Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006, ISBN 0110914201. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973[1] a gan adran 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2], a gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
mae i "cynnyrch planhigyn" yr un ystyr â "plant product" yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
mae i "gwiriad adnabod" yr un ystyr ag "identity check" yn Erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
mae i "gwiriad dogfennol" yr un ystyr â "documentary check" yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
mae i "gwiriad iechyd planhigion" yr un ystyr â "plant health check" yn Erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC[3] ddyddiedig 8 Mai 2000 ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC[4];
mae i "llwyth" yr un ystyr â "consignment" yn Erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "oriau gwaith yn ystod y dydd" ("daytime working hours") yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[5] yng Nghymru;
mae i "planhigyn" yr un ystyr â "plant" yn Erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;
mae i "planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu" yr un ystyr â "plant intended for planting" yn Erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb; ac
ystyr "trydedd wlad" ("third country") yw gwlad neu diriogaeth ac eithrio un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt 3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad, ac sydd:
(a) wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; neu
(b) yn hadau Solonaceae p'un a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb neu beidio.
Ffioedd 4.
—(1) Rhaid i fewnforiwr dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol adeg mewnforio llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a) yn ddarostyngedig i baragraff (2), y ffi a bennir—
(i) yn nhrydedd golofn Atodlen 1 am unrhyw lwyth ac eithrio llwyth o un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu
(ii) ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 am lwyth o unrhyw un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno ac sy'n dod o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno; a
(b) y ffi a bennir am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
(2) Pan fo gwiriad iechyd planhigion yn cael ei gynnal ar lwyth ar gais mewnforiwr, neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) am y llwyth hwnnw yw—
(a) y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 1 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b) y ffi a bennir ym mhumed golofn Atodlen 2 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/171), a weithredodd Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1) ("y Gyfarwyddeb"). Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau a geir oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith hefyd gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforiwr dalu, adeg mewnforio llwyth y maent yn gymwys iddo, y ffi a bennir yn Atodlen 1 neu'r ffi yn ôl y gyfradd ostyngol yn Atodlen 2, fel y bo'n briodol (rheoliad 4(1)(a)). Mae'r ffi yn daladwy p'un a chynhelir arolygiad ar y llwyth penodol neu beidio (ac eithrio yn achos y ffioedd sy'n daladwy am arolygiad a gyflawnwyd ar gais mewnforiwr y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd (rheoliad 4(2)).
Mae'n ofynnol hefyd i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 am wiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(1)(b)).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.