Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) 2006, ISBN 0110914074. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 a deuant i rym ar 18 Hydref 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) ystyr "Rheoliadau Cymhorthdal Incwm" ("the Income Support Regulations") yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[3].
Addasiadau i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
(b) any sum in excess of the sum set out as the maintenance grant amount in regulation 57(4)(b) of the Education (Student Support) Regulations 2006 (new system students with full entitlement)[5] which forms part of a maintenance grant paid pursuant to regulation 48 of those Regulations (qualifying conditions for the maintenance grant); (c) any sum in excess of the sum set out as the maintenance grant amount in regulation 57(4)(b), (c) or (d), as appropriate, of the Education (Student Support) Regulations (Northern Ireland) 2006 (new system students with full entitlement)[6] which forms part of a maintenance grant paid pursuant to regulation 49 of those Regulations (qualifying conditions for the maintenance grant).".";
(c) hepgorer y cofnodion sy'n dechrau gyda "As if in paragraph (3) from the beginning", "As if in paragraph (3), in sub-paragraph (a)" ac "As if in paragraph (3), in sub-paragraph (b)";
(b) in the case of a grant which is payable in respect of the final academic year of the course or if the course is only of one academic year's duration, in respect of that year the grant shall be apportioned equally between the weeks in the period beginning with the start of the final academic year or, as the case may be, the single academic year and ending with the last day of the course."";
(d) yn lle'r cofnod sy'n dechrau gyda "As if in paragraph (3A)", rhodder "Omit paragraph (3A)";
(3) Yn Nhabl A yn yr addasiadau i reoliad 66A o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (ymdrin â benthyciadau myfyrwyr), cyn y cofnod cyntaf mewnosoder—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 ("Rheoliadau 1988") i gymryd i ystyriaeth y newidiadau i'r ddarpariaeth, o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr, a wneir gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("Rheoliadau Cymru 2006"), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2006 ("Rheoliadau Lloegr 2006"), a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 2006 ("Rheoliadau Gogledd Iwerddon 2006") a newidiadau canlyniadol i'r ffordd y cyfrifir hawl myfyriwr i gael cymhorthdal incwm. Wrth gyfrifo adnoddau ac anghenion person o dan Reoliadau 1988 er mwyn canfod a all person hawlio'r hawl i beidio â thalu taliadau'r GIG a threuliau teithio'r GIG, defnyddir fersiwn wedi'i haddasu o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 fel a geir yn Atodlen 1 i Reoliadau 1988 ("Atodlen 1"). Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu ymhellach Atodlen 1 i ddarparu: — bod unrhyw incwm grant sydd gan fyfyriwr yn cael ei ddosrannu dros gyfnod o 52 o wythnosau, yn hytrach na thros y cyfnod astudio mewn unrhyw un flwyddyn, ac eithrio yn y flwyddyn astudio olaf, neu yn ystod cwrs un flwyddyn pan fydd y cyfnod perthnasol yn cyfateb i'r cyfnod astudio, neu pan fydd y myfyriwr ar gwrs brechdan; — y dylid diystyru wrth gyfrifo incwm grant myfyriwr unrhyw swm sy'n ychwanegol at y swm a bennir yn rheoliad 33(4)(b) o Reoliadau Cymru 2006, ac a delir fel rhan o grant cynnal a chadw yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau hynny; — y dylid diystyru wrth gyfrifo incwm grant myfyriwr unrhyw swm sy'n ychwanegol at y swm a bennir yn rheoliad 57(4)(b) o Reoliadau Lloegr 2006, ac a delir fel rhan o grant cynnal a chadw yn unol â rheoliad 48 o'r Rheoliadau hynny; — y dylid diystyru wrth gyfrifo incwm grant myfyriwr unrhyw swm sy'n ychwanegol at y swm a bennir yn gyfanswm y grant cynnal a chadw ym mharagraffau (b), (c) neu (d) o reoliad 57(4) o Reoliadau Gogledd Iwerddon 2006 (bydd cyfansymiau'r grant yn gwahaniaethu yn unol â lefel y grant cynnal a chadw y bydd myfyriwr yn gymwys i'w gael o dan Reoliadau Gogledd Iwerddon 2006), ac a delir fel rhan o grant cynnal a chadw o dan reoliad 49 o'r Rheoliadau hynny; ac — y dylid diystyru wrth gyfrifo incwm benthyciad myfyriwr unrhyw fenthyciad a delir o dan reoliad 10 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Yr Alban) 2000. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn a mae copi ohono wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir gael copïau oddi wrth y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1977 (p.49). Mewnosodwyd adran 83A gan adran 14(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988") ac fe'i diwygiwyd gan adran 25 o Ddeddf 1988 a pharagraff 6 o Atodlen 2 iddi, adran 41(10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) a pharagraff 19 o Atodlen 2 iddi, erthygl 2 o O.S. 1998/2385, erthygl 3(1) o O.S. 2000/90, a pharagraff 5 a 13 o Atodlen 1 iddo, adran 66(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") a pharagraff 18(5) o Atodlen 9 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) a pharagraff 40 o Atodlen 1 iddi, adran 2(5) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002") a pharagraffau 1 a 32 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi a chan adrannau 34 a 184 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003") a pharagraffau 23 a 32(b) o Atodlen 4 iddi, a pharagraffau 7 a 31 o Atodlen 11 iddi. Mae adran 126(4) wedi'i diwygio gan adran 65(2) o Ddeddf 1990, adran 65(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999") a pharagraffau 4 a 37 o Atodlen 4 iddi, adran 67(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) a pharagraffau 5 a 13 o Ran 1 o Atodlen 5 iddi, adrannau 6(3)(c) a 37(1) o Ddeddf 2002 ac adrannau 184 a 196 o Ddeddf 2003 a pharagraffau 7 a 38 o Atodlen 11 iddi, a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi. Trosglwyddir swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back [2] O.S.1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1989/394, 517 a 614, 1990/548, 918 a 661, 1991/557, 1992/1104, 1993/608, 1995/642 a 2352, 1996/410, 1346 a 2362, 1997/748 a 2393, 1998/417, 1999/767 a 2840 (Cy.20), 2001/1397 (Cy.92) a 3322 (Cy.275), 2003/975 (Cy.134) a 2561 (Cy.250), 2004/871 (Cy.86) a 1042 (Cy.124), 2005/1723 (Cy.135) a 3302 (Cy.256) a 2006/1389 (Cy.139).back [4] O.S. 2006/126 (Cy.19).back [5] O.S. 2006/119, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/955 ac O.S. 2006/1745.back [6] S.R. (NI) 2006 Rhif 312.back
ISBN 0 11 091407 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 25 October 2006 |