Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006, ISBN 0110914007. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli sŵn amgylcheddol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 4 Hydref 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) yn golygu y dylai mapiau sŵn strategol a wneir neu a ddiwygir o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyfyngedig i Gymru. (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn amgylcheddol sydd o fewn clyw pobl, a hynny'n benodol mewn ardaloedd adeiledig, mewn parciau cyhoeddus neu mewn ardaloedd tawel eraill mewn crynodref, yn agos i ysgolion, ysbytai ac adeiladau ac ardaloedd eraill sy'n sensitif o ran sŵn. (5) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sŵn a achosir gan y person ei hun sydd o fewn clyw i'r sŵn, sŵn sy'n deillio o weithgareddau domestig, sŵn a gaiff ei greu gan gymdogion, sŵn mewn gweithleoedd, sŵn y tu mewn i gyfrwng cludo neu sŵn a achosir gan weithgareddau milwrol mewn ardaloedd milwrol. Dehongli 2. —(1) Oni bai eu bod yn cael eu diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb yr ystyr sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) ffordd ddosbarth; neu (c) prif ffordd yn ogystal â ffordd ddosbarth,
yn rhinwedd adran 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p'un ai oherwydd ei bod yn dod o fewn is-adran (1), neu oherwydd ei bod yn ffordd ddosbarth o dan is-adran (3));
Nodi ffynonellau sŵn
(b) prif ffyrdd cylch cyntaf; (c) prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac (ch) prif feysydd awyr.
(2) Rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau a heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011, yr holl—
(b) prif ffyrdd; (c) prif reilffyrdd; ac (ch) prif feysydd awyr.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw'r rheoliadau diweddaraf a gynhyrchir yn unol â'r rheoliad hwn yn briodol mwyach.
(b) prif ffyrdd; (c) prif reilffyrdd; neu (ch) prif feysydd awyr,
yn ôl yr angen.
(b) y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.
(7) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(a) neu (4)(a) i nodi crynodrefi, rhaid i'r Cynulliad nodi ardaloedd—
(b) y mae o'r farn eu bod yn drefoledig.
(8) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(b) i nodi prif ffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—
(ii) yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu (iii) yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;
(b) y mae arnynt fwy na chwe miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac
(9) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (2)(b) neu (4)(b) i nodi prif ffyrdd rhaid i'r Cynulliad nodi ffyrdd—
(ii) yn draffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, neu (iii) yn brif ffyrdd neu'n ffyrdd dosbarth;
(b) y mae arnynt fwy na thair miliwn o dramwyadau cerbyd y flwyddyn; ac
(10) Pan fydd yn cyflawni ei ddyletswydd o dan baragraff (1)(c) i nodi prif reilffyrdd cylch cyntaf rhaid i'r Cynulliad nodi rheilffyrdd y mae arnynt fwy na 60,000 o dramwyadau trên y flwyddyn. Mapiau sŵn strategol: gofynion cyffredinol 4. —(1) Rhaid i unrhyw fap sŵn strategol a wnaed neu a ddiwygiwyd o dan y Rhan hon fodloni'r gofynion cymwys yn Atodlen 1. (2) Rhaid i awdurdod cymwys o dan reoliad 6 neu 10 gymhwyso—
(b) y dangosyddion sŵn atodol ym mhob achos a restrir fel enghreifftiau ym mharagraff 3 o Atodiad I i'r Gyfarwyddeb,
pan fydd yn gwneud neu'n diwygio mapiau sŵn strategol o dan y Rhan hon. Cymhwyso 5. Nid yw'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi. Awdurdod Cymwys 6. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad. Dyletswydd i wneud, adolygu a diwygio mapiau sŵn strategol 7. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2007, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—
(b) prif ffyrdd cylch cyntaf; (c) prif reilffyrdd cylch cyntaf; ac (ch) prif feysydd awyr.
(2) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 30 Mehefin 2012, a phob pum mlynedd ar ôl hynny, wneud ac, yn unol â rheoliad 23, fabwysiadu mapiau sŵn strategol yn dangos y sefyllfa yn y flwyddyn galendr flaenorol ar gyfer yr holl—
(b) prif ffyrdd; (c) prif reilffyrdd; ac (ch) prif feysydd awyr.
(3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—
(b) diwygio, os bydd angen,
unrhyw fapiau sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23. Cymhwyso 8. Mae'r Bennod hon yn gymwys i sŵn o feysydd awyr heb eu dynodi. Dehongli 9. —(1) Yn y Bennod hon—
(b) yr wybodaeth a'r data y mae paragraff 3(2) neu 4(2) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.
(2) Mae unrhyw ofyniad yn y Bennod hon am gyflwyno data mewnbwn i awdurdod cymwys yn ofyniad am gyflwyno'r data mewnbwn hynny ar fformat—
(b) sy'n caniatáu ei drin yn electronig; ac (c) nad yw'n ofynnol ei drin er mwyn atgynhyrchu'r data Rhif iadol ar ffurf electronig y mae paragraff 3(2)(b) neu 4(2)(b) (fel y bo'n briodol) yn Atodlen 1 yn eu gwneud yn ofynnol.
Awdurdod Cymwys
(b) cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.
(3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—
(b) diwygio, os bydd angen,
unrhyw fap sŵn strategol map a wnaed yn unol â pharagraff (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.
(b) cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data mewnbwn a metadata.
(2) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2012, a phob pum mlynedd wedi hynny—
(b) cyflwyno'r map hwnnw i'r Cynulliad ynghyd â data a metadata.
(3) O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn, rhaid i'r awdurdod cymwys—
(b) diwygio, os bydd angen,
unrhyw fap sŵn strategol a wnaed yn unol â pharagraffau (1) neu (2) ac a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23.
(b) y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,
yn unrhyw le o fewn y grynodref;
(b) y mae ei werth Lnight yn 50 dB(A) neu fwy,
yn unrhyw le o fewn y grynodref cylch cyntaf. Nodi ardaloedd tawel 13. —(1) Heb fod yn hwyrach na—
(b) 30 Medi 2012,
rhaid i'r Cynulliad nodi, a hynny ar ffurf rheoliadau, ardaloedd tawel mewn crynodrefi. Dyletswydd i gyhoeddi meini prawf neu werthoedd terfyn 14. Rhaid i'r Cynulliad, a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2007 gyhoeddi canllawiau sy'n gosod gwerthoedd terfyn neu feini prawf eraill ar gyfer nodi blaenoriaethau i gynlluniau gweithredu. Cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol 15. —(1) Rhaid i unrhyw gynllun gweithredu a gaiff ei lunio neu ei ddiwygio o dan y Rhan hon—
(b) gael ei gynllunio i drafod materion ac effeithiau sŵn, gan gynnwys lleihau sŵn os bydd angen; (c) amcanu i ddiogelu ardaloedd tawel mewn crynodrefi rhag cynnydd mewn sŵn; (ch) ymdrin â blaenoriaethau y mae'n rhaid eu nodi drwy roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 14; (d) bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd mwyaf pwysig fel y'u cadarnhawyd gan fapiau sŵn strategol a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23; ac (dd) bodloni'r gofynion yn Atodlen 4.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i—
(b) unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu,
a gaiff ei lunio o dan y Rhan hon ar gyfer crynodref.
(ii) yn ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi; a
(b) map sŵn cyfunol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "map sŵn cyfunol" ("consolidated noise map") yw un map sŵn strategol sy'n gyfuniad o bob map sŵn strategol—
(b) sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi.
Awdurdod Cymwys 16. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad. Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu 17. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 18 Gorffennaf 2008, lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—
(b) lleoedd yn agos i brif reilffyrdd cylch cyntaf; ac (c) crynodrefi cylch cyntaf.
(2) Rhaid i'r awdurdod cymwys a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2013 lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—
(b) lleoedd yn agos i brif reilffyrdd; ac (c) crynodrefi.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys—
(b) pob pum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.
(4) Rhaid i'r awdurdod cymwys—
(b) diwygio, os bydd angen,
y cynllun gweithredu. Awdurdod Cymwys 18. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr. Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu 19. —(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—
(b) cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.
(2) Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.
(b) cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys—
(b) o leiaf bob pum mlynedd ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.
(5) Rhaid i'r awdurdod cymwys—
(b) diwygio, os bydd angen,
y cynllun gweithredu. Cyfranogiad cyhoeddus 20. —(1) Rhaid i awdurdodau cymwys, wrth baratoi a diwygio cynlluniau gweithredu o dan reoliadau 16 ac 18 sicrhau—
(b) y rhoddir i'r cyhoedd gyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ac adolygu'r cynlluniau gweithredu; (c) y rhoddir sylw i ganlyniadau'r cyfranogiad cyhoeddus hwnnw; (ch) y rhoddir gwybod i'r cyhoedd am y penderfyniadau a wneir; a (d) y darperir amserlenni rhesymol yn caniatáu digon o amser ar gyfer pob cam o gyfranogiad y cyhoedd.
Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith 21. —(1) Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—
(b) yn nodi bod awdurdod cyhoeddus yn gyfrifol am weithred benodol,
rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.
(ii) yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun gweithredu neu'r diwygiad (os nad y Cynulliad sy'n gyfrifol am hynny),
(3) Yn y rheoliad hwn mae "awdurdod cyhoeddus" ("public authority") yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—
(b) llysoedd na thribiwnlysoedd; nac (c) y Cynulliad.
Cydweithio ag awdurdodau cymwys allanol 22. —(1) Pan fydd angen hynny er mwyn iddo fodloni ei rwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i awdurdod cymwys wneud pob ymdrech resymol i sicrhau cydweithrediad awdurdod cymwys allanol. (2) Rhaid i awdurdod cymwys—
(b) os oes angen hynny er mwyn iddo fodloni rhwymedigaethau'r awdurdod cymwys hwnnw sy'n deillio o dan y Gyfarwyddeb,
gydweithredu â'r awdurdod cymwys allanol hwnnw. Mabwysiadu mapiau sŵn strategol 23. —(1) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod map sŵn strategol—
(b) a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (4); neu (c) a wnaed neu a ddiwygiwyd ganddo,
yn bodloni gofynion rheoliad (4), rhaid iddo fabwysiadu'r map.
(b) gwrthod y map.
(3) Os gwrthodir map sŵn strategol yn unol â pharagraff (2)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—
(b) o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio'r map a'i ailgyflwyno.
(4) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (3) gyflwyno'r map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(b) map sŵn strategol sydd wedi'i ddiwygio,
rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y map yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.
(b) a gyflwynir iddo yn unol â pharagraff (5); neu (c) a lunnir neu a ddiwygir ganddo,
yn bodloni gofynion rheoliad 15, caiff fabwysiadu'r cynllun gweithredu.
(b) os na fabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (1).
(3) Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys rhaid i'r Cynulliad—
(b) gwrthod y cynllun.
(4) Os gwrthodir cynllun gweithredu yn unol â pharagraff (3)(b) rhaid i'r Cynulliad hysbysu'r awdurdod cymwys a'i cyflwynodd—
(b) o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid diwygio ac ailgyflwyno'r cynllun.
(5) Rhaid i'r sawl sy'n derbyn hysbysiad o dan baragraff (4) gyflwyno'r cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio i'r Cynulliad erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(b) cynllun gweithredu sydd wedi'i ddiwygio,
rhaid iddo gymryd y cyfryw gamau y mae o'r farn eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod y cynllun gweithredu'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn. Cymhwyso 25. Nid yw'r Rhan hon yn gymwys i unrhyw swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn os y Cynulliad yw'r awdurdod cymwys ar eu cyfer. Pwerau 26. —(1) Caiff y Cynulliad ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cymwys ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn. (2) O ran cais am wybodaeth yn unol â pharagraff (1)—
(b) caiff bennu ar ba fformat y mae'n rhaid darparu gwybodaeth; ac (c) caiff bennu o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid i ymateb ddod i law.
(3) Os bydd cais yn dod i law awdurdod yn unol â pharagraff (1) rhaid iddo ymateb—
(b) os na phennir y cyfryw gyfnod, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg i dderbyn y cais.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys—
(b) pan fydd o'r farn oherwydd unrhyw weithred neu ddiffyg gweithredu, neu unrhyw weithred debygol neu ddiffyg gweithredu tebygol gan yr awdurdod cymwys fod—
(ii) gofyniad a osodwyd ar y Deyrnas Unedig gan y Gyfarwyddeb,
yn annhebygol o gael ei fodloni.
(5) Caiff y Cynulliad arfer y cyfryw swyddogaethau hynny o blith swyddogaethau'r awdurdod cymwys ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.
(b) rheoliad 24(3); neu (c) rheoliad 26(5),
caiff adennill y treuliau hynny oddi wrth yr awdurdod cymwys perthnasol ar ffurf dyled sifil.
(b) mewn perthynas â rheoliad 24(3), yw'r awdurdod cymwys a gyflwynodd y cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 19; ac (c) mewn perthynas â rheoliad 26(5), yw'r awdurdod cymwys y mae'r Cynulliad yn arfer ei swyddogaethau yn unol â'r rheoliad hwnnw.
Awdurdod Cymwys 28. Yr awdurdod cymwys o ran y Rhan hon yw'r Cynulliad. Argaeledd mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu 29. —(1) Rhaid i unrhyw—
(b) cynllun gweithredu y sicrheir ei fod ar gael i'r cyhoedd cyn iddo gael ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,
gynnwys, a hynny mewn lle amlwg, eiriau yn nodi mai drafft ydyw hyd oni chaiff ei fabwysiadu gan y Cynulliad.
(b) cynllun gweithredu a gaiff ei fabwysiadu'n unol â rheoliad 24,
gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod cymwys yn unol â gofynion paragraff (3).
(b) rhaid ei arddangos ar wefan y Cynulliad; (c) rhaid iddo fod ar gael i'w archwilio yn ystod oriau swyddfa arferol ym mhrif swyddfa'r Cynulliad; ac (ch) rhaid ei gyflenwi am ffi resymol pan ofynnir amdano.
30. Rhaid i awdurdod cymwys, wrth arfer unrhyw un neu rai o'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad o dan y rheoliad hwn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 3 Hydref 2006 Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon—
(b) a chanddynt gyfeiriad gofodol i system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans, a hynny fel pâr o gyfanrifau i ddangos mewn metrau Ddwyreiniau ac yna Ogleddiadau o'r tarddiad, ac (c) sydd wedi'u halinio â fertigau 10 metr system gyfeirio'r Grid Cenedlaethol Prydeinig a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans a hynny fel bod y cyfeiriadau'n diweddu â'r Rhif sero;
(b) plotiau graffigol,
er mwyn arddangos yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraffau 1.5, 1.6, 1.7, 2.5, 2.6 a 2.7 o Atodiad VI i'r Gyfarwyddeb.
(b) bod yn glir ac yn ddealladwy.
(2) Wrth gymhwyso paragraff 1(a) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad IV i'r Gyfarwyddeb at—
(b) Erthygl 9 o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 29 o'r Rheoliadau hyn.
Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i grynodrefi
(b) diwygiad o'r cyfryw fap sŵn strategol.
(2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—
(b) cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys y gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.
Gofynion ar gyfer mapiau sŵn strategol i brif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr
(ii) rheoliad 7(2)(b) i (ch), (iii) rheoliad 11(2); neu
(b) unrhyw ddiwygiad o'r cyfryw fap.
(2) Rhaid i fapiau sŵn strategol—
(b) cynnwys ar fformat electronig ddata Rhif iadol y gellir eu golygu sy'n cynnwys gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol ar grid.
