Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006, ISBN 0110914023. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 23 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn yw Gorchymyn Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Y Diwrnod Penodedig 2. 14 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf ddod i rym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 10 Hydref 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006[3]) ("y Ddeddf") ac mae'n gymwys i Gymru. Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 14 Hydref 2006 adrannau 1 i 22 o'r Ddeddf. Daeth darpariaethau'r Ddeddf a oedd yn weddill i rym ar ddyddiad y Cydsyniad Brenhinol. Notes: [1] 2006 p.30.back
ISBN 0 11 091402 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 18 October 2006 |