Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth Ar Gyfer Cymorth I Fyfyrwyr I Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006, ISBN 011091418X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 45 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwi Gwybodaeth ar Gyfer Cymorth i Fyfyrwyr i Gyrff Llywodraethu (Cymru) 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 27 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongliad 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) unrhyw awdurdod sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(e) o Ddeddf 2004; ac (c) unrhyw berson sy'n cwympo o fewn adran 45(7)(f) o Ddeddf 2004;
Cyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr
(b) i dalu i'r ymgeisydd swm y bwrsari (neu'r cymorth ariannol arall) y mae'r corff llywodraethu wedi penderfynu sy'n daladwy iddo.
Gwybodaeth ragnodedig ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i'w chyflenwi gyda chydsyniad yn unig
(b) yw'n wybodaeth a gyflenwir i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gan noddwr yr ymgeisydd mewn cysylltiad â chais yr ymgeisydd am gymorth i fyfyrwyr; (c) yw'n wybodaeth sy'n ymwneud â—
(ii) cymhwyster yr ymgeisydd ar gyfer cymorth ariannol sy'n daladwy o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr; (iii) cyfrifo swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr; neu (iv) swm y cymorth ariannol sy'n daladwy i'r ymgeisydd o dan y cynllun cymorth i fyfyrwyr.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Adran 45 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth i awdurdod cymorth i fyfyrwyr gyflenwi gwybodaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr pan fo'n wybodaeth o ddisgrifiad rhagnodedig sy'n cael ei rhoi i berson rhagnodedig at ddiben rhagnodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "awdurdod cymorth i fyfyrwyr" yw: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu gorff llywodraethu y trosglwyddwyd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr iddo o dan adran 23(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a pherson y cafodd swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr eu dirprwyo iddo o dan adran 23(4) o'r Ddeddf honno. Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi gwybodaeth a ddarperir mewn cysylltiad â chais am gymorth i fyfyrwyr naill ai gan y myfyriwr dan sylw neu gan ei noddwyr i gyrff llywodraethu sefydliadau sy'n darparu cyrsiau sy'n gyrsiau wedi eu dynodi at ddibenion y cynllun cymorth i fyfyrwyr. Mae'r Rheoliadau hefyd yn galluogi awdurdodau cymorth i fyfyrwyr i gyflenwi i gyrff llywodraethu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, megis a yw'r myfyriwr yn gymwys yn ystyr y cynllun cymorth i fyfyrwyr neu swm y cymorth i fyfyrwyr sy'n daladwy i'r myfyriwr o dan y cynllun hwnnw. Dim ond at y diben o gynorthwyo cyrff llywodraethu i benderfynu a yw myfyriwr sydd wedi gwneud cais am gymorth i fyfyrwyr yn gymwys am fwrsari (neu gymorth cyllidol arall) sy'n cael ei gynnig gan y sefydliad perthnasol, ac i benderfynu swm y bwrsari sy'n daladwy i'r myfyriwr hwnnw, ac hefyd, os yw'n berthnasol, er mwyn gwneud y taliad angenrheidiol i'r myfyriwr hwnnw, y ceir cyflenwi'r wybodaeth honno. Ni cheir cyflenwi unrhyw wybodaeth o dan y Rheoliadau hyn heb, yn achos gwybodaeth a roddir gan yr ymgeisydd neu wybodaeth sy'n deillio o'r cais, gydsyniad yr ymgeisydd neu, yn achos gwybodaeth a roddir gan y noddwr, gydsyniad y noddwr. Notes: [1] 2004 p. 8.back [2] 1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, Atodlen 6 i Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), ac adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (p.79)).back [3] Diffinnir "Student support scheme" yn adran 45(8) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.back
ISBN 0 11 091418 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |