Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006, ISBN 0110914058. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 185(2) a (3) o Ddeddf Tai 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 9 Hydref 2006.
Dehongli
(2) At ddibenion y diffiniad o "ceisydd lloches", penderfynir hawliad lloches ar ddiwedd y cyfnod sy'n dechrau—
(b) os yw'r hawlydd wedi apelio yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, ar y diwrnod y gwaredir yr apêl,
a hwnnw'n gyfnod a ragnodir o dan adran 94(3) o Ddeddf Ymfudo a Lloches 1999[6].
(b) mae i "cymorthdal incwm" yr un ystyr ag "income support" yn adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[7] (cymhorthdal incwm); ac (c) mae person ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar unrhyw ddiwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy i'r person hwnnw ac ar unrhyw ddiwrnod—
(ii) sy'n ddiwrnod aros at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf 1995 (diwrnodau aros) ac sy'n dod yn union cyn diwrnod y mae lwfans ceisio gwaith ar sail incwm yn daladwy ar ei gyfer i'r person hwnnw neu y byddai'n daladwy iddo oni bai am adran 19 o Ddeddf 1995.
Dosbarthiadau o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sy'n gymwys i gael cymorth tai
(b) Dosbarth B—person—
(ii) nad yw ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw gynnal ei hun a lletya ei hun, ac unrhyw berson sy'n dibynnu ar y person hwnnw, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
(c) Dosbarth C—person y mae ganddo ganiatâd cyfredol i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a hwnnw'n ganiatâd nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad neu amod ac sy'n preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin ac eithrio person—
(ii) sydd wedi bod yn preswylio yn y Deyrnas Unedig am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i'r Deyrnas Unedig neu'r dyddiad y rhoddwyd yr ymrwymiad ar gyfer y person hwnnw, pa ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf; a (iii) y mae ei noddwr, neu pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o'i noddwyr, yn dal yn fyw;
(ch) Dosbarth D—person a adawodd diriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydriad llosgfynyddol ar y diriogaeth honno;
(ii) cyn 3 Ebrill 2000 yr oedd ar awdurdod tai ddyletswydd iddo o dan Ran III o Ddeddf Tai 1985[11] (tai a'r digartref) neu Ran VII o Ddeddf 1996 (digartrefedd) sy'n dal mewn bodolaeth, a'r person hwnnw'n wladolyn gwladwriaeth sy'n un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Gymorth Cymdeithasol a Meddygol a wnaed ym Mharis ar 11 Rhagfyr 1953 neu wladwriaeth sy'n un o lofnodwyr Siarter Cymdeithasol Ewrop a wnaed yn Torino ar 18 Hydref 1961;
(dd) Dosbarth F—person sy'n geisydd lloches ac a gyflwynodd hawliad lloches—
(ii) nad yw wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) neu wedi'i ollwng;
(e) Dosbarth G—person sy'n geisydd lloches ac—
(ii) a gyflwynodd hawliad lloches sydd wedi'i gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un a oedd wedi'i gyflwyno o fewn cyfnod o dri mis o'r diwrnod y cafodd y datganiad hwnnw ei wneud; a (iii) y mae ei hawliad lloches heb ei gofnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) neu wedi'i ollwng;
(f) Dosbarth H—person sy'n geisydd lloches ac—
(ii) yr oedd ganddo, ar 4 Chwefror 1996, hawl i gael budd-dal o dan reoliad 7A o Reoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987[12] (personau o dramor);
(ff) Dosbarth I—person sydd ar lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu'n cael cymhorthdal incwm ac sy'n gymwys i gael y budd-dal hwnnw am reswm gwahanol i'r rheswm—
(ii) y barnwyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Personau wedi'u Dadleoli (Amddiffyn Dros Dro) 2005[13] fod y person hwnnw wedi cael caniatâd eithriadol i ddod i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno at ddibenion darparu moddion byw; ac
(g) Dosbarth J—person y mae amddiffyniad dyngarol wedi'i roi iddo o dan y Rheolau Mewnfudo.
(2) Ym mharagraff (1)(f)(i) (Dosbarth H), mae hawliad lloches perthnasol yn hawliad lloches—
(b) sydd wedi'i gofnodi fel un sydd wedi'i benderfynu (ac eithrio ar apêl) ar neu cyn 4 Chwefror 1996 ac y mae apêl yn yr arfaeth—
(ii) a oedd wedi'i gwneud o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y rheolau gweithdrefn a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1971[14] (gweithdrefn).
(3) Ym mharagraff (1)(ff)(i) (Dosbarth I), ystyr "rheolau mewnfudo perthnasol" ("relevant immigration rules") yw'r rheolau mewnfudo ynghylch—
(b) sefyllfa pan na ddidynnir unrhyw swm o gronfeydd cyhoeddus.
(4) Ym mharagraff (1)(ff) (Dosbarth I), mae i "moddion byw" yr un ystyr â "means of subsistence" yn rheoliad 4 o Reoliadau Personau wedi'u Dadleoli (Amddiffyn Dros Dro) 2005[15].
(b) person y mae ei hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon, yn deillio'n unig o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 90/364/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 90/365/EEC.
(2) Ni fydd y personau canlynol, serch hynny, yn cael eu trin fel personau o dramor sy'n anghymwys yn unol â pharagraff (1)(a)—
(b) person sy'n weithiwr i wladwriaeth sydd wedi'i derbyn ac y mae arno angen cael ei gofrestru ac sy'n cael ei drin fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o berson cymwysedig ("qualified person") yn rheoliad 6 o Reoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006[16] yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodi (Mewnfudo a Chofrestru Gweithwyr) 2004[17]; (c) person sydd â hawl i breswylio yn unol â Rheoliadau Mewnfudo (Ardal Economaidd Ewropeaidd) 2006[18], a honno'n hawl sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Cyngor Rhif 68/360/EEC, Rhif 73/148/EEC neu Rif 75/34/EEC; (ch) person a adawodd diriogaeth Montserrat ar ôl 1 Tachwedd 1995 oherwydd effaith ffrwydriad llosgfynyddol ar y diriogaeth honno.
(3) Ni fydd person yn cael ei drin fel un sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon at ddibenion paragraff (1)(a) os nad oes ganddo hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Weriniaeth Iwerddon. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Nid yw person sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo yn gymwys i gael cymorth tai o dan Ran VII o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd) oni bai bod y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a ragnodwyd o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (adran 185(2)). Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth ynghylch disgrifiadau eraill o bersonau sydd i'w trin at ddibenion Rhan VII fel personau o dramor sy'n anghymwys i gael cymorth tai (adran 185(3)). Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod dosbarth newydd o bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sy'n gymwys i gael cymorth tai ac sy'n cael amddiffyniad dyngarol. Mae amddiffyniad dyngarol yn ffurf ar ganiatâd a roddir i bersonau nad ydynt yn gymwys i gael statws ffoaduriaid ond a fyddai'n wynebu risg gwirioneddol o ddioddef niwed difrifol os caent eu hanfon yn ôl i'r wladwriaeth y maent yn tarddu ohoni (gweler paragraffau 339C-344C o'r Rheolau Mewnfudo (HC395)). Ni fydd y Rheoliadau hyn yn effeithio ar geisiadau am gymorth tai a wneir cyn 9 Hydref 2006. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Digartrefedd (Cymru) 2000. Notes: [1] 1996 p.52.back [6] 1999 p.33. Gweler adran 167 o'r Ddeddf honno i gael y diffiniad o "prescribed" at ddibenion y Ddeddf honno.back [7] 1992 p.4. Diwygiwyd adran 124 gan baragraff 30 o Atodlen 2, a chan Atodlen 3, i Ddeddf 1995.back [8] Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 67 o Atodlen 1 i'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (p.18) a pharagraff 141 o Atodlen 7 i Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p.14).back [11] 1985 p.68. Nid yw diddymiad Rhan III, a ddechreuwyd gan Ddeddf Tai 1996 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol) 1996 (O.S. 1996/2959 (p.88)), yn rhinwedd paragraff 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw, yn gymwys i geiswyr o dan Ran III o'r Ddeddf honno yr oedd eu ceisiadau wedi'u gwneud cyn 20 Ionawr 1997.back [12] O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/470 a 1994/1807.back [14] Diwygiwyd adran 22 gan O.S. 1987/465; mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diddymwyd adran 22 o Ddeddf 1971 gan Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 p.33. 2 Hydref 2000 oedd y dyddiad dod i rym at ddibenion penodol yn unig (OS 2000/2444).back [19] O.S. 2000 Rhif 1079 (Cy.72).back
ISBN 0 11 091405 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 October 2006 |