Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110914236. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 79(4) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Esemptiadau Penodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai[2] yng Nghymru. Tenantiaethau esempt neu drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 2. —(1) Mae tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd sydd wedi'i chynnwys mewn tŷ yn denantiaeth esempt neu'n drwydded esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") os yw'n dod o dan unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol —
(b) tenantiaeth a ddisgrifir yn unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988[3] ac na all fod yn denantiaeth sicr yn rhinwedd adran 1(2) o'r Ddeddf honno —
(ii) paragraff 5 (mangreoedd trwyddedig)[4]; (iii) paragraff 6 (tenantiaethau tir amaethyddol); neu (iv) paragraff 7 (tenantiaethau daliadau amaethyddol[5] etc.);
(c) tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a reolir neu a lywir gan —
(ii) awdurdod heddlu a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Heddlu 1996[6]; (iii) awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[7]; neu (iv) corff gwasanaeth iechyd o fewn ystyr "health service body" yn adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[8];
(ch) tenantiaeth neu drwydded tŷ nad yw'n dŷ mewn amlfeddiannaeth at unrhyw un o ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) yn rhinwedd —
(vi) paragraff 4(1) o'r Atodlen honno (adeiladau sydd wedi'u meddiannu gan fyfyrwyr)[9];
(d) tenantiaeth tŷ neu annedd —
(ii) pan na fo'r brydles yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor; a (iii) pan fo'r tŷ wedi'i feddiannu neu'r annedd wedi'i meddiannu gan berson y rhoddwyd y denantiaeth iddo neu i olynydd y person hwnnw yn y teitl neu unrhyw aelodau o deulu'r person hwnnw;
(dd) tenantiaeth neu drwydded tŷ neu annedd a roddwyd gan berson i berson sy'n aelod o deulu'r person cyntaf hwnnw —
(ii) pan fo'r person sy'n rhoi'r denantiaeth neu'r drwydded yn rhydd-ddeiliad neu ddeiliad prydles ar y tŷ neu'r annedd nad yw ei thymor llawn yn hwy nag 21 o flynyddoedd; a (iii) pan na fo'r brydles y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (ii) yn cynnwys darpariaeth sy'n galluogi'r landlord i terfynu'r denantiaeth, ac eithrio drwy ei fforffedu, yn gynharach na diwedd y tymor;
(e) tenantiaeth neu drwydded a roddir i berson mewn perthynas â meddiannaeth y person hwnnw ar dŷ neu annedd fel cartref gwyliau; neu
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(ii) os yw'r naill ohonynt yn berthynas i'r llall; neu (iii) os yw'r naill yn un aelod o gwpl, neu'n berthynas i'r aelod hwnnw, a'r llall yn berthynas i aelod arall y cwpl;
(b) ystyr "cwpl" ("couple") yw dau berson sy'n briod â'i gilydd neu'n byw gyda'i gilydd fel gwr a gwraig (neu mewn perthynas gyfatebol yn achos personau o'r un rhyw);
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r disgrifiadau o denantiaethau a thrwyddedau tai, neu o denantiaethau a thrwyddedau anheddau sydd wedi'u cynnwys mewn tai, a'r rheini'n denantiaethau esempt neu'n drwyddedau esempt at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf"). Effaith yr esemptiad yw nad yw Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys i dai yng Nghymru sy'n ddarostyngedig i denantiaeth neu drwydded a ddisgrifir yn erthygl 2 ac nad ydynt felly yn ddarostyngedig i'r gofynion trwyddedu a ddisgrifir yn adran 85 o'r Ddeddf. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth yr Uned Sector Preifat, yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920 825111; e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk Notes: [1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 79(4) o'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1).back [2] Am ystyr "house" gweler adran 99 o'r Ddeddf.back [4] Mae paragraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 198(1) o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraff 108 o Atodlen 6 iddi (p. 17).back [5] Mae paragraff 7 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988 wedi'i ddiwygio gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 a pharagraff 34 o Atodlen 6 iddi (p. 8).back [9] Gweler adran 254(5) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091423 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |