Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006, ISBN 0110914260. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 99(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Traffig 2004 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2006. (2) Mae darpariaethau a ddaw i rym o dan y gorchymyn hwn yn dod i rym yng Nghymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Rheoli Traffig 2004. Y Diwrnod penodedig 2. —(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Hydref 2006. (2) Dyma'r darpariaethau—
(b) adrannau 16 i 31; (c) adrannau 72 i 93; (ch) adrannau 94, 95 a 96; (d) adran 98 cyn belled ag y mae'n gymwys i Ran 2 o Atodlen 12 (ac o ganlyniad Rhan 2 o Atodlen 12).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Cafodd Deddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) ("y Ddeddf") y Cydsyniad Brenhinol ar 22 Gorffennaf 2004. Diben y Ddeddf yw darparu sylfaen i wella amodau ar gyfer pawb sy'n defnyddio ffyrdd drwy reoli'r rhwydweithiau cenedlaethol a lleol. Mae adran 99(1) o'r Ddeddf yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddwyn i rym yr adrannau hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol ar ddiwrnod y caiff ei benodi. Rhennir y Deddf yn saith ran. Bydd y Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 5(4), 5(5) (pwerau arbennig swyddog traffig) ac adran 10 (tramgwyddau) o Ran 1, Rhan 2 yn ei chyfanrwydd (rheoli rhwydweithiau gan awdurdodau traffig lleol), Rhan 6 yn ei chyfanrwydd (gorfodi cosbau sifil am dramgwyddau traffig) ac adrannau 94 (pŵer i arolygu bathodynnau glas), 95 (cymhwyso incwm dros ben oddi wrth fannau parcio), 96 (darpariaethau penodol o ran Cymru) a 98 (diddymiadau). Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 5(4), 5(5) a 10 o Ran 1 o'r Ddeddf. Mae'r adrannau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Brif Swyddog yr Heddlu yn yr ardal lle mae'r ffordd i roi caniatâd i Swyddogion Traffig yr Asiantaeth Briffyrdd i ddefnyddio'u pwerau arbennig yn ardaloedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr pan fo hynny'n briodol. Mae hefyd yn darparu bod modd cosbi yng Nghymru dramgwyddau a gyflawnir yn erbyn swyddogion traffig o Loegr wrth iddynt gyflawni'u dyletswyddau o dan adran 5 yng Nghymru. Mae Rhan 2 o'r Deddf (adrannau 16 i 31) yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod traffig lleol i ofalu bod traffig yn symud yn hwylus ar eu rhwydweithiau ffyrdd ac i hwyluso'r cyfryw symudiad ar rwydweithiau awdurdodau eraill. Mae Rhan 6 o'r Ddeddf (adrannau 72 i 93) yn cynnwys pwerau sy'n darparu un fframwaith i wneud rheoliadau er mwyn i awdurdodau lleol orfodi cosbau sifil am dramgwyddau y mae a wnelont â chyfyngiadau parcio ac aros yn sifil, tramgwyddau lonydd bysiau a rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud. Bydd y rheoliadau hyn yn disodli pwerau sydd eisoes yn bodoli yn neddfwriaeth cenedlaethol. Bydd Rhan 6 yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud er mwyn rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau gorfodi sifil i gwmpasu rhai tramgwyddau y mae a wnelont â thraffig sy'n symud drwy ddefnyddio tystiolaeth camera a phwerau ychwanegol o ran gorfodi cyfyngiadau parcio. Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer wrth gefn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo awdurdod lleol i wneud cais am bwerau gorfodi sifil. Mae adran 94 yn cyflwyno diwygiadau i ddeddfwriaeth parthed arolygu "bathodynnau glas." Mae adran 95 yn cyflwyno diwygiadau i Ddeddf Rheoli Traffig 1984 parthed defnydd gweddillion incwm o fannau parcio. Mae adran 96 yn ymwneud â diwygio swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o'r blaen o dan O.S. 1999/672. Mae adran 98 yn dod a Rhan 2 o Atodlen 12 sydd yn delio efo diddymiadau i rym. Notes: [1] 2004 p.18.back
ISBN 0 11 091426 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 3 November 2006 |