Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110914112. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) ac 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 20 Hydref 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau am grant a wneir i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar 20 Hydref 2006 neu ar ôl hynny[3]. Diwygiadau 2. Diwygir Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[4] yn unol â'r rheoliadau a ganlyn. Rheoliad 2 3. Yn rheoliad 2 (ffurflenni cais am grant)[5], ym mharagraff (1) ar ôl "Schedule" rhodder "or a form to the like effect". Yr Atodlen 4. Mae'r ffurflen a welir yn yr Atodlen yn cael ei diwygio yn y modd a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 17 Hydref 2006 1. Yn y testun sy'n rhagflaenu Rhan 1, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan". 2. Yng nghwestiwn 1.7, yn lle'r geiriau "a qualifying park home" rhodder "a caravan". 3. Yn y tabl sy'n dilyn cwestiwn 2.1, yn lle'r geiriau "Disabled adaptations to a qualifying houseboat or qualifying park home " rhodder "Disabled adaptations to a qualifying houseboat or caravan". 4. Yn y tabl cyntaf sy'n dilyn cwestiwn 2.2, yn lle'r geiriau "Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or qualifying park home" rhodder "Adaptations to a house, flat, qualifying houseboat or caravan". 5. Yn lle Nodyn 5B, rhodder—
(b) includes any yard, garden, outhouses and appurtenances belonging to it or usually enjoyed with it.".
6.
Yn nodyn 10, yn lle brawddeg olaf yr ail baragraff, rhodder—
7.
Yn nodiadau 19, 36A a 36B, yn lle'r geiriau "qualifying park home" ym mhob man lle digwyddant, rhodder "caravan".
9.
Yn nodyn 90E, hepgorer y geiriau "married or unmarried" ym mhob man lle digwyddant, ac ym mharagraff (b) yn lle "them" rhodder "the couple". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996 (O.S. 1996/2891) ("y prif Reoliadau"), sy'n gosod y ffurflen ragnodedig ar gyfer ceisiadau am grant o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("y Ddeddf"). Mae'r cwestiynau a'r nodiadau sydd wedi'u cynnwys yn y ffurflen ragnodedig yn adlewyrchu'r rheolau prawf moddion ar gyfer ceisiadau am grant sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890), fel y'i diwygiwyd. Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn gymwys drwy reoliad 1 i geisiadau am grant sy'n cael eu gwneud i awdurdodau tai lleol yng Nghymru ar y dyddiad pan ddeuant i rym neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae'r diwygiad a wneir gan reoliad 3 yn caniatáu i awdurdodau o'r fath ddefnyddio ffurflenni a ddyluniwyd ganddynt eu hunain sy'n cael yr un effaith (ac felly, oherwydd rheoliad 3 o'r prif reoliadau, sy'n cynnwys yr un manylion) â'r ffurflen ragnodedig a geir yn yr Atodlen i'r prif Reoliadau. Drwy reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, diwygir yr Atodlen honno (a) er mwyn adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r Ddeddf gan adran 224 o Ddeddf Tai 2004, gan osod yn lle cyfeiriadau at "qualifying park home" yn y prif Reoliadau, gyfeiriadau at "caravan"; a (b) er mwyn gwneud newidiadau o ganlyniad i greu'r berthynas gyfreithiol newydd o bartneriaeth sifil drwy'r Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004. Notes: [1] 1996 p.53.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod ar gyfer y Ddeddf hon yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.back [3] I gael ystyr "grant" gweler adran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, fel y'i diwygiwyd gan baragraff 2 o Atodlen 3 i Orchymyn Diwygio Rheolaethol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860).back [4] O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, O.S. 1997/978, O.S. 1998/809, O.S. 1999/1607, O.S. 1999/3470 (Cy. 56), O.S. 2000/1735 (Cy. 119), O.S. 2001/2071 (Cy. 143), O.S. 2001/4006 (Cy. 332), O.S. 2002/2799 (Cy. 267) ac O.S. 2004/254 (Cy. 29).back [5] Amnewidiwyd Rheoliad 2, o ran Cymru, gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/254).back
ISBN 0 11091411 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 26 October 2006 |