Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006, ISBN 0110914244. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 145 o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai (Gorchmynion Rheoli a Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag) (Darpariaethau Atodol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 26 Hydref 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn —
(b) ystyr "gorchymyn" ("order") yw
(ii) gorchymyn rheoli terfynol[3]; (iii) GRhAG interim[4]; neu (iv) GRhAG terfynol[5];
(c) ystyr "mangre" ("premises") yw tŷ([6] y mae Pennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddo neu annedd[7] y mae Pennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf yn gymwys iddi; ac
Darpariaethau atodol
(b) paragraff 2(6) neu 10(6) o Atodlen 7 i'r Ddeddf,
i'w drin fel lesddeiliad mangre (neu ran o fangre) o dan les[8], mae'r paragraffau a ganlyn yn gymwys.
(b) y dyddiad y daw'r gorchymyn i rym; (c) crynodeb o'r effaith a gaiff y gorchymyn ar ddilysrwydd y les, drwy gyfeirio at y ddarpariaeth berthnasol yn y Ddeddf; ac (ch) enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir i dderbyn ar eu rhan unrhyw alwad yn y dyfodol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus, neu unrhyw hysbysiadau neu ddogfennau eraill mewn cysylltiad â'r fangre.
(3) O'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym nid yw'r awdurdod tai lleol na'r person perthnasol i fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n ddyledus o dan y les, p'un a ydynt yn ddyledus cyn neu ar ôl dyddiad y gorchymyn —
(b) os yw'r lesydd yn methu ag anfon at yr awdurdod tai lleol ac unrhyw berson a awdurdodir yn unol â pharagraff 3(2)(ch) i alw am y cyfryw daliad.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff 3(3) o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym —
(b) caiff awdurdod tai lleol dalu unrhyw rent, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill sy'n parhau'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfnod cyn y cyfryw ddyddiad; (c) caiff awdurdod tai lleol gwestiynu pa mor rhesymol yw unrhyw alwadau am y cyfryw daliadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) neu (b), p'un ai ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran y person perthnasol; ac (ch) rhaid i awdurdod tai lleol anfon copi o unrhyw alwad am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth neu daliadau eraill, neu unrhyw hysbysiad arall neu ddogfen arall y maent yn ei dderbyn neu ei derbyn gan y lesydd, at y person perthnasol (os gwyddys ble mae'r person perthnasol) a hynny o fewn 10 niwrnod i'r alwad ddod i law.
(5) Os bydd y person perthnasol y mae copi o alwad am dalu, o hysbysiad neu o ddogfen arall o dan baragraff (4)(ch) yn dod i'w law, yn dymuno herio unrhyw fater a gaiff ei gynnwys ynddo neu ynddi, rhaid i'r awdurdod tai lleol ddarparu'r cyfryw wybodaeth a'r cyfryw gymorth ag y gall fod yn rhesymol i'r person perthnasol ofyn amdano neu amdani. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau atodol pan fydd yr awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad o dan les mangre sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli interim neu derfynol a wnaed o dan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") neu orchymyn rheoli anheddau gwag ("GRhAG"), a hwnnw'n orchymyn interim neu derfynol, a wnaed o dan Bennod 2 o Ran 4 o'r Ddeddf. Gorchymyn a wnaed gan awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 o'r Ddeddf neu â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli interim. Fe'i gwneir i ddiogelu iechyd a diogelwch meddianwyr tŷ neu fangreoedd cyfagos ac i hybu rheoli eiddo'r tŷ. Gorchymyn (sy'n dod i ben heb fod yn fwy na phum mlynedd ar ôl ei wneud ac) a wneir gan awdurdod tai lleol at ddiben sicrhau bod y tŷ'n cael ei reoli'n briodol ar sail hirdymor yn unol â chynllun rheoli a geir yn y gorchymyn yw gorchymyn rheoli terfynol. (Adran 101 o'r Ddeddf). Mae GRhAG interim yn orchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol i'w alluogi i gymryd camau er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu, ac yn parhau i fod yn un a feddiennir. Rhaid i awdurdod tai lleol wneud ymdrechion rhesymol i hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn o'r fath ac i ganfod pa gamau y mae'r perchennog perthnasol yn eu cymryd, neu'n bwriadu eu cymryd, i sicrhau bod yr eiddo'n cael ei feddiannu. Gwneir GRhAG terfynol i olynu GRhAG interim er mwyn sicrhau bod annedd yn cael ei meddiannu (adrannau 132 ac 133 o'r Ddeddf). Unwaith y bydd gorchymyn rheoli interim neu derfynol neu GRhAG mewn grym mae'r awdurdod tai lleol yn caffael, mewn perthynas â'r fangre, hawliau a ddisgrifir ym Mhenodau 1 a 2 o Ran 4 o'r Ddeddf. Nid yw'r awdurdod, fodd bynnag, yn caffael unrhyw ystad neu fuddiant yn y fangre ac nid oes ganddo bwer felly i'w gwaredu. Os yw landlord uniongyrchol y fangre (neu ran o fangre, ac eithrio yn achos GRhAGau) yn lesddeiliad y fangre (neu ran ohoni) o dan les, mae'r awdurdod tai lleol i'w drin fel pe bai'n lesddeiliad yn ei le (ond yn dal heb gaffael ystad neu fuddiant). (Adrannau 107 a 116 o'r Ddeddf, a pharagraffau 2 a 10 o Atodlen 7 iddi). Mae rheoliad 3 yn gymwys pan fydd awdurdod tai lleol i'w drin fel lesddeiliad mangre yn lle person arall ("y person perthnasol"). Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol hysbysu lesydd uniongyrchol y person perthnasol hwnnw bod gorchymyn rheoli neu GRhAG wedi'i wneud ac iddo egluro canlyniadau'r gorchymyn. Mae'n darparu i'r awdurdod tai lleol fod yn atebol am dalu rhent tir, taliadau gwasanaeth a thaliadau eraill sy'n ddyledus ganddo fel pe bai yn lesddeiliad, a hynny o'r dyddiad y daw'r gorchymyn i rym, ond mae'n ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw hysbysiadau a gyflwynir i'r awdurdod tai lleol gael eu hanfon i'r person perthnasol. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pwer a roddir gan adran 145 yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back [2] Gweler adran 101 (3) o'r Ddeddf.back [3] Gweler adran 101 (4) o'r Ddeddf.back [4] Gweler adran 132 (1)(a) a (2) o'r Ddeddf.back [5] Gweler adran 132 (1)(b) a (3) o'r Ddeddf.back [6] Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad â thy amlfeddiannaeth neu dy Rhan 3 (gweler adran 146 o'r Ddeddf ac adrannau 79 a 254).back [7] Caniateir gwneud gorchymyn rheoli anheddau gwag interim neu derfynol mewn cysylltiad ag annedd (gweler adran 132(4)(a) a (b)).back [8] Am ystyr "les"("lease"), "lesddeiliad" ("lessee") a "lesydd" ("lessor") gweler adran 262(1) i (5) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091424 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 November 2006 |