Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006, ISBN 0110914090. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 75(1)(e) a 152(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg a Hyfforddiant mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol (Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Hydref 2006. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
Addysg neu hyfforddiant a ragnodir
(b) fel hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymunedol;
i'r graddau nad yw addysg a hyfforddiant o'r fath yn dod o fewn is-baragraffau (a) i (d) o adran 75(1) o Ddeddf 2000. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi math o addysg a hyfforddiant at ddibenion adran 75 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ("Deddf 2000"). Mae adran 75 yn darparu cylch gwaith estynedig Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi addysg a hyfforddiant a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad yn y sector addysg uwch yng Nghymru at ddibenion galluogi personau i ddod yn weithwyr ieuenctid a chymunedol neu fel hyfforddiant pellach ar gyfer personau sy'n weithwyr ieuenctid a chymunedol. Effaith y rhagnodi yw bod y math hwn o addysg a hyfforddiant yn cael ei ddwyn i gylch gwaith y Prif Arolygydd o dan adran 75 o Ddeddf 2000. Notes: [1] 2000 p. 21.back
ISBN 0 11 091409 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 26 October 2006 |