Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006, ISBN 0110914066. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 27 Hydref 2006
(b) adran 12 (gwaredu); (c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 13 (canllawiau); (ch) adran 15 (hysbysiad symud); (d) adran 16 (gwaredu); (dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 17 (canllawiau); (e) adran 34 (tynnu placardiau a phosteri); (f) at ddibenion amnewid adran 5 (ond gan eithrio adran 5(2)(d)) o Ddeddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989[5], adran 37 (pwerau gorfodi); (ff) adran 50 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol i berchennog tir symud gwastraff oddi yno); (g) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 56 (gorchmynion rheoli cŵn: darpariaethau atodol); (ng) adran 66 ("person priodol"); (h) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 67 (rheoliadau a gorchmynion); (i) adran 80 (gorchmynion a rheoliadau); (j) adran 81 (dehongli); (ll) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 83 (tramgwyddau sŵn: defnyddio derbynebau cosb benodedig); (m) adran 84 at ddibenion dwyn i rym paragraffau 2, 7(2)(a) a (3), 8(2) a 12(2), (5) a (6) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (estyn Deddf Sŵn 1996[6] i gwmpasu mangreoedd trwyddedig etc.); (n) adran 86 (gohirio dyletswydd i gyflwyno hysbysiad gostegu); (o) adran 99 (trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig); (p) adran 100 (adran 99: darpariaeth drosiannol); (ph) yn Rhan 1 (cerbydau) o Atodlen 5 (diddymiadau), y diddymiadau i Ddeddf 1978 a Deddf 1984.
Darpariaeth yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006 i rym
(b) adran 7 (pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi); (c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 8 (defnyddio derbynebau cosb benodedig); (ch) adran 9 (hysbysiadau cosb benodedig: materion atodol); (d) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 10 (tramgwydd gadael cerbyd: hysbysiadau cosb benodedig); (dd) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 19 (tramgwydd ysbwriel: hysbysiadau cosb benodedig); (e) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 20 (hysbysiadau clirio ysbwriel); (f) adran 21 (hysbysiadau rheoli ysbwriel ar y stryd); (ff) adran 22 (methu â chydymffurfio â hysbysiad: hysbysiadau cosb benodedig); (g) adran 23 (rheolaethau ar ddosbarthu deunydd printiedig yn ddi-dâl); (ng) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 24 (hysbysiadau cosb benodedig: darpariaeth gyffredin); (h) adran 25 (eithrio atebolrwydd); (i) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 28 (hysbysiadau cosb benodedig: swm y gosb benodedig); (j) adran 29 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi); (l) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 30 (hysbysiadau cosb benodedig: swyddogion awdurdodedig); (ll) adran 31 (estyn hysbysiadau gwaredu graffiti i gwmpasu gosod posteri yn anghyfreithlon); (m) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 38 (methu â dangos awdurdod: hysbysiadau cosb benodedig); (n) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 45 (methu â darparu dogfennau: hysbysiadau cosb benodedig); (o) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 48 (tramgwyddau sy'n ymwneud â chynwysyddion gwastraff: hysbysiadau cosb benodedig); (p) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 52 (defnyddio derbynebau cosb benodedig); (ph) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 59 (hysbysiadau cosb benodedig); (r) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 60 (swm y cosbau penodedig); (rh) adran 61 (pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad); (s) adran 62 (swyddogion cymorth cymuned etc.); (t) adran 69 (dynodi ardaloedd hysbysu o larwm); (th) adran 70 (tynnu dynodiad yn ôl); (u) adran 71 (hysbysu deiliaid allweddi a enwyd); (w) adran 72 (enwi deiliaid allweddi); (y) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 73 (tramgwyddau o dan adran 71: hysbysiadau cosb benodedig); (a2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 74 (swm y gosb benodedig); (b2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 75 (defnyddio derbynebau cosb benodedig); (c2) adran 76 (hysbysiadau cosb benodedig: pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod enw a chyfeiriad yn cael eu rhoi); (ch2) adran 77 (pŵer mynediad); (d2) adran 78 (gwarant i fynd i mewn i fangre drwy rym); (dd2) adran 79 (pwerau mynediad: darpariaethau atodol); (e2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 82 (tramgwyddau sŵn: hysbysiadau cosb benodedig); (f2) adran 84 (estyn Deddf Sŵn 1996 i fangreoedd trwyddedig etc) at ddibenion dwyn i rym y darpariaethau yn Atodlen 1 nad ydynt yn cael eu cychwyn gan erthygl 2(m); (g2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 96 (defnyddio derbynebau cosb benodedig: awdurdodau haen uwch); (ng2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 97 (defnyddio derbynebau cost benodedig: awdurdodau haen is); (h2) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 98 (adrannau 96 a 97: darpariaethau atodol); (i2) Rhan 2 o Atodlen 5 (dirymiadau); (l2) Rhan 9 o Atodlen 5 mewn perthynas â diddymu adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[7].
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 57 (tir y mae Pennod 1 yn gymwys iddo); (c) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 58 (prif awdurdodau ac awdurdodau eilaidd); (ch) adran 63 (pwerau sy'n gorgyffwrdd); (d) adran 64 (is-ddeddfau); (dd) adran 65 (Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996[8]); (e) Rhan 5 o Atodlen 5.
