Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006, ISBN 0110914228. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 80(7) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai ac anheddau[2] y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn—
(b) ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[3]; ac (c) ystyr "Gorchymyn 2002" ("the 2002 Order") yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002[4].
Amodau Ychwanegol
(ii) awdurdod tai lleol wedi darparu cymorth i unrhyw berson yn unol â pholisi a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn 2002 yn yr ardal honno (pŵer awdurdodau tai lleol i ddarparu cymorth);
(b) yr ail amod yw bod ardal ei ddosbarth neu'r ardal yn ei ddosbarth yn cynnwys lleiafswm o 25% o'r stoc dai a osodir gan landlordiaid y sector preifat[5].
(2) Rhaid i awdurdod tai lleol fod yn fodlon bod y naill neu'r llall o'r amodau a osodir o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) wedi'u bodloni cyn dynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 80 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") (Dynodi ardaloedd trwyddedu dethol) yn caniatáu i awdurdod tai lleol ddynodi naill ai ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os bodlonir gofynion is-adrannau (2) a (9). Mae adran 80, is-adran (7) o'r Ddeddf yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu, ar gyfer unrhyw amodau a bennir mewn gorchymyn, eu bod yn gymwys fel set ychwanegol o amodau at ddibenion is-adran (2). Mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i'r awdurdod ystyried bod y set gyntaf o amodau cyffredinol neu'r ail set o amodau cyffredinol a grybwyllir yn is-adran (3) neu (6), neu unrhyw amodau a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (7) fel set ychwanegol o amodau yn cael eu bodloni o ran yr ardal. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gosod yr amodau ychwanegol y mae'n rhaid eu bodloni cyn i awdurdod tai lleol ddynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111); e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 80(7) o'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back [2] Am ystyr "house" a "dwelling", gweler adran 99 o'r Ddeddf.back [4] Gweler O.S. 2002/1860.back [5] Nid yw "landlord sector cyhoeddus" yn cynnwys "landlord cymdeithasol cofrestredig" o fewn ystyr "registered social landlord" yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52).back
ISBN 0 11 091422 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |