Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006, ISBN 0110914120. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) — Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro drwy Loeren) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 20 Hydref 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn rhagfarnu effaith adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[2] o ran unrhyw ddarpariaeth yn Gorchymyn hwn neu at ddibenion cysylltiedig ag ef sy'n creu tramgwydd. Dehongli 2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at lyfr lòg, datganiad, dogfen neu wybodaeth sy'n ofynnol yn cynnwys, yn ogystal â llyfr lòg, datganiad, dogfen neu'r wybodaeth sy'n ofynnol mewn ysgrifen—
(b) unrhyw ffotograff; (c) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (ond nid delweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu ymhellach (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall); ac (ch) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negydd, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel (fel y crybwyllwyd ynghynt) atgynhyrchu'r delweddau ymhellach.
Cymhwyso Cymhwyso Rhan 2 4. Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i—
(b) cychod pysgota Cymunedol yng Nghymru;
Gosod dyfais olrhain drwy loeren
(b) os bydd y ddyfais olrhain drwy loeren wedi cael ei diffodd gan gydymffurfio ag Erthygl 8(3) o Reoliad y Comisiwn, neu (c) os caiff y data ei gyfathrebu gan gydymffurfio ag Erthygl 11(1) o Reoliad y Comisiwn.
Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren Cymhwyso Rhan 3 10. Mae erthyglau 11 i 14 yn gymwys i gychod pysgota trydedd gwlad yng Nghymru. Gosod dyfais olrhain drwy loeren 11. —(1) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y gellir ei diystyru â llaw yn euog o dramgwydd. (2) Mae person sydd â gofal cwch pysgota y mae ganddo ddyfais olrhain drwy loeren sydd wedi'i gosod at ddibenion Rheoliad y Comisiwn sy'n caniatáu rhoi mewnbwn ac allbwn safleoedd anwir yn euog o dramgwydd. (3) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sydd heb ddyfais olrhain drwy loeren sy'n gweithio ar ei fwrdd yn euog o dramgwydd. Trosglwyddo'r wybodaeth sy'n ofynnol 12. Mae person sydd â gofal cwch pysgota, y mae'r ddyfais olrhain drwy loeren sydd arno'n methu â throsglwyddo data i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd gwladwriaeth y faner gan gydymffurfio ag Erthyglau 18 a 20 o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd. Cyfrifoldebau sy'n ymwneud â'r ddyfais olrhain drwy loeren 13. —(1) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(1) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd. (2) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 19(2) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd. (3) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n mynd yn groes i Erthygl 19(3) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd. Methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio 14. —(1) Os oes methiant technegol yn y ddyfais olrhain drwy loeren sydd ynglŷn â chwch pysgota neu os nad yw'r ddyfais olrhain drwy loeren ynglŷn ag ef yn gweithio, mae person sydd aa gofal y cwch pysgota hwnnw ac sy'n methu â chyfathrebu gwybodaeth yn unol ag Erthyglau 23(1) a 23(2) o Reoliad y Comisiwn yn euog o dramgwydd. (2) Mae person sydd â gofal cwch pysgota sy'n gadael porthladd yn groes i Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn, yn euog o dramgwydd. (3) Yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 23(3) o Reoliad y Comisiwn yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig. Cosbau 15. Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthyglau 5, 6, 7, 8, 9, 11, 12, 13 neu 14 o'r Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol yn agored—
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
Casglu dirwyon
(b) gorchymyn dal gafael yn y cwch a'i offer a'i ddalfa am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis ar ôl dyddiad y collfarniad neu hyd nes y telir y ddirwy neu hyd nes y codir y swm ar gyfer y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
(2) Mae adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[17] yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a ddyroddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno. Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn cysylltiad â chychod pysgota 17. —(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag—
(b) cwch pysgota Cymunedol yng Nghymru; neu (c) cwch pysgota trydedd gwlad yng Nghymru.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch neu ddod oddi arno.
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, neu gyfarpar y cwch neu unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau eraill cysylltiedig neu unrhyw ddogfen ynglŷn â'r personau ar y bwrdd sydd dan ofal neu ym meddiant y person hwnnw; (c) at ddibenion canfod a gyflawnwyd tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhwy berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r archwiliad; (ch) caiff archwilio a chymryd copïau a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch, tra bydd y swyddog yn cwblhau unrhyw chwilio, archwilio neu arolygu y darperir ar ei gyfer o dan yr erthygl hon; (d) caiff ei gwneud yn ofynnol i feistr y cwch neu unrhyw berson sydd ar y pryd â gofal y cwch i roi unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol ar ffurf weledol a darllenadwy y gellir mynd â hi oddi yno; (dd) os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm i amau bod tramgwydd wedi cael ei gyflawni ynglŷn ag ef o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, caiff gymryd meddiant a dal gafael yn unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir i'r swyddog neu os daw o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi bod y ddogfen yn cael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn rheithdrefn ar y tramgwydd; a (e) caiff symud oddi yno, neu awdurdodi yn ysgrifenedig berson arall i symud oddi yno, y ddyfais olrhain drwy loeren, neu unrhyw ran ohoni, ac unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch y mae'r swyddog o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn cadarnhau—
(ii) a oes unrhyw gyfarpar arall ar fwrdd y cwch yn amharu ar drosglwyddo'r wybodaeth a nodir yn Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn
neu er mwyn archwilio, profi, trwsio neu ailosod y cyfryw gyfarpar.
(4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan unrhyw ddarpariaeth gyfatebol, wedi cael ei gyflawni ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—
(b) dal gafael, neu yn ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn dal gafael, yn y cwch yn y porthladd,
a phan fydd swyddog o'r fath yn dal gafael mewn cwch neu'n gwneud hynny'n ofynnol, rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y delir gafael yn y cwch neu fod hynny'n ofynnol hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig ychwanegol a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig
(b) bod seiliau rhesymol dros ei gwneud; a (c) ei bod wedi cael ei gwneud gyda sgil resymol a gofal rhesymol.
Rhwystro etc
(b) heb esgus rhesymol yn rhwystro, neu'n ceisio rhwystro, unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofyniad o'r fath; neu (c) yn fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny, unrhyw berson sy'n cynorthwyo swyddog o'r fath yn rhinwedd erthygl 17(2) neu unrhyw swyddog a awdurdodwyd gan swyddog o'r fath o dan erthygl 17(3)(e),
yn euog o dramgwydd.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
Darpariaethau o ran tramgwyddau a rheithdrefnau 20. —(1) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gorff corfforaethol gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg o'r corff corfforaethol, neu berson sy'n honni ei fod gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, mae'r person hwnnw yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. (2) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae'r partner hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. (3) Os profir bod unrhyw dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu os gellir priodoli unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r gymdeithas, mae'r swyddog hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. Derbynioldeb tystiolaeth llyfrau lòg a dogfennau eraill 21. Bydd unrhyw—
(b) datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8(1), 11, 12, 17(2) neu 28f; (c) adroddiad ar ymdrech wedi'i gwblhau o dan Erthygl 19b a 19c; neu (ch) dogfen a luniwyd o dan Erthyglau 9 neu 13,
o Reoliad y Cyngor 2847/93 ac unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol a dderbynir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw reithdrefnau am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn neu o dan ddarpariaeth gyfatebol, yn cael eu derbyn yn dystiolaeth heb iddynt gael eu dangos gan unrhyw dyst neu fod unrhyw dyst yn mynd ar ei lw yn eu cylch a bydd yn dystiolaeth ddigonol o'r materion a ddatgenir ynddynt neu sy'n ymddangos ynddynt. Dirymu 22. —(1) Dirymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000[20] . (2) Dirymir Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002[21] Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[22]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 18 Hydref 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru Reoliad y Comisiwn (EC) 2244/2003 (OJ Rhif L333, 20.12.03, t.17) sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail Lloeren ("y Rheoliad y Comisiwn"). Mae erthyglau 5 i 9 yn gymwys i gychod pysgota Prydeinig a'r Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru yn creu tramgwyddau am fynd yn groes i ofynion sy'n ymwneud â: gosod dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 5); diffodd dyfais olrhain drwy loeren mewn porthladd heb hysbysiad ymlaen llaw (erthygl 6); yr wybodaeth sydd i'w throsglwyddo gan y ddyfais olrhain drwy loeren (erthygl 7); y cyfrifoldebau ynghylch dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 8) a methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio (erthygl 9). Mae erthyglau 11 i 14 yn gymwys i gychod pysgota trydedd gwlad yng Nghymru ac yn creu tramgwyddau am fynd yn groes i ofynion sy'n ymwneud â: gosod dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 11); yr wybodaeth sydd i'w throsglwyddo gan y ddyfais olrhain drwy loeren (erthygl 12); y cyfrifoldebau ynghylch dyfais olrhain drwy loeren (erthygl 13) a methiant technegol dyfais olrhain drwy loeren neu ddyfais olrhain drwy loeren nad yw'n gweithio (erthygl 14). Mae'r Gorchymyn yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd, heblaw am dramgwydd o dan erthygl 19, yn atebol ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na £50,000 ac ar gollfarn ar dditiad i ddirwy. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer casglu'r dirwyon a gaiff eu gosod, neu pan ymdrinnir â hwy fel pe baent wedi'u gosod, gan lys ynadon (erthygl 16). At ddibenion gorfodi Rheoliad y Comisiwn mae'r Gorchymyn yn rhoi i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig y pwerau i: fyrddio cychod pysgota; cynnal prawf ar unrhyw gyfarpar ar fwrdd y cwch; ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau sy'n ymwneud â'r cwch, cyfarpar, neu bysgota neu weithrediadau atodol yn cael eu dangos; chwilio'r cwch; tynnu oddi yno y ddyfais olrhain drwy loeren neu unrhyw gyfarpar arall ar y cwch; mynd â'r cwch i'r porthladd agosaf mwyaf addas a dal gafael yn y cwch (erthygl 17). Darperir amddiffyniad i swyddogion o'r fath rhag atebolrwydd yn erthygl 18. Mae methu â chydymffurfio â gofynion a osodir gan swyddogion neu eu rhwystro wrth iddynt arfer eu pwerau yn dramgwydd o dan erthygl 19, sy'n dwyn atebolrwydd o ddirwy hyd at y mwyafswm statudol ar gollfarn ddiannod neu am ddirwy ar gollfarn ar dditiad. Mae erthyglau 20 a 21 yn ymdrin â thramgwyddau corfforaethol a thramgwyddau cyfatebol a derbynioldeb dogfennau mewn tystiolaeth. Mae erthygl 22 yn dirymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002. Mae Asesiad o Effaith Reoliadol o ran y Gorchymyn hwn wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1981 p. 29. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) cafodd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.back [2] Mewnosodwyd adran 30(2A) gan O.S. 1999/1820, erthygl 4 ac Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 68(1) a (5)(a).back [5] O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1.back [6] O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.1.back [7] O.J. Rhif L301, 14.12.95, t.35.back [8] O.J. Rhif L338, 28.12.96, t.12.back [9] O.J. Rhif L102, 19.4.97, t.1.back [10] O.J. Rhif L304, 7.11.97, t.1.back [11] O.J. Rhif L356, 31.12.97, t.14.back [12] O.J. Rhif L358, 31.12.98, t.5.back [13] O.J. Rhif L122, 16.5.03, t.1.back [14] O.J. Rhif L289, 7.11.03, t.1.back [15] O.J. Rhif L128, 21.5.05, t.1.back [16] O.J. Rhif L333, 20.12.03, t.17.back [17] 1980 p.43. Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48), adrannau 37 a 46, a Deddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) ac Atodlen 8 paragraff 219(a).back [18] O.S. 1981/1675 (GI 26).back [20] O.S. 2000/1078 (Cy.71).back [21] O.S. 2002/677 (Cy.74).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg: yn union islaw teitl O.S, dylai’r dyddiad yn italig ddarllen, "18 October 2006" Tudalen 3, fersiwn Gymraeg: yn union islaw dyddiad yr O.S., dylai’r dyddiad italig ddarllen, "18 Hydref 2006" back
ISBN 0 11 091412 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 26 October 2006 |