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Rheoliadau Niwsansau Statudol (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 i rym
(b) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 103(2)(a) a (4)(a) (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol).
Darpariaethau yn Neddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Niwsansau Statudol (Goleuo Artiffisial) (Dynodi Campau Perthnasol) (Cymru) 2006 i rym
(b) adran 103 (adrannau 101 a 102: darpariaethau atodol) ac eithrio adran 103(2)(a) a (4)(a).
Darpariaethau trosiannol: Deddf Gwaredu Sorod (Amwynder) 1978
(b) adran 12 (sy'n diwygio adran 4 o Ddeddf 1978); (c) adran 13 (sy'n mewnosod adran 4A (canllawiau) yn Neddf 1978),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 3 a 4 o Ddeddf 1978 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(b) wedi dodi hysbysiad arno o dan adran 3(5) o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau trosiannol: Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
(b) adran 16 (sy'n diwygio adran 101 o Ddeddf 1984); (c) adran 12 (sy'n diwygio adran 103 o Ddeddf 1984),
o Ddeddf 2005 yn effeithio ar weithrediad adrannau 99, 101 a 103 o Ddeddf 1984 mewn perthynas â cherbyd y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.
(b) y mae awdurdod wedi dodi hysbysiad arno cyn 27 October 2006 o dan adran 99(4) o'r Ddeddf honno.
Arbedion: Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996
(b) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddirymu; neu (c) os yw'r gorchymyn dynodi o dan sylw wedi'i ddiwygio yn y fath fodd ag i leihau maint y tir dynodedig, i'r graddau y mae hwnnw wedi'i leihau.
(3) O ran effaith barhaol Deddf 1996—
(b) er gwaethaf eu diddymu gan Ran 5 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, mae paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 a pharagraff 1(2)(b) o Atodlen 5 i Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002[10] yn parhau i fod yn effeithiol; (c) er gwaethaf ei diddymu gan Ran 9 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005, bydd adran 119 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn parhau i fod yn effeithiol fel petai is-adrannau (2)(a), (3)(a) ac (c) a (4) o'r adran honno wedi'u dileu.
(4) Yn yr erthygl hon—
Diwygio Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006
(b) hepgorer "a Rhan 2 o Atodlen 2 iddi".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005") o ran Cymru. Ar 27 Hydref 2006 mae erthygl 2 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill) ddarpariaethau yn Neddf 2005 ynglŷn â'r canlynol:
(b) cerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon (adrannau 15 i 17); (c) hysbysebion (adran 34); (ch) cludo gwastraff (adran 37 (yn rhannol)); (d) casglu a gwaredu gwastraff gan awdurdod lleol (adran 50); (dd) rheolaeth ar gŵn (adrannau 56, 66 a 67); (e) larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 80 a 81); (f) sŵn o fangreoedd (adrannau 83 a 84); (ff) niwsansau sŵn statudol (adran 86); a (g) trolïau siopa gadawedig a throlïau bagiau gadawedig (adrannau 99 a 100).
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym adran 2 (gorchmynion gatio) o Ddeddf 2005 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Deddf Priffyrdd 1980 (Gorchmynion Gatio) (Cymru) 2006, i rym.
(b) cerbydau gadawedig (adran 10); (c) ysbwriel a sorod (adrannau 19 i 25); (ch) graffiti a gosod posteri yn anghyfreithlon (adrannau 28 i 31); (d) gwastraff (adrannau 38, 45, 48 a 52); (dd) rheolaeth ar gŵn (adrannau 59 i 62); (e) larymau tresmaswyr clywadwy (adrannau 69 i 79); (f) swn o fangreoedd (adrannau 82 a 84); (ff) defnyddio derbynebau cosb benodedig (adrannau 96 i 98).
Mae erthygl 5 yn dwyn i rym (naill ai'n gyfan gwbl neu at y dibenion sy'n weddill), a hynny ar y dyddiad y daw'r rheoliadau cysylltiedig, sef Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007, i rym, ddarpariaethau Deddf 2005 ynglŷn â rheolaethau ar gŵn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru a Lloegr drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf 2005 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Cymru a Lloegr— Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1) 2005 (O.S. 2005 Rhif 1675) (C.69); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2005 (O.S. 2005 Rhif 2896) (C. 122); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) 2005 (O.S. 2005 Rhif 3439) (C. 144); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 4) 2006 (O.S. 2006 Rhif 656) (C. 16); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1002) (C. 31); Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan y Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr— Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 795) (C. 19); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 2) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 1361) (C. 46); Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 3) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006 Rhif 2006) (C. 69). Notes: [1] 2005 p. 16.back [5] 1989 p. 14; amnewidiwyd adran 5 gan adran 37 o Ddeddf 2005.back [9] 1990 p. 43; mae adran 119(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu bod effaith adran 88(6)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn peidio o ran bod yn gymwys i'r ail o'r Deddfau hyn ac, yn rhinwedd adran 4(2) o Ddeddf Cwn (Baeddu Tir) 1996, i gosbau penodedig am dramgwyddau cwn yn baeddu.back [11] O.S. 2006/768 (Cy. 75) (C. 18).back
ISBN 0 11 091406 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 25 October 2006 |