newydd o ffordd ar gyfer ffyrdd y mae llawer iawn o draffig arnynt. Mae'r Cod newydd ar gael ar Wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn www.cymru.gov.uk. Notes: [1] 1991 p.22.back [2] Mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back [3] O.J. Rhif .L204, 21.7.1998, t.37.back
ISBN 0 11 091452 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 30 November 2006 |