Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914082. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), ar ôl iddo ymghynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd, y cyrff neu'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach yn eu trefn y mae o'r farn eu bod yn briodol a'r cyrff a'r personau eraill hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 ("y Ddeddf")[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o'r Ddeddf ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2006. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 2. —(1) Diwygier Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000[3] fel a ganlyn. (2) Ym mharagraff (2)(a) o reoliad 32 (tramgwyddau)[4]—
(b) yn lle "six months" rhodder "12 months".
(3) Diwygier Rhan 1 o Atodlen 1 (Gweithgareddau, Gosodiadau a Chyfarpar Symudol) fel a ganlyn—
(f) motor vehicle refuelling activities at new service stations, if the petrol refuelling throughput at the service station in any period of twelve months is likely to be 500mΔ or more.",
(b) for which planning permission under the Town and Country Planning Act 1990[5] was granted,
before 31 December 2009"; ac
(c) ym mharagraff 4 o Ran B o Adran 7 (Gweithgareddau SED)—
(ii) yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle'r geiriau "date of coming into force of these Regulations", rhodder y geiriau "20th January 2004".
(4) Diwygier Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) fel a ganlyn—
(ii) ar ôl paragraff 13, mewnosoder—
(b) in respect of which no application for a permit to operate the existing SED installation is duly made by 31st October 2006,
shall be deemed to have made a notification to the regulator of the operator's undertaking to cease to operate that existing SED installation by 31st October 2007.
20. —(1) Parts 1 and 2 of this Schedule apply to existing refuelling installations and new refuelling installations subject to the provisions of this Part. (2) The prescribed date for a new refuelling installation is the relevant date. (3) The prescribed date for an existing refuelling installation is—
(b) where no such application is made, the relevant date.
(4) Where an installation which is subject to a permit under these Regulations contains an existing or new refuelling installation, the operator shall not operate the existing or new refuelling installation after the prescribed dates specified in subparagraph (3) except under and to the extent authorised by a variation of the conditions of that permit granted by the regulator under regulation 17.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973) ("y Rheoliadau PPC") o ran Cymru. Mae rheoliad 2(2) yn cynyddu mwyafswm y gosb y caiff llys Ynadon ei gosod o dan reoliad 32(2)(a) o'r Rheoliadau PPC o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (sy'n rhoi terfynau ar bŵer llys Ynadon i garcharu). Mae Rheoliad 2(3)(a) yn diwygio rhan B o adran 1.2 (Gweithgareddau Nwyeiddio, Hylifo a Phuro) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy ychwanegu gweithgareddau ail-lenwi tanwydd i gerbydau at y rhestr o weithgareddau sy'n ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd o dan y Rheoliadau PPC. Mae hyn yn bodloni rhwymedigaeth y DU sy'n codi o Brotocol Genefa Pwyllgor Economaidd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ewrop i Gonfensiwn 1979 ar Lygredd Aer Trawsffiniol Pellgyrhaeddol Ynghylch Rheoli Allyriadau Cyfansoddion Organig Anweddol neu eu Dylifiadau Trawsffiniol. Daeth y Protocol hwn i rym ar 29 Medi 1997 ar ôl iddo gael ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 1991. Gellir gweld y Protocol ar wefan UNECE yn www.unece.org. Mae rheoliad 2(3)(b) yn diwygio Adran 5.1 (Hylosgi a Chydhylosgi Gwastraff) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC drwy egluro nad yw hyslosgi o ganlyniad i losgi nwy tirlenwol yn ddarostyngedig i ganiatâd o dan y Rheoliadau PPC. Mae rheoliad 2(3)(c) yn cywiro gwall drafftio yn Rhan B o adran 7 (Gweithgareddau SED) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau PPC. Mae rheoliad 2(4) yn diwygio Atodlen 3 (Dyddiad Rhagnodedig a Threfniadau Trosiannol) i'r Rheoliadau PPC i esemptio gweithredwyr penodol o beiriannau sychlanhau sy'n derbyn arian sy'n dewis peidio â gwneud cais am ganiatâd cyn 31 Hydref 2006 o ofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Toddyddion 1999/13/EC i gael caniatâd ar y sail bod y gweithredwyr yn cytuno i roi'r gorau i gyflawni gweithrediadau sy'n dod o fewn cwmpas y Gyfarwyddeb honno yn y gosodiad cyn 31 Hydref 2007. Notes: [1] 1999 p.24. Diwygiwyd paragraff 25 o Ran II o Atodlen 1 gan adran 105 o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p.16). Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2005 (O.S. 2005/1958), erthygl 3.back [3] O.S. 2000/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2004/107 ac O.S. 2004/3276. Nid yw deddfwriaeth ddiwygio arall yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [4] Ni fydd y cosbau uwch hyn yn gymwys ond o ran tramgwyddau a gyflawnir ar ôl dwyn i rym adran 154(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44). Gweler adran 105(2) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd.back [5] 1990 p.8, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11 091408 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 26 October 2006 |