Rhagarweiniad 1. —(1) Rhaid canfod gwerthoedd Lden, Lnight a'r dangosyddion sŵn atodol drwy gyfrifiannu (yn y safle asesu). (2) Yn yr Atodlen hon—
Dull asesu ar gyfer dangosyddion sŵn traffig ffyrdd
(b) "Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Engineering method in an essentially free field over a reflecting plane" (BS EN ISO 3744: 1995, Y Sefydliad Safonau Prydeinig); (c) "Acoustics. Determination of sound power levels of noise sources using sound pressure. Survey method using an enveloping measurement surface over a reflecting plane" (BS EN ISO 3746:1996, Y Sefydliad Safonau Prydeinig),
neu drwy ddefnyddio Arweinlyfr 10 o "Good Practice Guide for Strategic Noise Mapping and the Production of Associated Data on Noise Exposure Version 2, Position Paper Final Draft" (Asesiad Gweithgor y Comisiwn Ewropeaidd o Fod o Fewn Clyw i Sŵn, 13 Ionawr 2006). Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon—
Swn Traffig Ffyrdd
(b) LAeq, 16h; (c) Lday; ac (ch) Levening.
Sŵn Rheilffyrdd
(b) LAeq, 18h; (c) LAeq,6h; (ch) Lday; a (d) Levening.
Sŵn Awyrennau
(b) Lday; ac (c) Levening.
Sŵn Diwydiannol a Sŵn Porthladdoedd
(b) Lday; a (c) Levening.
Cyffredinol 1. —(1) Rhaid i gynllun gweithredu—
(b) cynnwys crynodeb, heb fod yn fwy nad deg tudalen o hyd, yn cwmpasu pob un o'r agweddau pwysig y cyfeirir atynt yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb.
(2) Wrth gymhwyso paragraff (1) mae unrhyw gyfeiriad yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb at—
(b) Erthygl 8(7) o'r Gyfarwyddeb i'w ystyried yn gyfeiriad at reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2002/49/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 25 Mehefin 2002 sy'n ymwneud ag asesu a rheoli sŵn amgylcheddol (O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t.12) (y 'Gyfarwyddeb'). Mae asesiad llawn o'r effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes ar gael (gweler y tabl isod). Ac eithrio rheoliad 22(2), dim ond i ffynonellau sŵn yng Nghymru y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys. Mapiau sŵn strategol Gwneir y mapiau sŵn strategol mewn dau gylch, y cyntaf yn 2007 a'r ail yn 2012. Yn yr ail gylch, bydd yn rhaid mapio nifer fwy o'r un math o ffynonellau sŵn nag a wneir yn y cylch cyntaf. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid gwneud mapiau sŵn strategol bob pum mlynedd. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) nodi'r ffynonellau sŵn y mae'n rhaid gwneud mapiau sŵn strategol ar eu cyfer. Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer crynodrefi, prif ffyrdd, prif reilffyrdd a phrif feysydd awyr a ddynodir o dan adran 80 at ddibenion adran 78 o Ddeddf Hedfan Sifil 1982 (1982 p.16). O bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd, rhaid i'r Cynulliad adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen). Mae rheoliadau 11 a 12 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer meysydd awyr nad ydynt yn ddynodedig o dan Ddeddf Hedfan Sifil 1982. Bydd angen gwneud mapiau sŵn strategol ar gyfer: (i) pob prif faes awyr nad yw'n ddynodedig; a (ii) sŵn mewn crynodrefi sy'n deillio o unrhyw feysydd awyr nad ydynt yn brif feysydd awyr (os yw sŵn awyrennau yn arwain at werth 55 Lden neu 50 Lnight yn unrhyw le yn y crynodrefi hynny). Bydd angen adolygu mapiau sŵn strategol (a'u diwygio, os bydd angen) o bryd i'w gilydd, a pha bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i fapiau sŵn strategol gael eu gwneud, rhaid i weithredwyr y maes awyr eu cyflwyno (neu gyflwyno diwygiadau ohonynt) i'r Cynulliad i'w mabwysiadu. Rhaid i bob map sŵn strategol fodloni'r gofynion a osodir yn rheoliad 4. Mae rheoliad 4 ac Atodlen 3 yn pennu pa ddangosyddion sŵn a pha ddangosyddion sŵn atodol y mae'n rhaid eu defnyddio wrth wneud mapiau sŵn strategol. Mae Atodlen 2 yn gosod y dulliau asesu sydd i'w defnyddio i gyfrifiannu gwerthoedd dangosyddion sŵn. Pennir dulliau gwahanol ar gyfer pob ffynhonnell sŵn. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad nodi mannau tawel mewn crynodrefi. Cynlluniau gweithredu Rhaid llunio cynlluniau gweithredu mewn dau gylch (y cyntaf yn 2008 a'r ail yn 2013) yn sgil y ddau gylch o fapiau sŵn strategol y seilir y cynlluniau gweithredu arnynt. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad gyhoeddi canllawiau ar sut y dylid nodi'r blaenoriaethau yn y cynlluniau gweithredu. Mae rheoliad 15 yn gosod y gofynion ar gyfer cynlluniau gweithredu. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer lleoedd ger prif ffyrdd a phrif reilffyrdd, ac ar gyfer crynodrefi. Rhaid i'r Cynulliad adolygu (a diwygio, os oes angen) y cynlluniau gweithredu bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Mae rheoliad 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr meysydd awyr lunio cynlluniau gweithredu mewn perthynas â phrif feysydd awyr. Rhaid i'r gweithredwr maes awyr adolygu'r cynlluniau gweithredu (a'u diwygio, os bydd angen) bob pum mlynedd neu'n gynharach os bydd prif ddatblygiad yn digwydd. Ar ôl i gynllun gweithredu gael ei lunio neu'i ddiwygio, rhaid i'r gweithredwyr meysydd awyr gyflwyno cynllun gweithredu i'r Cynulliad i'w fabwysiadu. Mae rheoliad 20 yn pennu'r cyfranogiad cyhoeddus sy'n ofynnol yn ystod cyfnod llunio a diwygio'r cynlluniau gweithredu. Mae rheoliad 21 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus drin cynlluniau gweithredu fel pe baent yn bolisi i'r graddau y mae'r cynllun gweithredu yn nodi mai hwy sy'n gyfrifol am weithred benodol. Caiff awdurdodau cyhoeddus wyro oddi wrth y polisïau hyn o dan amgylchiadau penodedig. Darpariaethau eraill Mae rheoliad 22 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys yng Nghymru gydweithio â'u cymheiriaid yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban ac yn Lloegr pan fydd angen gwneud hynny er mwyn bodloni rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau hyn neu o dan y Gyfarwyddeb. Mae rheoliadau 23 a 24 yn gosod y mecanwaith y mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio i fabwysiadu mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu yn y drefn honno. Mae rheoliad 26 yn rhoi'r pŵer i'r Cynulliad i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi gwybodaeth mewn perthynas â'u rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau neu i gamu i mewn a chyflawni swyddogaethau awdurdodau cymwys o dan amgylchiadau penodedig. Mae Rheoliad 27 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i adennill treuliau penodol oddi wrth awdurdodau cymwys. Mae Rheoliad 29 yn gosod gofynion ar gyfer cyhoeddi mapiau sŵn strategol a chynlluniau gweithredu. Mae Rheoliad 30 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad. Tabl Argaeledd dogfennau y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau
Notes: [1] O.S. 2004/706.back [3] O.J. Rhif L189, 18.07.2002, t. 12.back [5] 1984 p.27; diwygiwyd adran 17 gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraff 28 ac Atodlen 9, a chan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), Atodlen 7, paragraff 3 ac Atodlen 8.back [6] 1980 p.66. Mae Atodlen 4 wedi'i diwygio gan Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p.54), Atodlen 3, paragraff 21(3).back [8] Rhaglen SPIRE, Cyfeirnod y Cynnyrch: SIP – DP – 011.back [10] O.J. Rhif L212, 22.8.2003, t. 49.back [12] Paratowyd gan TRL Limited a Casella Stanger, Cyfeirnod y Ddogfen st/05/91/AGG04442.back [14] Paratowyd gan AEA Technology plc, Cyfeirnod y Ddogfen: AEATR-PC&E-2003-002.back [15] Mabwysiadwyd gan Unfed Cyfarfod Llawn ar Hugain ECAC, Cyfeirnod y Ddogfen: ECAC.CEAC Doc. 29.back
ISBN 0 11 091400 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 13 October 2006 |