Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006, ISBN 011091421X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) o Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygiadau i Reoliadau 2004 2. Diwygir Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004[2] fel a ganlyn—
(ii) hepgorer paragraff (2);
(b) yn rheoliad 5(1) hepgorer y geiriau o "sy'n dod o fewn" i "(2)(b) o'r rheoliad hwnnw".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004"). Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 3 o Reoliadau 2004 er mwyn darparu bod pob person y mae awdurdodau lleol Cymru wedi penderfynu darparu gwasanaethau gofal yn y gymuned iddo yn berson rhagnodedig at ddibenion Rheoliadau 2004. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad 5 o Reoliadau 2004 gyda'r effaith bod rhaid i'r awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol, yn hytrach na darparu gwasanaethau'n uniongyrchol, i bob person rhagnodedig o dan reoliad 3 os yw'r person hwnnw wedi cytuno i dderbyn taliadau o'r fath ac nad yw wedi ei eithrio fel arall rhag eu derbyn o dan Reoliadau 2004. Notes: [1] 2001 p.15. Mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn diffinio "rheoliadau" fel "rheoliadau wedi'u gwneud gan yr awdurdod perthnasol" a'r "awdurdod perthnasol" fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru (a'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr). Gweler adran 57(8) o Ddeddf 2001 i gael y diffiniad o "prescribed".back
ISBN 0 11 091421 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |