Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006, ISBN 0110914376. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2]. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb.
(b) caniateir eu diwygio, neu'u dirymu, drwy ddatganiad pellach, ar unrhyw adeg; (c) rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir; (ch) rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y parth ac, os ydynt yn gymwys mewn rhan yn unig o'r parth, bennu ym mha ran y maent yn gymwys; a (d) rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
(2) Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw adeg.
(b) rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
(4) O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(b) caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol; (c) caniateir iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amod y mae'r person sy'n rhoi'r drwydded yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar; a (ch) caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg,
ac yn achos trwyddedau brechu, rhaid iddynt hefyd bennu'r materion a nodir ym mharagraff (3)(a) a (b).
(b) os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac (c) os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(8) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud gyffredinol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
(ii) dyddiad y symudiad; (iii) enw'r traddodwr; (iv) cyfeiriad y fangre y dechreuwyd y symudiad ohoni; (v) enw'r traddodai; a (vi) cyfeiriad y gyrchfangre;
(b) dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac
Gwahardd brechu
(b) rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005[7].
Brechu brys
(b) cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar ("hysbysiad brechu brys").
(2) Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—
(b) brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu (c) bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.
(3) Pan fo parth brechu brys yn cael ei ddatgan, neu pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o'r Gyfarwyddeb, rhaid datgan neu gyflwyno'r hysbysiad yn unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw.
(b) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) ac os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—
(ii) cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar ("hysbysiad brechu ataliol").
(2) Dyma'r amodau—
(b) bod cynllun brechu ataliol wedi'i ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.
(3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
(b) adran 16A[9] (lladd anifeiliaid sydd wedi'u brechu); ac (c) adran 62A[10] (lladd: pwer mynediad).
Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu
(b) rheoli dulliau cyflenwi a storio'r brechlyn a dulliau gwaredu unrhyw frechlyn nas defnyddiwyd; (c) rheoli rhoi'r brechlyn i'r adar; (ch) sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw; (d) sicrhau bod y samplau angenrheidiol o adar yn cael eu cymryd; (dd) sicrhau bod modd adnabod adar sydd wedi'u brechu; (e) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu pan fod y gwaith brechu wedi'i gwblhau; (f) rheoli symudiad unrhyw ddofednod, adar caeth eraill neu'u cynnyrch o'r naill fangre mewn parth i'r llall mewn parth, i mewn i'r parth hwnnw neu allan ohono neu i mewn i'r fangre honno sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded neu allan ohoni; (ff) rheoli rhyddhau dofednod neu adar caeth eraill i'r gwyllt; (g) sicrhau bioddiogelwch digonol pan fydd unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill neu'u cynnyrch yn cael eu cludo; (ng) sicrhau bod dofednod neu adar caeth eraill sydd yn y parth neu yn y fangre sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded o dan wyliadwriaeth,
a chaiff osod unrhyw gyfyngiadau ac amodau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar.
(b) i mewn i'r parth neu allan ohono; neu (c) i mewn i fangre sy'n destun hysbysiad neu allan ohoni.
(3) Ni fydd paragraff (2) yn gymwys i'r canlynol —
(b) i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod ac wyau deor eraill a symudiadau sy'n dilyn y cyfryw ddosbarthiad; neu (c) symudiad carcasau neu wyau i'w gwaredu.
(4) Rhaid i feddiannydd mangre y mae cywion diwrnod oed, dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i gael eu cigydda) neu unrhyw adar caeth eraill sy'n cael eu symud o dan unrhyw un o baragraffau 5 i 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y cywion diwrnod oed, dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu rhoi mewn rhan o'r fangre lle nad oes dofednod eraill.
(b) o fangre sy'n destun hysbysiad sy'n gyfystyr â hysbysiad brechu yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,
pan fo'r parth hwnnw wedi'i ddatgan, neu pan fo'r hysbysiad hwnnw wedi'i gyflwyno, cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.
(b) caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd wahanol.
(3) Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednod neu'r adar caeth eraill, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednod neu'r adar hynny yn cael eu bwydo a'u tendio'n iawn.
(b) ei ddangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a rhoi copïau ohono iddo os bydd yn gofyn amdanynt.
(2) Caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre at ddiben arolygu unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff—
(b) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir mynd â hwy; ac (c) mynd ag unrhyw gofnodion a'u dal dan gadwad.
(3) Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddychwelyd unrhyw gofnodion y mae wedi'u dal dan gadwad ar ôl iddo eu copïo neu ar ôl iddo orffen eu harolygu.
(b) ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre; (c) ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill—
(ii) gwahanu unrhyw ddofednod, adar caeth neu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu adar eraill.
(3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf[12]—
(b) adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod); (c) adran 64A[13] (pwerau arolygwyr o ran rhwymedigaethau Cymunedol); (ch) adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llestri ac awyrennau dan gadwad).
(4) Mae adran 65A o'r Ddeddf[14] (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—
(b) y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; a (c) pob parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno tra bo'r hysbysiad brechu.
(5) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—
(b) cymryd samplau o unrhyw aderyn; (c) mynd â'r personau a'r pethau ag ef y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(6) Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
(b) i gymryd unrhyw beth i feddiant a'i ddal gan gadwad.
Tramgwyddau ac achosion
(b) adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.); (c) adran 68 (dyroddi trwyddedau etc. sy'n wag); (ch) adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau); (d) adran 71A[16], (erlyniadau: terfyn amser); (dd) adran 73 (tramgwyddau cyffredinol); (e) adran 77 (arian sy'n adenilladwy yn ddiannod); (f) adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn),
ac fel petai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.
(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(b) arolygydd awdurdod lleol; (c) unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol i weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
Dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006 1. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy sy'n deor—
(b) o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(b) mae wedi cael ei ddiheintio cyn ei anfon yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; (c) mae i'w gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.
(3) Symudiad unrhyw wy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod ei fod yn cael ei gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig. 2. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy heblaw wy sy'n deor—
(b) o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Yr amodau yw bod yr ŵy yn tarddu o haid ddodwy sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau ac—
(b) ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004[20]er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004[21].
3.
Symudiad unrhyw ŵy heblaw ŵy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod bod—
(b) ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004[a] er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004.
4. Symudiad cyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2). 5. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod —
(b) ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2) neu 2.
6.
Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu. 7. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod —
(b) bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
8.
Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu ar yr amod —
(b) bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
9.
Symudiad unrhyw ddofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill o fangre sydd y tu allan barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu yn destun hysbysiad brechu. 10. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod wedi'u brechu i'w cigydda—
(b) o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(b) mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol a'u profi cyn eu llwytho gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau; (c) mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol cyn pen 48 o oriau cyn eu llwytho ac os yw'n briodol mae unrhyw adar dangos clwy yn y fangre hefyd wedi cael eu harchwilio gan arolygydd meddygol; (ch) maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
11. —(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod heb eu brechu i'w cigydda—
(b) o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(b) maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
12.
Symudiad unrhyw ddofednod i'w cigydda o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw yn destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun parth brechu, ar yr amod eu bod yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig. 13. Symudiad dofednod neu adar caeth byw eraill o'r Deyrnas Unedig o fangre sydd mewn parth brechu neu sy'n destun hysbysiad brechu ar yr amod bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan yr Aelod-wladwriaeth sy'n eu derbyn. 14. Yn yr Atodlen hon, mae mangre sydd i'w mynegi fel un "dynodedig" yn fangre y bernir ei bod yn ddynodedig yn unol â rheoliad 9(6). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi o ran Cymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC (OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16) i'r graddau y mae'n ymdrin â brechu yn erbyn ffliw adar. Mae Rheoliad 5 yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar frechu anifeiliaid yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol neu wedi'i drwyddedu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheoliadau 6 a 7 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar, ddatgan parthau brechu mewn ardaloedd sy'n cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylent gael eu brechu, neu gyflwyno hysbysiadau brechu i feddianwyr mangreoedd lle y mae'r cyfryw adar yn cael eu cadw. Mae Rheoliad 8 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud brechu'n ofynnol yn y parthau hyn neu yn y cyfryw fangreoedd. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesurau ond pan fônt yn unol â chynllun brechu a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a phan fo asesiad risg wedi'i wneud a bod hwnnw wedi dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru, neu fod ardaloedd penodol neu adar penodol yn agored beth bynnag i risg ffliw adar. Bydd y mesurau hyn yn fesurau brys neu'n fesurau atal, gan ddibynnu ar natur y risg. Mae Rheoliad 7 hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol roi trwyddedau i feddianwyr mangreoedd sy'n caniatáu brechu adar, neu gategorïau penodol o adar, yn y mangreoedd hynny. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesur ond ar sail ataliol a phan fo asesiad risg yn dangos bod yr adar yn y mangreoedd yn agored i risg ffliw adar. Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu. Mae Rheoliad 10 yn darparu, pan fo gwaith brechu brys yn cael ei wneud cyn bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo'r cynllun brechu cenedlaethol brys, bod gwaharddiad cyffredinol ar symud dofednod, adar caeth eraill a'u hwyau o'r naill fangre mewn parth brechu brys i'r llall mewn parth brechu brys, i mewn i unrhyw barth brechu brys ac allan ohono ac i mewn i unrhyw fangre sy'n destun hysbysiad brechu ac allan ohoni oni bai bod y symudiad yn un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen a bod y symudiad wedi'i drwyddedu. Mae a wnelo rheoliadau 14 i 24 â phwerau arolygwyr, tramgwyddau a gorfodi'r gyfraith. Mae rheoliad 21 yn cymhwyso darpariaethau sy'n gysylltiedig â thramgwyddau o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) fel petai'r Rheoliadau wedi'u gwneud o dan y Ddeddf honno. O ganlyniad, tramgwydd yw methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau o dan adran 73 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 21(3) yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na £5000 neu'r ddau. Mae rheoliad 25 yn dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006. Ni ddarparwyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn. Gellir cael Nodyn Trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau brechu Cyfarwyddeb 2005/94/EC yn y Rheoliadau hyn, oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1972 p.68.back [3] 1981 p.22, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3293 a Deddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [4] OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16.back [5] O.S. 2006/2803 (Cy.242).back [6] O.S. 1998/463, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [7] O.S. 2005/2745, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [8] Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (c.42), adran 7.back [9] Mewnosodwyd adran 16A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 5.back [10] Mewnosodwyd adran 62A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8.back [11] O.S. 2006/2927 (Cy.262).back [12] Estynnwyd y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf i gynnwys dofednod ac adar caeth eraill, fel y'i diffinnir gan y Rheoliadau hyn, gan O.S. 2006/2927 (W.262).back [13] Mewnosodwyd adran 64A gan O.S. 1992/3293, rheoliad 2.back [14] Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.back [15] Mewnosodwyd adran 66A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8(2).back [16] Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 14.back [17] Diwygiwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 13back [18] O.S. 2006/1761 (Cy.183).back [20] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55.back [21] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 19, fersiwn Gymraeg, Atodlen, Rhan 2, paragraff 3(b), pedwerydd llinell: "hellip;Rhif 852/2004 er mwyn…" ddarllen, "hellip;Rhif 853/2004 er mwyn…" back
ISBN 0 11 091437 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 27 November 2006 |