Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110914252. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 134(5)(a) ac (c) a (6) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Eithriadau a Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004. Eithriadau rhagnodedig 3. At ddibenion adran 134(1)(b) o'r Ddeddf mae annedd yn dod o dan eithriad rhagnodedig —
(ii) yn absennol o'r annedd er mwyn iddo gael gofal personol oherwydd henaint, anabledd, afiechyd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffur yn y gorffennol neu'r presennol neu anhwylder meddyliol yn y gorffennol neu'r presennol; (iii) yn absennol o'r annedd er mwyn darparu gofal personol, neu ei ddarparu'n well, i berson y mae arno angen y gofal hwnnw oherwydd henaint, anabledd, afiechyd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffur yn y gorffennol neu'r presennol neu anhwylder meddyliol yn y gorffennol neu'r presennol; neu (iv) yn aelod o'r lluoedd arfog sydd ar wasanaeth ac yn absennol o'r annedd o ganlyniad i wasanaeth o'r fath.
(b) os yw'n cael ei defnyddio fel cartref gwyliau (p'un a yw'n cael ei gosod fel cartref o'r fath ar sail fasnachol) neu os yw wedi'i meddiannu fel arall gan y perchennog perthnasol neu westeion y perchennog perthnasol ar sail dros dro o bryd i'w gilydd;
Gofynion rhagnodedig
(b) bod rhaid iddo roi i'r tribiwnlys eiddo preswyl —
(ii) manylion am yr ymholiadau y maent wedi'u gwneud i ganfod pa gamau (os o gwbl) y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr annedd yn cael ei meddiannu, fel sy'n ofynnol o dan adran 133(3)(b) o'r Ddeddf; (iii) manylion am unrhyw gyngor a chymorth y maent wedi'u rhoi i'r perchennog perthnasol gyda'r bwriad bod y perchennog perthnasol yn sicrhau bod yr annedd yn cael ei meddiannu; (iv) yr holl wybodaeth sydd ganddynt sy'n awgrymu y gall yr annedd ddod o dan un o'r eithriadau a ddisgrifiwyd yn erthygl 3, p'un a ddaeth yr wybodaeth honno ar gael drwy ymholiadau'r awdurdod ei hun neu oherwydd sylwadau a gyflwynwyd iddo gan y perchennog perthnasol; a (v) dosbarthiad yr annedd at ddibenion treth gyngor o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[5]; ac
(c) pan fo'r perchennog perthnasol —
(ii) wedi gwneud cais i awdurdod cynllunio lleol neu awdurdod arall am ganiatâd i wneud newidiadau i adeiladwaith yr annedd neu ychwanegiadau ati ac yn aros am benderfyniad awdurdod perthnasol ar y cais,
rhaid i awdurdod tai lleol roi i'r tribiwnlys eiddo preswyl resymau pam y mae'n credu bod angen gorchymyn rheoli anheddau gwag i sicrhau meddiannaeth ar yr annedd.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), awdurdod perthnasol yw —
(b) pan fo'r awdurdod hwnnw wedi gwneud penderfyniad y mae'r perchennog perthnasol neu berson arall wedi apelio yn ei erbyn, y person neu'r corff sy'n penderfynu'r apêl.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn ymdrin â gwneud gorchmynion rheoli anheddau gwag (GRhAG) interim a rhai terfynol y caniateir i awdurdod tai lleol eu gwneud ynghylch anheddau sy'n gyfan gwbl anfeddianedig. Mae GRhAG interim yn orchymyn sy'n cael ei wneud gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn dod, ac yn parhau i fod, yn un sydd wedi'i meddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu. (Adran 132 o'r Ddeddf). Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrech resymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Mae angen awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl i wneud gorchymyn o'r fath. Ni fydd tribiwnlys eiddo preswyl yn awdurdodi gwneud GRhAG interim os yw wedi'i fodloni bod yr achos yn dod o dan eithriad rhagnodedig. (Adran 133 o'r Ddeddf). Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r eithriadau at ddibenion awdurdodiad tribiwnlys eiddo preswyl. Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r gofynion ychwanegol y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â hwy wrth wneud cais i dribiwnlys eiddo preswyl am awdurdodi GRhAG interim. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pŵer a roddir gan adran 134(5)(a) ac (c) a (6) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r "appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back [2] I gael ystyr "relevant proprietor" gweler adran 132 (4)(c) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091425 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |